Euro 2020: Cefnogwyr Denmarc 'yn cael teithio i Amsterdam'
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Denmarc wedi cael gwybod gan eu llywodraeth ei bod hi'n "dechnegol bosib" iddyn nhw deithio i Amsterdam i wylio'r gêm yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn.
Ni fydd cefnogwyr Cymru yn cael teithio i'r Iseldiroedd i weld y gêm rownd 16 olaf yn Euro 2020.
Mae llywodraethau Cymru a Denmarc yn annog eu cefnogwyr i beidio teithio am nad oes yr un o'r ddwy wlad ar restr 'diogel' yr Iseldiroedd.
Ond dywedodd Erik Brøgger Rasmussen, cyfarwyddwr Gwasanaeth Dinesydd Gweinyddiaeth Materion Tramor Denmarc, y gallai cefnogwyr Denmarc osgoi cwarantîn yn yr Iseldiroedd pe byddan nhw'n cyrraedd ac yn gadael y wlad o fewn 12 awr.
'Cefnogwch eich tîm o Gymru'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod galwad iddo lobïo Llywodraeth yr Iseldiroedd i ganiatáu i gefnogwyr o Gymru deithio i'r gêm.
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y cais yn y Senedd ddydd Mawrth.
Ond dywedodd Mark Drakeford fod cyngor yn erbyn mynd dramor i wylio'r tîm yn aros yr un fath.
"Yr un cyngor y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac yn wir y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, wedi'i roi i gefnogwyr, nad dyma'r flwyddyn i deithio i wylio Cymru yn chwarae dramor," meddai Mr Drakeford.
Dywedodd ei fod yn "hynod ddiolchgar" i'r miloedd o gefnogwyr sydd heb deithio dramor.
"Tra ein bod ni yn y sefyllfa rydyn ni ynddi yng Nghymru gydag amrywiad Delta yn codi… nid yw cyngor Llywodraeth Cymru wedi newid.
"Ein cyngor ni yw peidiwch â theithio, mwynhewch y gystadleuaeth, cefnogwch eich tîm o Gymru."
Dywedodd awdurdodau Denmarc ddydd Mawrth y gallai cefnogwyr deithio os ydyn nhw'n cyflwyno prawf PCR negyddol sy'n uchafswm o 72 awr oed.
Rhaid iddyn nhw hunan-ynysu am 10 diwrnod - ond gyda'r cyfle i brofi eu hunain allan ohono ar ddiwrnod pump - ac yn dod â thystysgrif cwarantîn sy'n dangos lle rydych chi am aros i hunan-ynysu.
"Gallwch chi fynd i'r pêl-droed, ond mae'n rhaid i chi gynllunio'n eithaf gofalus os nad ydych chi eisiau cael eich rhoi mewn cwarantîn mewn ystafell westy," meddai Mr Brøgger Rasmussen, yn ôl y gwasanaeth newyddion, Politiken.
"Dylai fod yn dechnegol bosib, ond mae'n rhaid i chi ei gynllunio'n eithaf gofalus.
"I'r mwyafrif o bobl, mae'n debyg y bydd yn well aros gartref. Rydyn ni'n eich annog chi i wylio'r ornest gartref.
"Rydym yn gwneud hynny'n rhannol oherwydd bod Llywodraeth yr Iseldiroedd yn cynghori'n gryf i hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd yr Iseldiroedd os arhoswch yn hwy na 12 awr," meddai.
Cyngor Llywodraeth Cymru 'heb newid'
Dywed Llywodraeth Cymru mai eu cyngor i gefnogwyr Cymru yw i beidio teithio ac nad yw hynny wedi newid, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Llywodraeth Denmarc fore Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw ein cyngor wedi newid ac mae'n parhau i gefnogi'r tîm gartref.
"Rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu teithio i wlad Ewropeaidd wirio'r gofynion teithio a'r cyfyngiadau sydd ar waith ar gyfer mynediad i'r wlad honno."
Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Llun, dywedodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan bod yr heddlu yn Amsterdam wedi dweud na fyddan nhw'n "caniatáu cefnogwyr o Gymru mewn i'r wlad".
Mae'r Iseldiroedd ar restr oren y DU sy'n golygu nad yw teithio yno yn cael ei argymell ac nid yw'r DU ar restr gwledydd diogel yr Iseldiroedd.
Fe gafodd y DU ei roi ar restr 'goch' Yr Iseldiroedd ar 15 Mehefin - wythnos yn ôl.
Mae Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf gan ddod yn ail yng Ngrŵp A.
Denmarc, ar ôl iddyn nhw guro Rwsia o 4-1 yn Copenhagen nos Lun, fydd eu gwrthwynebwyr yn Amsterdam ddydd Sadwrn.
Mae Cymru eisoes wedi chwarae dwy gêm yn Baku, Azerbaijan, cyn wynebu'r Eidal yn Rhufain, gydag ychydig gannoedd yn unig o'r 'Wal Goch' yn mynychu'r gemau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2021