Esgob Bangor yn ymddiheuro i Virginia Crosbie dros sylw ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Virginia CrosbieFfynhonnell y llun, Virginia Crosbie
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Virginia Crosbie iddi fynd i'r eglwys fel addolwr ac nid fel rhan o'i gwaith

Mae Esgob Bangor wedi ymddiheuro i AS Ynys Môn dros neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ei gwawdio wedi iddi ymweld ag eglwys yng Nghaergybi.

Aelod o'r gynulleidfa yn Eglwys Cybi wnaeth gyhoeddi'r neges ar Facebook ryw hanner awr wedi i Virginia Crosbie fod mewn gwasanaeth yno.

Roedd y neges yn ei chyhuddo o siarad gyda'r organydd fel modd o ennill ffafriaeth, gan ychwanegu "pwy mae hi'n trio'u twyllo" mewn cysylltiad â chynnig i helpu'r eglwys gyda cheisiadau ariannol.

Mewn llythyr at Ms Crosbie, dywedodd Esgob Andy John bod y neges Facebook yn "angharedig ac annerbyniol".

'Amharchus ac anghristnogol'

Dywed AS Ceidwadol Ynys Môn iddi ymweld â'r eglwys ddydd Sul 30 Mai fel addolwr, ac nid fel rhan o'i gwaith.

Ysgrifennodd at yr esgob gan ddatgan: "Rwyf yn siomedig eithriadol bod fy mhresenoldeb, a'r sgwrs ddilynol ynghylch sut y gallaf helpu'r eglwys, wedi cael eu rhannu'n gyhoeddus mewn ffordd mor amharchus, angharedig ac anghristnogol.

"Roeddwn yn disgwyl canfod cefnogaeth ysbrydol yn fy mhlwyf ac rwy'n gobeithio na fydd fy mhresenoldeb yn yr eglwys yn y dyfodol yn cael ei rannu'n gyhoeddus a'i wawdio."

Atebodd Esgob Bangor: "Ymddiheuraf yn ddiamod dros ymddygiad rhywun sy'n gysylltiedig â'r Eglwys yng Nghymru.

"Roedd eu hymddygiad yn angharedig ac annerbyniol.

"Rydym yn trafod yr ymddygiad penodol hwn gyda'r unigolion dan sylw ac yn rhagweld na ddigwyddith hyn eto.

"Yn fwy cyffredinol, rwyf yn ailddatgan fy nghanllawiau ynghylch defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn briodol a'r cyfrifoldeb Cristnogol o oddefgarwch a pharch trwy fy llythyr esgobol rheolaidd."

Ddechrau Mehefin fe wnaeth Esgob Tyddewi, Dr Joanne Penberthy ymddiheuro am negeseuon gwrth-Geidwadol a dileu ei chyfrif Twitter.