Esgob Tyddewi yn ymddiheuro am negeseuon gwrth-Geidwadol
- Cyhoeddwyd
Mae Esgob Tyddewi wedi ymddiheuro ar ôl gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud na ddylai pobl "fyth, fyth, fyth ymddiried mewn Tori".
Roedd yn un o sawl neges gan Dr Joanna Penberthy oedd yn feirniadol o gefnogwyr y Blaid Geidwadol, ac mae hi bellach wedi dweud y bydd yn dileu ei chyfrif Twitter.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod ei sylwadau yn "ofidus".
Mae Dr Penberthy, ddaeth yn esgob benywaidd cyntaf Cymru yn 2017, nawr wedi wynebu galwadau gan rai i ymddiswyddo.
'Anghyfrifol'
Mewn datganiad, dywedodd Dr Penberthy ei bod wedi ymateb i honiad ffug bod y blaid yn bwriadu diddymu'r Senedd.
"Ar 25 Mawrth 2021, mi wnes i gyhoeddi trydariad preifat am gefnogwyr y Blaid Geidwadol sydd wedi achosi tramgwydd ac rwyf yn ymddiheuro'n ddiffuant amdano," meddai.
"Roedd y trydariad mewn ymateb i drydariad arall a oedd yn honni fod y Blaid Geidwadol yn bwriadu diddymu'r Senedd.
"Er efallai bod unigolion o fewn y Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu datganoli yng Nghymru, rwy'n cydnabod nad yw diddymu'r Senedd yn ran o bolisi'r Blaid Geidwadol ac mi ddylwn fod wedi gwirio'r ffeithiau cynt.
"Rwyf, wrth gwrs, yn ymddiried ac wedi ymddiried yn llawer o Geidwadwyr ac yn gwybod bod yna lawer o bobl anrhydeddus yn y blaid honno."
Ychwanegodd: "Er fy mod yn arddel safbwyntiau gwleidyddol cryf, rwyf wedi eu mynegi ar Twitter mewn ffordd a oedd yn anghyfrifol ac yn amharchus ac rwy'n difaru hyn yn fawr.
"Rwyf bellach wedi cau fy nghyfrif."
Dywedodd Andrew RT Davies y bydd y safbwyntiau "anoddefgar a gyhoeddwyd o'r cyfrif cyhoeddus iawn hwn gan Esgob Tyddewi yn peri pryder i lawer o'i phlwyfolion yng ngorllewin Cymru".
Nid oedd yn "edrych yn dda" i'r Eglwys yn Nghymru, meddai.
Cerydd gan yr Eglwys
Cafwyd cannoedd o ymatebion i'w hymddiheuriad ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer yn feirniadol ac yn galw arni i ymddiswyddo.
Mewn ymateb dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod angen i'w clerigwyr "gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus... mewn ffordd sy'n barchus, yn gyfrifol, ac yn deg, gan gydnabod ehangder ac amrywiaeth barn wleidyddol o fewn yr Eglwys".
"Nid ydym yn cefnogi honiadau di-angen na sylwebaeth camarweiniol ac rydym yn annog pob clerig i gydnabod na ddylid disgwyl, fel deiliaid swyddi cyhoeddus, y bydd barn bersonol yn cael ei hystyried yn breifat.
"Mae safbwyntiau gwleidyddol cryf Esgob Tyddewi yn hysbys iawn.
"Rydym yn cydnabod ei bod wedi ymddiheuro am achosi tramgwydd ac rydym yn falch ei bod wedi cydnabod y niwed a'r difrod y mae wedi eu hachosi, ac ei bod wedi dileu ei chyfrif Twitter personol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd6 Awst 2017