Diwrnod o ddathlu gwerth a phwysigrwydd twyni tywod

  • Cyhoeddwyd
NiwbwrchFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 90% o'r tywod agored wedi diflannu yn yr 80 mlynedd diwethaf, medd prosiect Twyni Byw

Mae gweithgareddau'n cael eu cynnal ar draws Cymru i nodi blwyddyn gyntaf Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod.

Nod y diwrnod yw tynnu sylw at werth twyni tywod a phwysigrwydd gwarchod y "cynefinoedd arfordirol hanfodol hyn ledled y byd".

Mae'r achlysur hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch gwaith dau brosiect sy'n amddiffyn twyni yng Nghymru a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw.

Mae'r problemau sy'n eu heffeithio'n cynnwys cyflwyno planhigion estron goresgynnol, gor-sefydlogi'r twyni, diffyg pori, newid hinsawdd a llygredd aer.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiectau adfer yn ceisio ail-greu symudiad naturiol yn y twyni

Mae swyddogion prosiectau Twyni Byw, dolen allanol a Dynamic Dunescapes, dolen allanol wedi trefnu sawl digwyddiad ers dechrau'r wythnos fel rhan o'r dathliadau.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys teithiau cerdded tywys, sgyrsiau, celf traeth, casglu sbwriel, ioga a sesiynau ymwybyddiaeth natur.

'Amddiffyn twyni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'

Dywedodd rheolwr prosiect Twyni Byw, Kathryn Hewitt: "Rydym ni'n falch bod Twyni Byw wedi cyd-greu y Diwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod cyntaf erioed."

Y gobaith, trwy weithgareddau'r wythnos, yw "codi ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd twyni tywod i'r bobl a bywyd gwyllt o bob rhan o Gymru".

Mae hefyd yn gobeithio "tynnu sylw at y defnydd amrywiol o dwyni tywod a'r angen i'w hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiect Twyni Byw'n adfer dros 2,400 hectar o dwyni mewn pedair ardal gadwraeth ar draws Cymru

Dywedodd David Kilner, Swyddog Ymgysylltu Dynamic Dunescapes yng Nghymru: "Mae Cymru yn ddigon ffodus i fod â llawer o dwyni hardd ar hyd ei harfordir - mae miloedd ohonom ni'n cerdded trwyddyn nhw bob dydd.

"Maen nhw'n fannau gwyllt, yn llochesau i bobl a bywyd gwyllt, ac maen nhw dan fygythiad.

"Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Twyni Tywod byddwn yn dathlu straeon pobl, y bywyd gwyllt, y dreftadaeth a'r gwaith cadwraeth sydd wedi'i wneud yn y lleoedd ysblennydd hyn."

Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at helpu cymunedau i archwilio eu lliwiau, eu synau a'u bywyd gwyllt er mwyn cysylltu'n agosach byth â hud ein harfordiroedd."

Pynciau cysylltiedig