3,000 o ddisgyblion yn hunan-ynysu yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae dros 3,000 o ddisgyblion ysgol yn hunan-ynysu ar draws y gogledd, yn ôl llefarwyr ar ran cynghorau sir.
Mae cofnodion Cyngor Wrecsam yn nodi bod 1,900 yn hunan-ynysu, mae 1,100 yn hunan-ynysu yn Sir y Fflint a dywed cyngor Sir Ddinbych bod wyth disgybl ysgol gynradd a phedwar disgybl ysgol uwchradd yn hunan-ynysu.
Yng ngogledd-orllewin Cymru dywed cyngor Conwy bod y niferoedd sy'n hunan-ynysu yn cael effaith ar 18 ysgol ac yng nghyngor Gwynedd mae plant o 11 ysgol yn hunan-ynysu.
Mae'r gyfradd o achosion Covid ar ei huchaf ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru.
Yn Sir y Fflint, mae 142.9 o bobl o bob 100,000 wedi cael prawf positif yn ystod yr wythnos hyd at 23 Mehefin.
Mae'r gyfradd yn Sir Ddinbych yn 104.5 a'r gyfradd yn Sir Wrecsam yn 91.2.
Ar draws Cymru mae'r gyfradd yn 53.1.
Dywed prif swyddog addysg Sir y Fflint, Claire Homard, bod 60 achos newydd wedi cael eu cofnodi yn y sir ers 21 Mehefin a bod hynny yn effeithio ar 24 ysgol yn y sir.
Ychwanegodd nad oes cynlluniau ar hyn o bryd i gau un o'r ysgolion.
Ddydd Llun fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gofnodi 670 achos newydd - 223 yn Sir y Fflint, 124 yn Sir Wrecsam, 106 yn Sir Conwy a 100 yn Sir Ddinbych.
Ychwanegodd Ms Homard: "Er bod y cynnydd mewn achosion yn rhwystredig, ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel a sicrhau bod disgyblion yn parhau i gael gwersi o safon uchel yn ystod yr amser byr sy'n weddill o'r flwyddyn academaidd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021