Dyn yn euog o lofruddiaeth 'gachgïaidd' yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pabell heddlu tu allan i gartref Terence Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Pabell heddlu tu allan i gartref Terry Edwards wedi i'w gorff gael ei ddarganfod y llynedd

Mae dyn 42 oed o Wrecsam wedi ei gael yn euog o lofruddio dyn 60 oed yn y dref y llynedd.

Roedd Barry Bagnall wedi gwadu llofruddio Terence Edwards, oedd yn cael ei alw'n Terry, yn ei gartref ar stad Parc Caia.

Cafwyd hyd i Mr Edwards yn farw mewn gwely yn yr eiddo ar stryd Pont Wen ychydig cyn 19:00 nos Lun, 1 Mehefin 2020.

Bydd Bagnall yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher, 7 Gorffennaf.

Anafiadau i'w ben

Yn ystod yr achos yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug fe awgrymodd patholegydd y Swyddfa Gartref bod rhywbeth tebyg i forthwyl wedi ei ddefnyddio i daro pen Mr Edwards.

Cyn i'r rheithgor ystyried eu dyfarniad, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands: "Fe laddodd rhywun Terry Edwards y penwythnos hwnnw fis Mai'r llynedd.

"Allwch chi fod yn sicr taw'r diffynnydd yma a wnaeth, ynteu a yw'r bosib taw rhywun arall wnaeth? Dyna, mewn gwirionedd, yw hanfod yr achos yma."

Dywedodd bod yr ymosodiad ar Mr Edwards yn "gachgïaidd", a bod Bagnall, oedd yn gweithio fel rheolwr warws, yn defnyddio cyffuriau.

Clywodd y llys hefyd bod Bagnall yn gwadu cyfaddef i lofruddiaeth Mr Edwards wrth siarad gyda charcharor yng Ngharchar Y Berwyn tra roedd yn y ddalfa cyn i'r achos ddod i'r llys.

Pynciau cysylltiedig