'Y pandemig wedi achosi rhai i golli eu golwg'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl wedi colli eu golwg yn "sylweddol" oherwydd oediadau mewn triniaeth o ganlyniad i Covid-19, yn ôl meddyg arbenigol.
Mae Dr Andrew Feyi-Waboso, ymgynghorydd llygaid yn Llantrisant, wedi dechrau cynllun peilot i geisio dod o hyd i bobl sydd â chyflwr glawcoma - cyflwr lle mae'r nerf sy'n cysylltu'r llygaid a'r ymennydd wedi ei niweidio.
Mae'r amseroedd aros misol diweddaraf yn dangos bod mwy na 32,350 o bobl wedi aros am dros naw mis am driniaeth llygaid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gofal llygaid brys a hanfodol wedi parhau yn ystod y pandemig, ond bod Covid wedi cael "effaith sylweddol ar amseroedd aros".
Fe wnaeth apwyntiadau yn y clinig glawcoma yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ostwng hyd at 90% yn ystod cyfnod gwaetha'r pandemig, gyda thîm llawer llai yn gweld y cleifion â'r anghenion mwyaf difrifol.
Cyflwr llygaid yw glawcoma sy'n gallu niweidio golwg person am byth os nad yw'n cael ei drin.
Mae rhai pobl yn cael eu geni gyda'r cyflwr, ond i eraill mae'r cyflwr yn datblygu'n hwyrach ac yn achosi niwed hyd oes i'r llygaid.
Dywedodd Dr Feyi-Waboso fod yn rhaid i glawcoma gael ei fonitro'n gyson, ond rhybuddiodd fod golwg rhai pobl wedi gwaethygu oherwydd effaith y pandemig ar ofal llygaid.
"Mae pobl wedi'i chael hi'n anodd mynd i weld optegydd, mae pobl wedi'i chael hi'n anodd cael apwyntiadau i ddod yma," meddai. "Ac yn anffodus rydyn ni wedi cael ychydig o bobl sydd wedi colli'u golwg yn sylweddol ac sy'n ceisio dod i dermau gyda hynny.
"Felly rydw i'n ceisio trin nhw mewn ffordd briodol gyda laser neu gyda llawdriniaeth i geisio dod i'r afael â'u cyflwr.
"Yn anffodus gyda glawcoma, unwaith rydych chi'n colli eich golwg dydy e ddim fel cataract, dydych chi methu adennill y golwg.
"Oll allwch chi wneud yw ceisio'i sefydlogi, felly mae'n broblem enfawr."
Er mwyn cynyddu'r monitro ar gleifion glawcoma, mae'r ysbyty'n gweithredu system beilot newydd gydag optometryddion ar y stryd fawr, fydd yn gwneud hi'n haws i gael profion sy'n aml ond yn gallu digwydd o fewn clinigau ysbytai.
Mae'r data sy'n cael eu casglu gan Specsavers ym Merthyr Tydfil yn cael eu bwydo'n ôl i feddygon ysbytai, sy'n gallu asesu lluniau yn cynnwys ffotograffau 3D o nerf y llygad.
Ychwanegodd Dr Feyi-Waboso: "Y brif fantais i ni yw ei fod yn ffordd effeithiol o weithio ac rydyn ni'n gallu cael mynediad i gleifion heb iddyn nhw orfod dod mewn i amgylchedd risg uchel fel hyn."
Penderfyniad 'anodd' i gael triniaeth breifat
Cafodd Geraint Thomas o Amlwch wybod 18 mis yn ôl ei fod angen triniaeth cataract i'r ddau lygad.
"Ychydig amser yn ôl, es i'n ôl at yr optegydd a gofyn alla fo ddeud wrtha'i lle oeddwn i ar y rhestr aros erbyn hyn," meddai.
"Mi ddaru nhw gysylltu ag Ysbyty Gwynedd a'r ateb ges i'n ôl oedd o leia' 12 mis o aros eto. Oedd hynny'n golygu fysa 'na ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio cyn i ddim byd ddigwydd."
Ond fe symudodd pethau'n "rhyfeddol o gyflym" wedi iddo benderfynu talu am driniaeth breifat.
O fewn tair wythnos i'r alwad ffôn gychwynnol, roedd wedi cael archwiliad gan arbenigwr yn Rhuddlan i gadarnhau bod y driniaeth yn angenrheidiol a phrawf Covid mewn ysbyty yng Nghaer.
Mae'n cael y driniaeth yn yr ysbyty hwnnw ddydd Iau.
Roedd y penderfyniad yn un anodd, medd Mr Thomas, "yn yr ystyr bod ni'n gallu gweld ochor annheg i allu talu am wasanaeth [a] pobl erill sy' methu talu yn gorfod aros yn hwy. Roedd hynny yn gons'yrn gen i."
'Effaith niweidiol ar ofal llygaid'
Mae elusen RNIB Cymru eisiau i brosiectau peilot dderbyn cyllid fel bod buddion y system newydd yn gallu cael eu gwerthfawrogi gan gleifion ar draws y wlad.
Dywedodd cyfarwyddwr RNIB Cymru Ansley Workman: "Mae'r pethau yma'n wirioneddol ffantastig, oherwydd mae'n golygu bod pobl yn gallu cael eu gweld yn gyflymach, yn fwy lleol, ond mae hefyd yn golygu bod amser clinigwyr mewn ysbytai yn cael ei ryddhau i allu gweld pobl gydag achosion mwy cymhleth neu sydd â risg o golli eu golwg.
"Felly beth fyddwn i wir eisiau gweld yw'r system newydd yma'n cael ei mabwysiadu'n gyflym iawn ar draws Cymru i gyd gan bob bwrdd iechyd, fel bod pawb yn cael yr un cyfle."
Dywedodd Ms Workman fod rhestrau aros ar gyfer gofal llygaid yn rhy hir cyn i'r pandemig ddechrau, ond bod effaith Covid-19 wedi gwaethygu'r sefyllfa.
"Mae'r pandemig wedi cael effaith niweidiol iawn ar ofal llygaid yng Nghymru," meddai.
"Cyn y pandemig yn anffodus doedd byrddau iechyd ddim yn gweld y bobl oedd angen cael eu gweld ar amser. Dim ond 66% o gleifion oedd yn cael eu gweld yn yr amser roedden nhw fod cael eu gweld.
"Yn anffodus, fel rydym yn gwybod, mae effaith y pandemig wedi bod yn enfawr a nawr rydyn ni lawr i 44% o bobl yn cael eu gweld ar amser am eu hapwyntiadau gofal llygaid."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "gofal llygaid hanfodol a brys wedi parhau yn ystod y pandemig, ac mae ysbytai nawr yn dechrau gweithgaredd nad sy'n gysylltiedig â Covid, gan gynnwys gwasanaethau meddygaeth y llygaid.
"Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros ac mae byrddau iechyd yn blaenoriaethu cleifion ar sail eu hanghenion clinigol wrth iddyn nhw ailddechrau gweithgareddau
Dywedodd y bydd cynllun adfer, dolen allanol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynorthwyo byrddau iechyd i fynd i'r afael â rhestrau aros am lawdriniaethau a'u bod nhw'n "gweithio gyda'r GIG i ddeall pa anghenion ychwanegol gall fod angen i gefnogi darpariaeth gofal llygaid ar gyfer y dyfodol".
Ychwanegodd: "Dylai unrhyw un sy'n poeni am iechyd eu llygaid gysylltu â'i optometrydd a fydd yn darparu'r cyngor priodol ac yn asesu'r rheiny sydd angen gofal llygaid ar frys neu'n angenrheidiol.
"Mae byrddau iechyd hefyd wedi sefydlu llinellau cymorth os ydy pobl yn teimlo bod eu cyflyrau wedi newid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019