Pobl i dderbyn trydydd dos brechlyn cyn y gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r JCVI wedi awgrymu bod pawb dros 50 yn derbyn dos ychwanegol o'r brechlyn

Mae'r bobl sydd fwyaf agored i niwed gan Covid-19 yn debygol o gael cynnig trydydd dos brechlyn yn erbyn y feirws o fis Medi ymlaen yng Nghymru.

Daw wedi i swyddogion y DU gymeradwyo'r hyn a elwir yn frechlynnau atgyfnerthu, neu 'booster', i'r rheiny oedd yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 yn y rhaglen frechu.

Mae cyngor cychwynnol gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dweud y bydd trydydd dos yn helpu cynnal yr imiwnedd yn erbyn coronafeirws ag unrhyw amrywiolion newydd.

Ychwanegodd bod hynny'n enwedig yn bwysig i'r rheiny sydd fwyaf bregus yn erbyn y feirws, gyda'r gaeaf ar y ffordd.

Blaenoriaethu mewn dwy ran

Mae'r JCVI wedi awgrymu bod pobl yn cael eu blaenoriaethu mewn dwy ran.

Gweithwyr iechyd a gofal, pobl mewn cartrefi gofal, rheiny sydd â chyflwr meddygol difrifol a phobl dros 70 oed fydd yn cael eu blaenoriaethu i ddechrau.

Yna bydd pawb dros 50 oed yn derbyn eu trydydd dos, ynghŷd â phobl 16 i 49 oed sydd mewn grŵp risg ffliw neu Covid-19.

Gan mai ar ddiwedd yr haf y bydd y mwyafrif o oedolion iau yn derbyn eu hail ddos, bydd y JCVI yn ystyried manteision brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer y grŵp hynny yn ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan bod y byrddau iechyd eisoes wedi cynllunio ar gyfer rhoi trydydd dos i bobl

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan bod cyngor y JCVI yn "cyd-fynd yn llwyr â'n meddylfryd a'n rhagdybiaethau cynllunio ninnau hyd yma".

"Mae GIG Cymru wedi bod yn cynllunio ar y rhagdybiaeth o roi brechlynnau atgyfnerthu ym mis Medi/Hydref i grwpiau â blaenoriaeth 1-9, gyda bwlch o tua chwe mis yn dilyn ail ddos ac mae'r byrddau iechyd wedi cyflwyno eu cynlluniau cychwynnol ar y sail hon," meddai.

"Byddwn yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn barod i ddarparu rhaglen atgyfnerthu o ddechrau mis Medi yn unol â'r cyngor hwn."