Sarjant o Gaernarfon yn ddieuog o chwistrellu'n ddianghenraid

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys yr heddlu yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sarjant yn gweithio yn nalfa swyddfeydd yr heddlu yng Nghaernarfon

Mewn tribiwnlys disgyblu mae sarjant o Gaernarfon a oedd wedi'i gyhuddo o ddefnyddio chwistrell Captor yn ddianghenraid wedi'i gael yn ddieuog o bron pob cyhuddiad yn ei erbyn.

Roedd y Sarjant Melvin Dawson, a oedd yn gweithio yn y ddalfa, wedi'i gyhuddo o ddefnyddio nerth diangen wrth ddelio ag 14 o unigolion yn ystod 2018 a 2019.

Mewn rhai achosion roedd rhai o'r carcharorion wedi ceisio llenwi eu celloedd â dŵr, taro eu pennau yn erbyn y wal neu fygwth hunanladdiad.

Fe gyfaddefodd Sarjant Dawson ei fod wedi defnyddio chwistrell Captor ond roedd yn gwadu bod ei weithredoedd yn afresymol.

Yn ystod y tribiwnlys ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn ddydd Gwener cytunwyd nad oedd Mr Dawson yn euog o 13 o'r honiadau yn ei erbyn.

Nodwyd bod sail i un honiad a bod Mr Dawson yn euog o gamymddwyn ond nid yn ddifrifol ac fe gafodd rybudd ysgrifenedig.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwistrellu'n analluogi person dros dro gan wneud hi'n haws i swyddogion heddlu ei ffrwyno

Math o nwy CS yw chwistrell Captor, sy'n amharu ar y llygaid, trwyn a'r geg, ac mae'n achosi teimlad o losgi ar yr wyneb. Mae'n cael ei ddefnyddio gan heddluoedd i analluogi a ffrwyno pobl dros dro.

Wrth gyhoeddi casgliad y tribiwnlys dywedodd y dirprwy bennaeth ar gyfer safonau proffesiynol yn Heddlu'r Gogledd, Dan Tipton, bod nifer o wersi wedi'u hargymell a'u cyflwyno.

'Effaith anfesuradwy ar Mr Dawson'

Dywedodd Mark Jones, ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn cefnogi Mr Dawson: "Mae'r mater hwn wedi bod yn llusgo ers dwy flynedd a hanner ac mae'r effaith ar y Sarjant Dawson yn anfesuradwy.

"Cafodd nifer o honiadau eu gwneud am ei ymddygiad ac mae panel annibynnol wedi dod i gasgliad fod pob un ohonynt ond un yn ddi-sail.

"Yn ogystal â bod i ffwrdd o'r gwaith am ddwy flynedd bu'n rhaid i Mr Dawson wynebu tribiwnlys hir.

"Canfu'r panel nad oedd yr honiadau ei fod yn anghyfrifol yn wir, a chlywyd hefyd nad oedd un o'r rhai yn y ddalfa wedi cwyno - yn ystod y cyfnod hwnnw na wedyn.

"Fe wnaed yr honiadau yn ystod ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu.

"Roedd yr un honiad lle cafwyd sail iddo yn gamymddygiad o lefel llawer is na'r un difrifol a honnwyd yn wreiddiol."