Dyn gerbron llys ar gyhuddiad o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed o ardal Y Pîl wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o ddynladdiad dyn lleol ym Mhorthcawl.
Cafodd Carl Chinnock, 50, ei ddarganfod gydag anaf difrifol i'w ben ym maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl, ychydig cyn hanner nos ar 23 Mehefin.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ble bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cafodd Christopher George ei gadw yn y ddalfa gan ynadon Caerdydd ddydd Gwener tan y bydd yn mynd gerbron Llys y Goron ar 30 Gorffennaf.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis o Heddlu De Cymru: "Er bod dyn wedi'i gyhuddo, rwyf am bwysleisio bod yr ymchwiliad yn parhau.
"Rwyf am apelio ymhellach am wybodaeth sy'n dangos dau ddyn ac un fenyw yn cerdded heibio siop sglodion 'Mansels' ger ffair Coney Beach am 23:46 ar nos Fercher, 23 Mehefin. Nid yw'r bobl yma wedi eu hamau o unrhyw drosedd, ond rwy'n credu eu bod yn dystion allai fod o gymorth.
"Os ydych chi'n un o'r bobl yna neu yn gwybod pwy ydyn nhw, yna cysylltwch gyda Heddlu'r De drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2100220841.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021