Cefnogwyr 'nôl yn Stadiwm Principality i wylio Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gorfod chwarae eu gemau cartref mewn stadiymau gwag ers Chwefror 2020
Bydd cefnogwyr rygbi yn dychwelyd i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 17 mis wrth i Gymru herio Canada ddydd Sadwrn.
Mae hawl i hyd at 8,200 o gefnogwyr fynd i'r tair gêm nesaf - y cyntaf yn erbyn Canada ac yna dwy yn erbyn Ariannin.
Rhain fydd y gemau cyntaf yn y stadiwm i gael cefnogwyr ers y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn Chwefror 2020, ac ers hynny bu'r stadiwm yn ysbyty maes am gyfnod.
Bydd y gic gyntaf am 15:00 brynhawn Sadwrn.

Bydd yn rhaid i gefnogwyr Cymru ddilyn rheolau Covid 19 llym yn stadiwm y Principality
Er bod cefnogwyr yn cael dychwelyd, mae rheolau Covid-19 llym mewn grym yn y stadiwm.
Fydd 'na ddim bwyd na diod ar werth, ac er i Undeb Rygbi Cymru ddweud bod hawl gan gefnogwyr ddod â bwyd a diod eu hunain i'r stadiwm, mae alcohol wedi'i wahardd.
Bydd yn rhaid i gefnogwyr wisgo masgiau hefyd pan nad ydyn nhw yn eu seddi.
Gyda'r angen i gadw pellter cymdeithasol, mae unrhyw un sydd â thocyn yn cael ei annog i gyrraedd yn gynnar.

Mae Leigh Halfpenny wedi ennill 95 cap i Gymru a phedwar i'r Llewod hyd yma.
Ar y cae, bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn ennill ei 100fed cap dros Gymru a'r Llewod yn erbyn Canada.
Hefyd fe fydd asgellwr y Scarlets, Tom Rogers, a chlo y Dreigiau, Ben Carter, yn ennill eu capiau cyntaf.
Mae'n bosib y bydd tri chwaraewr arall - Taine Basham, Gareth Thomas a Ben Thomas - yn chwarae eu gemau rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc.
Gyda thaith y Llewod yn digwydd ar yr un pryd, bydd yn rhaid i Gymru ymdopi heb 10 o'u chwaraewyr mwyaf blaenllaw ar gyfer y gemau dros yr haf.
Fydd Alun Wyn Jones na Justin Tipuric ar gael chwaith wedi i'r ddau gael eu hanafu yng ngêm baratoadol gyntaf y Llewod yn erbyn Japan dros y penwythnos.

Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Jonah Holmes, Uilisi Halaholo, Jonathan Davies (C), Tom Rogers; Callum Sheedy, Tomos Williams; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Kieran Hardy, Ben Thomas, Nick Tompkins.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021