Trin pysgotwyr môr ag 'amarch llwyr' dros gynllun tiwna
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwyr môr yn dweud eu bod yn cael eu trin "ag amarch llwyr" gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ystyried cais am ganiatâd i ddal a thagio tiwna.
Tra bod cynllun o'r fath wedi'i gymeradwyo yn Lloegr, mae pysgotwyr yma'n dal i aros am gyhoeddiad.
Gydag wythnosau unig tan ddechrau'r tymor tiwna, maen nhw'n rhybuddio y bydd Cymru'n colli cyfle eleni.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wrthi'n cwblhau manylion ar gyfer cynllun peilot.
Yn enwog am eu maint a'u cyflymder yn y dŵr, mae niferoedd sylweddol o diwna asgell-las wedi'u gweld yn nyfroedd y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhwng diwedd Gorffennaf a Rhagfyr - gan gynnwys oddi ar arfordir gorllewin Cymru.
Mae pysgotwyr hamdden yn dweud y byddai eu caniatáu nhw i ddal a thagio nifer cyfyngedig cyn eu rhyddhau eto yn helpu gwyddonwyr i astudio'r rhywogaeth, tra'n cynnig hwb hefyd i economïau cymunedau arfordirol.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU 'nôl ym mis Ebrill eu bod yn mynd i fwrw 'mlaen â rhaglen o'r fath rhwng 16 Awst a 17 Tachwedd yn Lloegr.
Dywedodd Ysgrifennydd DEFRA George Eustice bod yna "achos da iawn" ar gyfer y cynllun.
Mae Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth ym Mae Caerdydd ynglŷn â sicrhau rhaglen debyg yma, ond bellach maen nhw wedi beirniadu gweinidogion am gymryd cyhyd i wneud penderfyniad.
'Chwerthinllyd'
"Ry'n ni bythefnos o ddechrau'r tymor tiwna, a dal dim newyddion - mae'n chwerthinllyd," meddai Julian Lewis Jones, llywydd y grŵp - sydd hefyd yn adnabyddus fel actor.
Mae'n honni i'r grŵp gael addewid o gyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr o adran bysgodfeydd y llywodraeth yn ystod galwad Zoom ym mis Ebrill ond bod "y gwrthwyneb wedi digwydd".
"Y cwbl 'da ni'n gael ydy e-byst eithaf swta - jest un frawddeg yn dweud 'nawn ni adael chi wybod ar ôl i ni wneud y penderfyniad'," meddai.
"Does 'na ddim parch wedi cael ei ddangos aton ni - dim o gwbl - ac mae'n hynod o siomedig."
Ychwanegodd y byddai unrhyw oedi yn golygu "colli cyfle anferth" i Gymru eleni, gan fod angen amser i hyfforddi a thrwyddedu meistri cychod a sefydlu'r rhaglen ymchwil wyddonol gyda phrifysgol.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Cefin Campbell ei fod yntau hefyd wedi bod yn gwthio am gyhoeddiad, a'i fod yn obeithiol y daw "newyddion cadarnhaol" cyn hir.
"Mae 'na wledydd fel Denmarc, Sweden a Gweriniaeth Iwerddon wedi rhedeg cynllun fel yma ers nifer o flynyddoedd ac yn gweld y manteision gwyddonol a hefyd socio-economaidd," meddai.
"Felly mae'n biti bod Cymru yn llusgo ei thraed ar hyn."
Gwrthwynebiad
Mae eraill fel yr ymddiriedolaethau bywyd gwyllt wedi annog pwyll, tra bod deiseb i atal y cynlluniau yn Lloegr wedi denu bron i 183,000 o lofnodion.
Wrth siarad â BBC Cymru ym mis Ebrill, dywedodd Joan Edwards, rheolwr polisi Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Prydain bod 80% o'r tiwna asgell las wedi diflannu o Fôr yr Iwerydd yn ystod y 50 i 60 mlynedd ddiwethaf.
"Dim ond nawr y'n ni'n gweld rhyw fath o adferiad yn digwydd - mae hynny'n destun dathlu, dwi ddim yn credu y dylwn ni fod yn eu dal nhw," meddai.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cwblhau'r manylion ar gyfer prosiect peilot dal, tagio a rhyddhau tiwna newydd yng Nghymru eleni".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020