Barnwr yn dileu penderfyniad parc sglefrfyrddio'r Mwmbwls

  • Cyhoeddwyd
Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Un ramp sydd ar y safle dan sylw yn Y Mwmbwls ar hyn o bryd

Mae barnwr wedi dileu penderfyniad gan Gyngor Abertawe i drosglwyddo tir ar gyfer parc sglefrfyrddio ger lan y môr Y Mwmbwls.

Roedd saith o drigolion Ffordd y Mwmbwls wedi galw am adolygiad barnwrol yn sgil pryderon ynghylch lleoli parc yn Llwynderw, a'r broses o drosglwyddo'r tir i Gyngor Cymuned Y Mwmbwls.

Golyga'r dyfarniad y bydd yna oedi pellach gyda'r cynllun, a gafodd ei ddatblygu gan y cyngor cymuned.

Fe allai'r cyngor sir orfod talu costau cyfreithiol y rheiny fu'n pwyso am yr adolygiad.

Dywedodd Cyngor Abertawe y byddan nhw yn ystyried sut i symud ymlaen gyda'r cynllun yn dilyn y penderfyniad.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo, o un bleidlais, gan y cyngor sir yn Chwefror 2020 ond doedd dim modd dechrau gwaith arno nes bod Cyngor Abertawe wedi trosglwyddo'r tir i'r cyngor cymuned.

Penderfynodd aelodau'r cabinet i wneud hynny, dan brydles 25 mlynedd, ym mis Ionawr, ond fe honnodd y gwrthwynebwyr bod y penderfyniad hwnnw'n anghyfreithlon.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyngor cymuned fydd yn ariannu'r cynllun parc sglefrfyrddio, os fydd yn symud yn ei flaen

Ar ôl ystyried dogfennau ar ran y ddwy ochr, mae barnwr yr Uchel Lys wedi dileu penderfyniad y cyngor sir o ran trosglwyddo'r tir.

Roedd y cyngor, medd ei ddatganiad yn amlinellu sail ei ddyfarniad, yn derbyn nad oedden nhw wedi cyhoeddi bwriad i waredu'r tir am bythefnos mewn papur lleol.

Roedd y cyngor hefyd wedi cydnabod nad oedd y penderfyniad yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Mae cryn waith eisoes wedi digwydd i ddatblygu'r cynllun, sy'n werth o leiaf £360,000 ac a fyddai'n cael ei ariannu gan y cyngor cymuned.

Mae grŵp cymunedol, Cymdeithas Parc Sglefrfyrddio'r Mwmbwls, wedi bod yn codi arian ar gyfer costau cynnal a chadw ac offer fel meinciau a man parcio beiciau.

Mae deiseb ar-lein sy'n cefnogi codi parc sglefrfyrddio bellach wedi denu bron 23,000 o lofnodion.

Ond mae pryderon wedi eu mynegi ynghylch lleoliad arfordirol y parc a diffyg gofod parcio.

Pynciau cysylltiedig