Llacio cyfyngiadau'n 'benderfyniad gwleidyddol' bellach

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Brechu gweithiwr gofal iechydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru'n dweud y dylai gorchuddion wyneb barhau'n orfodol mewn lleoliadau gofal iechyd, hyd yn oed os yw cyfyngiadau'n llacio mewn sefyllfaoedd eraill.

Bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi penderfyniadau eu hadolygiad diweddaraf yr wythnos nesaf.

Mae pwysau o sawl cyfeiriad wedi i Boris Johnson ddatgan bod yr holl gyfyngiadau'n debygol o ddod i ben yn Lloegr erbyn 19 Gorffennaf.

Yn ôl cadeirydd BMA Cymru, Dr David Bailey, mae llacio cyfyngiadau bellach yn "benderfyniad gwleidyddol" a bod angen "hyblygrwydd".

"Yn bersonol, rydw i am barhau i wisgo masg mewn archfarchnad ac ar drafnidiaeth gyhoeddus," meddai Dr Bailey, sy'n feddyg teulu yng Nghaerffili.

"Dydw i ddim yn meddwl bod angen gwneud hynny tu fas a does dim rhaid, falle, i ni boeni gymaint yn ei gylch ag oeddan ni chwe mis yn ôl.

"Mae hynny gan fod y rhan fwyaf ohonon ni wedi cael ein brechu ac oherwydd mae'n llai tebygol i ni fynd yn sâl.

"Felly rwy'n meddwl bod angen ychydig o hyblygrwydd ac mae'n edrych yn debygol na fydd [gorchuddio'r wyneb] yn orfodol yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Feddygol Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr David Bailey ei bod hi'n bwysig cofio bod yna lawer mwy o bobl sy'n fregus yn glinigol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd

Ychwanegodd Dr Bailey bod hi'n "rhesymol" i leihau pellter cymdeithasol ond mae'n gwrthwynebu llacio'r rheolau presennol yn gyfan gwbl.

"Rwy'n meddwl y buasem ni, yn sicr, yn awgrymu'n gryf y byddai hynny'n drywydd anghywir mewn lleoliadau gofal iechyd," meddai.

"Mae'n bwysig i gofio mai mewn sefyllfaoedd gofal iechyd rydych chi'n fwy tebygol o lawer o ddod ar draws pobl sy'n fregus yn glinigol.

"Hefyd rydych chi'n mynd i ddod ar draws mwy o bobl sy'n sâl, oherwydd dyna pam maen nhw yno. Felly mae'n bwysig, rwy'n meddwl, i sicrhau ein bod yn ceisio parhau i orchuddio'r wyneb mewn llefydd gofal iechyd."

Pryder rheolau gwahanol

Mae pryderon wedi codi ynghylch y posibilrwydd o gael rheolau gwahanol ar ddwy ochr Clawdd Offa, yn enwedig ymhlith busnesau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ond dydy Dr Bailey ddim yn rhagweld problemau wrth ddarparu gofal iechyd.

"Ni ddylai gorchuddio wyneb achosi unrhyw broblem o gwbl ar y ffiniau," dywedodd. "Os oes yna wahaniaethau yn nhermau gofod, dyna ble mae potensial am fwy o drafferthion, yn enwedig wrth geisio darparu gwasanaethau.

"Rwy'n meddwl bod e'n benderfyniad i Lywodraeth Cymru. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n synhwyrol ac yn bwyllog, ond dydw i ddim yn dweud na ddylen nhw lacio unrhyw gyfyngiadau.

"Y pethau hynny nad sy'n effeithio ar eich gallu i fyw eich bywyd - pam ddim eu gwneud nhw beth bynnag? Mae yna brawf eu bod wedi helpu ac mae yna dal lawer o achosion Covid yn y gymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Dai Samuel bod mwy a mwy o gleifion angen triniaeth am Covid hir

Ond mae Dr Dai Samuel, meddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac aelod o'r BMA, yn rhagweld y gallai problemau godi os fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar reolau gwahanol i Loegr.

"Bydd pobl yn dweud, 'wel gallwn ni neud e'n Lloegr, pam nid yng Nghymru?' ac efallai bydd rhai o'r cyhoedd yn dweud fod Boris Johnson â'r ateb iawn achos fe'n cael gwared â bron iawn bob rheol," meddai ar Dros Frecwast.

"Ond y peth i ddweud yw efallai nad dyna yw'r ateb cywir.

"Dwi'n credu bod Mark Drakeford trwy gydol y pandemig wedi bod yn eithaf pwyllog, ac rydym ni fel y BMA yn dweud i barhau fel hynny a chymryd e gam wrth gam."

Pryderon am Covid hir

Mae Dr Samuel yn bryderus yn benodol am sgil effeithiau Covid hir.

"Yn barod 'da ni'n gweld yn Lloegr yn enwedig bod nifer o bobl yn mynd nôl mewn i'r ysbyty, ac nid achos bod nhw angen ITU," meddai.

"Mae'n rhaid i ni gofio bod pobl ifanc nawr yn cael Covid, ac mae'r sgil effeithiau Covid hir 'da nhw yn gallu cael effaith nid yn unig ar yr unigolyn ei hun, ond hefyd ar y gymdeithas a'r economi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ap yn nodi a fu ffonau clyfar o fewn dau fetr i'w gilydd ac am fwy na chwarter awr, gan hysbysu pobl i hunan-ynysu wedi achos Covid positif

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai pobl Cymru barhau i ddefnyddio ap Covid-19 y GIG hyd yn oed os fydd y rheolau pellter cymdeithasol yn wahanol i'r rhai yn Lloegr o 19 Gorffennaf ymlaen.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps y bydd yn bosib addasu'r ap, sydd hefyd yn weithredol yng Nghymru, ble does dim dyddiad pendant o ran cael gwared ar yr angen i bobl gadw dau fetr ar wahân.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i sicrhau y bydd unrhyw newidiadau i'r ap yn cyd-fynd â pholisïau yng Nghymru.