Euro 2020: Y Cymro roddodd lwyfan i'r Eidal godi'r gwpan
- Cyhoeddwyd
Nos Sul 11 Gorffennaf, Yr Eidal oedd yn fuddugol yn rownd derfynol Pencampwriaethau Euro 2020 gan guro Lloegr ar giciau o'r smotyn.
Roedd miliynau o bobl ledled y byd yna'n edrych ar Giorgio Chiellini'n codi'r tlws ar lwyfan arbennig ar gae enwog Wembley.
Gareth Wyn Roberts o Bontnewydd ger Caernarfon oedd yn goruchwylio'r gwaith o osod y llwyfan ar y cae.
"Fy rôl i oedd i reoli criw o rhyw 30 o bobl ac adeiladu'r llwyfan oedd yn cael ei osod ar y maes wedi'r gêm. Ni wnaeth hefyd greu'r llwyfan ar gyfer y seremoni i gau y bencampwriaeth a gafodd ei chynnal cyn y gêm."
Mae Gareth yn gweithio i gwmni sy'n creu a dylunio offer gweledol a setiau ar gyfer digwyddiadau mawr.
Roedd digon o gyffro ar y cae yn ystod y gêm, ond doedd Gareth ddim yn cael y cyfle i fwynhau.
"Yn ystod y gêm roedd rhaid datgysylltu'r llwyfan o'r seremoni cyn y gêm achos roedd o'n gadael y stadiwm am 2 y bore. Yna roedd rhaid gwneud siŵr bod y pethau'n iawn efo'r llwyfan ar gyfer y gwobrwyo; y goleuadau'n gweithio, gwneud yn siŵr bod 'na aer yn y teiars ar yr olwynion oedd ar y llwyfan, a rhoi baneri'r Eidal ar y llwyfan wedi'r gic o'r smotyn olaf."
"Roedd ganddon ni saith munud i ddod â'r llwyfan i'r cae a'i folltio at ei gilydd, fel arall fysa'r peth yn gallu troi drosodd. Mae'r unedau wedi eu gwneud allan o bren a dur, ond eu gwthio nhw'n 'mlaen i'r cae a'u cysylltu nhw efo bolts a clips ydy'r unig opsiwn gan bod nhw mor drwm.
"Roedd y prosiect o weithio ar gyfer Euro 2020 wedi bod yn un hir, tua dwy flynedd, ond o'dd o werth o'n diwedd achos oedd o'n edrych yn briliant ar y cae ac mi roedden nhw'n hapus hefyd."
Gwaith yn agosach i adref
Gareth oedd hefyd yn gyfrifol am y prosiect o osod cerfluniau o fathodyn Cymru o gwmpas y wlad i ddynodi cysylltiadau'r ardal â'r chwaraewyr.
"Daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ata ni 'chydig fisoedd nôl yn dweud bod nhw eisiau creu rhywbeth ar y cyd efo Cadw."
"Y syniad oedd bod pobl yn gallu mynd i'w gweld nhw, a dwi'n meddwl 'nath o weithio achos fe aeth lot o bobl atyn nhw i dynnu lluniau cyn i'r Bencampwriaeth hyd yn oed dechrau.
"Fe wnaethon ni greu 26 o'r cerfluniau 'ma, un i bob aelod o'r garfan, ac yna allan â ni mewn lori i ddosbarthu nhw - roedden ni, y Gymdeithas Bêl-droed a Cadw'n hapus iawn efo'r derbyniad."
Cyfleoedd gwerthfawr
Mae Gareth yn gwerthfawrogi y cyfleodd arbennig sy'n dod yn sgil ei swydd, yn enwedig yn ystod pandemig.
"Mae cael gwneud ffeinal yr Euros yn grêt achos yr argraff mae bosib i wneud, ac roedd cael y cyfle i fod yno a gweithio ar y digwyddiad yn brofiad gwbl unigryw.
Pan ofynnwyd i Gareth beth yw'r prosiectau eraill mae'n gweithio arno ar hyn o bryd, ei ateb oedd: "Dwi'm yn cael dweud llawer o ddim nes bod pobl yn gweld nhw."
Mae'n saff dweud y bydden ni'n siŵr o weld ei waith mewn rhywle amlwg yn y dyfodol agos.
Hefyd o ddiddordeb: