Cwpan Rygbi'r Byd: Teithio, cyffro a phêl enfawr...

  • Cyhoeddwyd
Sam Warburton a trenFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Uruguay yw gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ddydd Sul

Mae disgwyl cyfnod prysur ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ardal Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, wrth i gefnogwyr o bob cwr dyrru i brifddinas Cymru.

Mae ardal arbennig i gefnogwyr, dolen allanol yn agor ddydd Gwener ym Mharc yr Arfau, a dwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Fel sy'n digwydd yn aml yn ystod digwyddiadau mawr yn y brifddinas, bydd system giwio yng ngorsaf Caerdydd Canolog gyda safleoedd arbennig 'parcio a theithio' wedi eu sefydlu i yrwyr.

Mae'r cyntaf o wyth o gemau yn Stadiwm y Mileniwm am 2.30pm ddydd Sadwrn - lle bydd Iwerddon yn herio Canada - cyn i Gymru groesawu Uruguay am 2.30pm bnawn Sul.

'Sefyll yn unig'

Mewn datganiad, dywedodd Trenau Arriva Cymru fod rhagor o leoedd ar wasanaethau yn ardal Caerdydd.

Fodd bynnag, rhybuddiodd y cwmni "y bydd gwasanaethau'n brysur ac efallai mai dim ond lle i sefyll fydd ar nifer o drenau".

Bydd gorsaf Stryd y Frenhines ynghau am 4pm ar ôl y ddwy gêm.

Pêl enfawr...

Fore Gwener, roedd 'na wedd newydd i wal Castell Caerdydd, wrth i bêl rygbi enfawr ymddangos dros nos.

Yn ôl Cyngor Caerdydd, bwriad y bêl yw "dangos i gefnogwyr bod y bencampwriaeth wedi cyrraedd Caerdydd o ddifri'."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol