Methu targed addysg Gymraeg ond ffigyrau'n 'galonogol'
- Cyhoeddwyd
Mae targed ar gyfer nifer y plant saith oed sy'n dysgu drwy'r Gymraeg yn yr ysgol wedi'i fethu.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ystadegau ar gyfer plant meithrin a derbyn yn "galonogol".
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi ei chynllun diweddaraf tuag at sicrhau bod miliwn o bobl yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r adroddiad yn gosod targed o gynyddu cyfran y plant blwyddyn un sy'n dysgu drwy'r Gymraeg o 23% i 26% dros y pum mlynedd nesaf.
Ond fe fethwyd targed blaenorol i asesu 24% o blant blwyddyn dau drwy'r Gymraeg fel eu hiaith gyntaf. Fe gododd o 22% i 22.8% yn y pum mlynedd diwethaf.
Fe lwyddodd y llywodraeth greu 40 o grwpiau meithrin newydd ac mae 'na gyfran "calonogol" o blant yn mynd i ddosbarthiadau derbyn Cymraeg.
Ond mae'r adroddiad yn dweud bod recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg "wedi bod yn fwy heriol".
Nid oes gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn 2021 ar gael eto, ond yn 2020 roedd angen 311 o athrawon cynradd a 500 o athrawon ysgol uwchradd ychwanegol er mwyn cyrraedd y targed erbyn y flwyddyn ganlynol.
Dywed y grŵp ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith fod yr amcanion yn y cynllun ddiweddaraf yn ganmoladwy ond yn gyfarwydd.
Maen nhw yn dweud bod angen mwy o fanylion ynglŷn â sut mae gwneud hyn, gan gynnwys sicrhau mwy o athrawon Cymraeg.
'Symud i'r cyfeiriad iawn'
Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Jeremy Miles, mai bwriad y cyhoeddiad diweddaraf yw disgrifio'r siwrne "dros y pum mlynedd nesaf fel bod pobl yn gallu dwyn y llywodraeth i fod yn atebol am hyn".
"Ond wrth gwrs bydd pob un o'r pethe yma yn cael eu datblygu a'u cyhoeddi yn bellach a bydd ymgynghori ar amryw o'r pethau hefyd fel bod pobl yn gallu lleisio eu barn."
Dywedodd er bod cynnydd yn nifer yr athrawon sy'n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fod angen gwneud mwy.
"Y'n ni ddim wedi cyrraedd y nod o' ni wedi gobeithio, felly ynghyd â chynlluniau 10 mlynedd strategol sydd gan awdurdodau lleol byddwn ni yn cydweithio gyda'r Comisiynydd, gyda'r Coleg Cenedlaethol ac ati, i sicrhau bod gennym ni gynllun 10 mlynedd hefyd i allu recriwtio athrawon..."
Ychwanegodd: "Un o'r cerrig milltir sydd yn y rhaglen hon, un o'r cerrig milltir yn Cymraeg 2050, yw bod 30% o blant blwyddyn un er enghraifft mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
"Felly yn y rhaglen waith hon i ni yn gosod carreg filltir yn y cyfamser o 26% erbyn diwedd y tymor fel bod gyda ni gyfle i fesur cynnydd bob tymor, fel bod ni yn gallu sicrhau bod ni yn symud i'r cyfeiriad iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020