Ateb y Galw: Y gantores Ffion Emyr
- Cyhoeddwyd
Y gantores a'r cyflwynydd Ffion Emyr sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Leah Gaffey yr wythnos diwethaf.
Mae Ffion yn wreiddiol o Lanystumdwy ac ar ôl treulio blynyddoedd yn perfformio yn Llundain, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ac yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru bob nos Wener a nos Sadwrn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Weithiau mae'n anodd gwahaniaethu rhwng atgof a hen lunia'. Ond un atgof sy' gen i, a diolch i'r drefn bo' na'm llun, ydi yn y garafán yn Steddfod '95, wythnos cyn i mi gael fy mhen-blwydd yn bedair oed. Ar ôl bwyta bocs cyfan o Frosties efo Steff, oedd yn yr ysgol efo fi, mi wnes i ddeffro yn hwyrach ymlaen yn y noson, yn y garafán efo Mam a Dad a mrodyr Rhys a Tudur, a chwydu dros fy sleeping bag deinasors pinc. A dwi'n cofio bod wrth y tap, tu allan yn yr oerfel, efo Mam druan yn fy ngolchi fi a'r sleeping bag. Sori Mam.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mwy na thebyg mai opening night Jesus Christ Superstar yn yr O2 Arena yn Llundain. Hwn oedd fy swydd gynta' i allan o'r coleg drama ac i berfformio o flaen 20,000 o bobl, mi oedd o'n brofiad 'na'i drysori am weddill fy mywyd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hwyliog, cadarnhaol a brwdfrydig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Mwy na thebyg Steddfod Bala 2009. Steddfod pan o'n i'n yr ail flwyddyn yn chweched dosbarth, cyn symud i Lundain. Mi oedd 'na nosweithia' gwyllt a hwyliog iawn yn y Steddfod yna. Dyddia da!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mi fydda' i'n un am gysgu ar ôl amball i ddrinc… ac ar ôl ryw ddiwrnod o ymarfer ar gyfer Sweeney Todd yn y West End mi aeth 'na griw ohonom allan. A chal dipyn i yfad. Mi nes i rannu tacsi efo hogyn oedd yn y sioe efo fi oedd digwydd bod yn byw rownd gongl i mi yn Peckham. Mi o'n i'n cysgu'n braf yng nghefn y tacsi, ac ar ôl ei ollwng adra, roedd yn amser i mi roi fy nghod post i mewn…
Mi nes i ddeffro tu allan i dŷ yr oeddwn yn byw ynddo tra'n y coleg, yng ngogledd Llundain, ac heb fyw yno ers pum mlynedd. Felly tra yn hanner cysgu a wedi meddwi, mi oeddwn i wedi rhoi y cod post anghywir i'r dreifar. Ma' Llundain yn le mawr, a'r noson yna mi es i o Shoreditch (dwyrain Llundain) i Peckham (de Llundain), i Alexandra Palace (gogledd Llundain) a'n ôl i Peckham adra. Ma' gen i dal ormod o gywilydd i rannu cost y trip…
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ar hen do fy ffrind gorau Lois ddechrau Gorffennaf. Mi oedd 'na lot o grïo-chwerthin a lot o grïo o hapusrwydd y penwythnos yna.
O archif Ateb y Galw:
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohona i a Taid dre ar ben cowntar siop Tots to Teens yn Pwllheli. Mi dreuliais i gymaint o 'mhlentyndod i yn y siop efo Taid a Nain a Mam, a mi o'dd Taid mor gefnogol ohona fi bob tro. Babi Taid dre go iawn!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Pigo a crafu sbots. Dwi'n gwybod mod i ddim i fod i 'neud ond alla' i'm peidio os oes 'na un yn codi. A fel rywun sydd wedi cael acne drwg, mi oedd hi'n arfer bod yn arferiad drwg IAWN.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Y ffilm Notting Hill. Mi oedd genna ni'r tâp adra, a dwn i'm faint o weithia dwi wedi'i gweld hi. Caru Julia Roberts, y stori, y gerddoriaeth - ma' bob dim am y ffilm yn spot on.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Wedi fy magu yn Llanystumdwy, mae'n rhaid i mi ddeud bod 'na nunlla yn debyg i adra! Ond mae 'na un olygfa arbennig ar dro dwi wedi ei gwneud filoedd o weithia ar lôn top o Lanystumdwy i Gricieth ar Lôn Fêl, lle da chi'n sbïo lawr ar Gricieth ac ar hyd yr arfordir. Mi fyddai'n stopio yna am sbelan bob tro.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mae'n rhaid i mi ddewis fy arwres Aretha Franklin.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cal homar o barti efo pawb dwi'n 'nabod, gwario pob ceiniog sy' gen i ar fandiau byd enwog fatha Chic, JLO a Beyoncé i ddod yna, tra'n yfad Aperol Spritz ac Espresso Martinis drw' nos.
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
Dwi'n berson hygs mawr, felly cofleidio PAWB!
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Bod ngwallt i wedi bod yn gwynu/britho ers yn 14 oed.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Mwy na thebyg Beyoncé, a mi fyswn i'n canu a downsio drw' dydd a methu stopio sbïo arna' fi'n hun yn y drych.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Elan Rhys.