Galw am ddynodi HS2 fel cynllun i Loegr yn unig

  • Cyhoeddwyd
gorsaf HS2 BirminghamFfynhonnell y llun, HS2
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru ar ei cholled yn ariannol oherwydd bod HS2'n cael ei ddynodi'n gynllun i Gymru a Lloegr er na fydd y rheilffordd yn dodi Gymru o gwbl

Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol wedi galw am ddynodi cynllun rheilffordd cyflym HS2 yn un i Lloegr yn unig fel bod Cymru'n derbyn cyllid cyfatebol.

Maen nhw'n dweud fod dadansoddiad llywodraeth y DU eu hunain yn dod i'r casgliad y bydd y cynllun yn "anfantais economaidd i Gymru".

Mae dynodi HS2 fel cynllun i Loegr a Chymru yn "annheg ac unochrog", medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i roi £1.5bn i reilffyrdd Cymru.

Fe fydd cynllun HS2 yn cysylltu dinasoedd Llundain a Birmingham gyda threnau cyflym iawn yn y lle cyntaf, cyn symud ymlaen wedyn i Fanceinion a Leeds.

Nid yw isadeiledd y rheilffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli heblaw rhai o leiniau'r cymoedd, ond mae'r ASau am weld y cynllun yn cael ei ailddynodi wedi i amcangyfrifon awgrymu y bydd economi Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r cynllun £106bn.

Fe ddywed adroddiad bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn "oddeutu £755m o daliadau fformiwla Barnett" rhwng 2015 a 2019 o ganlyniad i wariant Adran Drafnidiaeth llywodraeth y DU ar HS2, ond ni fydd yn derbyn swm cyfatebol wedi i'r Trysorlys ddynodi'r cynllun fel un i "Gymru a Lloegr".

Mae rhai ASau wedi beirniadu hyn gan y bydd y lein newydd yn rhedeg yn Lloegr yn unig.

Dywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan: "Mae hwn yn gynllun o faint a chymhlethdod digynsail sydd wedi creu miloedd o swyddi fel rhan o'r gadwyn gyflenwi ar draws y wlad, gan gynnwys Cymru."

Ond ychwanegodd na fydd Cymru yn "elwa yn yr un modd ag y bydd Yr Alban a Gogledd Iwerddon o daliadau Barnett sy'n codi o'r cynllun HS2... er gwaetha'r ffaith fod dadansoddiad llywodraeth y DU eu hunain wedi dod i'r casgliad y bydd HS2 yn dod ag anfantais economaidd i Gymru".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Byddai trenau'n cyrraedd cyflymder o hyd at 250 mya rhwg Llundain a Birmingham

Ychwanegodd y pwyllgor y gallai HS2 fod o fudd i deithwyr trenau yng Nghymru os fyddai hefyd yn cynnwys gwelliannau i brif lein y gogledd, gan gynnwys gwelliannau yng ngorsafoedd Caer a Crewe, ac maen nhw hefyd wedi galw ar lywodraeth y DU i fwrw 'mlaen gyda chynlluniau i wella cysylltiadau rheilffordd rhwng Abertawe, Caerdydd a Bryste erbyn diwedd 2021 gan ddweud bod y penderfyniad i ddileu trydaneiddio'r lein yn un anffodus a byrweledol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru groesawu'r alwad i fynd i'r afael gyda'r "dynodiad annheg ac unochrog o HS2 fel cynllun i Gymru a Lloegr, a fydd yn parhau i anfanteisio buddsoddiad rheilffyrdd yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd mai'r "nod hir dymor o hyd yw datganoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn llwyr a setliad ariannol teg i isadeiledd rheilffyrdd yng Nghymru".

Atebodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth llywodraeth y DU: "Rydym eisoes wedi ymrwymo i roi £1.5bn i'r rheilffyrdd yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ac wedi cyhoeddi'n ddiweddar adolygiad cysylltedd yr Undeb a fydd yn ystyried sut i wella cysylltiadau rheilffydd ar draws y DU."

Eu dadl oedd y bydd HS2 yn gwella dibynadwyedd trenau ar draws y DU gan gynnwys gwasanaethau i mewn i Gymru.