Y Gymraes gafodd ei recriwtio i weithio fel ysbïwr yn MI6

  • Cyhoeddwyd
Dau lun o Llinos - un mewn lifrau'r fyddin, ac un yn gwisgo burkaFfynhonnell y llun, Llinos Dryhurst Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos ei recriwtio pan oedd hi yn y fyddin, a bu'n gweithio i'r Gwasanaeth Cudd yn Saudi Arabia

"Tap ar yr ysgwydd" gafodd Llinos Dryhurst Roberts, tra'i bod hi'n gweithio fel cyfieithydd i'r fyddin yn Bosnia, ac yna cael cynnig i gweithio i'r swyddfa dramor. O ganlyniad, bu'n gweithio i'r gwasanaethau cudd am naw mlynedd.

Bellach mae gwasanaethau MI5 ac MI6 yn annog pobl i wneud cynnig am swyddi ar y we.

Oherwydd natur ei swydd, dydi Llinos ddim yn gallu siarad llawer am ei gwaith, mewn lleoliadau pell fel Saudi Arabia, ond mae hi'n pwysleisio fod bywyd "ddim cweit mor lliwgar" â'r hyn sydd i'w weld mewn ffilmiau James Bond.

Boed yn dap ar yr ysgwydd neu yn gais dros y we, dim ond dechrau'r broses i weithio i'r gwasanaethau cudd-wybodaeth yw hynny, eglurodd Llinos wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Mae sawl cam i'w gymryd, a mae'r camau yna'n dechrau efo'r broses o vettio - mae hon yn broses hir. Mae angen checio cefndir, cyfrifon banc, teulu, cyn-gariadon, eich gwendidau..." meddai Llinos, sydd yn dod o Gaernarfon.

"Fuodd 'na aelod o'r swyddfa yn ymweld ag aelodau o'n nheulu i a ffrindiau. O'dd Mam a Dad yn ymwybodol fod nhw'n cael cyfweliad, a pham, ond eraill ddim. Ella fydd hyn yn canu cloch efo ambell un rŵan."

Llinos Dryhurst Roberts
Llinos Dryhurst Roberts
Mae'n rhaid i chi fod yn berson dilys, rhywun sy'n cymryd sylw o bob dim, ac wrth gwrs, yn gallu cadw cyfrinach..."

'Ysgol' MI6 yn Fort Monckton

"Ar y cychwyn, mae 'na lith o waith papur, a gwersi sy'n bwysig ond wir yn ddiflas, yn bell iawn o'ch syniad chi o'r swyddfa, debyg.

"'Da chi'n cael mynd ymlaen i'r ysgol wedyn, lle o'r enw Fort Monckton, ac yn fan'na 'da chi'n dysgu'r sgiliau mae rhywun angen ar gyfer y math yma o waith. Wedyn dim ond dechrau datblygu'r sgiliau o'n i bryd hynny."

Pwrpas y gwasanaethau cudd-wybodaeth yn syml, meddai Llinos, yw "dwyn cyfrinachau mewn ffordd gyfrinachol er lles Prydain". Felly, wrth gwrs, mae'r swyddfa yn edrych am fath arbennig o berson i wneud y gwaith.

"Mae'n rhaid i chi fod yn berson gonest, efo profiad bywyd a digon o synnwyr cyffredin. 'Da chi ddim angen gradd, gewch chi wneud arholiad, ac os 'da chi'n pasio gewch chi'ch troed drwy'r drws. Ond mae'n rhaid i chi fod yn berson dilys, rhywun sy'n cymryd sylw o bob dim, ac wrth gwrs, yn gallu cadw cyfrinach.

"Does 'na'm rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â fi - mae'r swyddfa yn Llundain yn chwilio am bobl efo bob math o sgiliau; technegol, adnoddau dynol, cyfrifwyr, gohebwyr hyd yn oed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd gwaith a bywyd Llinos ddim cweit fel bywyd James Bond yn y ffilmiau, meddai

'Dewr 'ta gwirion?'

Wrth gwrs, mae yna elfen o risg ym mhob swydd gyda'r gwasanaethau cudd-wybodaeth, ond fel y dywedodd Llinos, mae pob gweithiwr yn ymuno gyda'u "llygaid yn hollol agored" i'r peryglon posib.

O ganlyniad, mae'n debyg fod rhaid i ysbïwr fod yn ddewr i allu gwneud y swydd yn effeithiol. Oedd Llinos wastad yn ystyried ei hun yn berson dewr?

"Dewr 'ta gwirion?, chwedl Mam a Dad!

"Fel plentyn, o'n i wrth fy modd efo antur a dipyn o risg - dringo coed, dwyn afalau. Mae'n siŵr fod modd ei ddysgu o, i adeiladu arno fo. Ond dwi'n llwyr gredu fod dewrder yn rhywbeth sy'n eich gwaed chi."

'Cannoedd o fygythiadau yn ddyddiol'

Felly beth mae Llinos yn ei gredu yw'r perygl mwyaf sydd yn wynebu'r gwasanaethau cudd-wybodaeth y dyddiau yma?

"Dwi'n wir gredu mai'r bygythiad mwya' ydi'r prinder arian, a does 'na ddim digon ohonan ni," meddai.

"'Chydig dros 1,500 sydd yn y swyddfa, ac er fod pob un yn gallu gwasgaru'r bygythiadau, mae'n amhosib bod ym mhob man, bob amser, yn cadw llygad ar bob dim.

"Mae Prydain yn wynebu cannoedd o fygythiadau yn ddyddiol, ac o'r cannoedd yna, mae'n rhaid i'r swyddfa benderfynu ar pa rai fyddan nhw'n canolbwyntio. Maen nhw'n llwyddo i wasgaru'r mwyafrif, ond o dro i dro mae ambell i gell o eithafion yn llwyddo i dorri drwy'r rhwyd.

"Yn syml iawn, mae angen llawer iawn mwy ohonon ni yn y swyddfa."

Felly, rŵan eich bod wedi cael blas ar y swydd, beth amdani?!

Pynciau cysylltiedig