Cynllun tân fflatiau yn 'rhy ychydig, rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Dywed ymgyrchwyr bod cynllun i ariannu arolygon diogelwch tân mewn blociau o fflatiau yn gwneud fawr ddim i leddfu pryderon lesddeiliaid.
Bydd yr arolygon ar gael o'r hydref, gyda'r gost yn cael ei thalu gan Lywodraeth Cymru.
Daw hyn yn dilyn trasiedi tân Tŵr Grenfell yn 2017, lle bu farw 72 o bobl.
Ond dywedodd Grŵp Gweithredu Prydleswyr Cymru fod llawer eisoes wedi talu am eu harolygon diogelwch eu hunain.
Dywedodd y grŵp ei fod yn "destun pryder mawr" bod gweinidogion "dim ond nawr" yn cymryd y cam hwn, bedair blynedd ar ôl y digwyddiadau yn Llundain.
Yn ogystal, mae'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan faterion fel cladin peryglus ar eu hadeilad yn dal i aros i ddarganfod pryd y bydd cronfa ar gyfer gwaith atgyweirio yn cael ei lansio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am i Lywodraeth y DU gadarnhau pryd y bydd cyllid ychwanegol ar gael.
Ar hyn o bryd mae gan tua thraean o'r 152 bloc preswyl uchel yng Nghymru ddiffygion diogelwch tân, yn ôl swyddogion.
Mae rhai fflatiau yn anghynaladwy ac mae lesddeiliaid yn wynebu biliau atgyweirio, taliadau gwasanaeth uwch a chostau yswiriant.
Dywedodd Becky Ashwin, sy'n byw gyda'i phartner ym Mae Caerdydd: "Tra bod lesddeiliaid yn aros i benderfyniadau gael eu gwneud rydym yn parhau i dalu costau anfforddiadwy fel codiadau yswiriant.
"Mae fy mhartner wedi colli ei swydd yn ddiweddar ac rydym yn byw gydag ansicrwydd bob dydd - os byddwn yn colli ein cartref, os ydym yn ddiogel ac a fyddwn yn gallu fforddio'r bil nesaf.
"Mae ymateb Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy ychydig, yn rhy hwyr."
Wrth gyhoeddi'r cynllun i ariannu arolygon diogelwch yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, y byddai'r mesurau nid yn unig yn canolbwyntio ar gladin, ond y byddan nhw'n cymryd agwedd "gyfannol", gan ystyried diffygion mewnol fel "adrannu" aneffeithiol - proses sydd i fod i gyfyngu tân i ystafell neu fflat sengl.
Bydd yr arian grant ar gyfer yr arolygon ar gael i adeiladau dros 36 troedfedd (11m) o daldra.
Dywedodd dogfennau Llywodraeth Cymru y bydd manylion pellach am y gronfa atgyweirio adfer ar gael "cyn gynted ag y bydd wedi'i chwblhau erbyn gwanwyn 2022".
Ond dywedodd Ms James hefyd ei bod yn credu y dylai datblygwyr fod yn gwneud mwy.
"Rwy'n bwriadu cynnal bwrdd crwn gyda datblygwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a byddaf yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd camu i fyny i gyflawni eu cyfrifoldebau," meddai.
Ailadroddodd hefyd ei galwad ar Lywodraeth y DU i egluro faint o arian ychwanegol fyddai'n dod i Gymru o ganlyniad i wario ar ddiogelwch tân yn Lloegr.
Mewn datganiad dywedodd Cerys Owen o Grŵp Gweithredu Prydleswyr Cymru: "Rydyn ni'n wynebu, ac rydyn ni eisoes yn talu, costau llethol, methdaliad, a cholli'r cartrefi rydyn ni wedi gweithio mor galed amdanynt.
"Mae'r gefnogaeth sydd ei hangen ar frys gan lesddeiliaid yng Nghymru nid yn unig ar gyfer grant i gynnal mwy o arolygon, ond cefnogaeth i ariannu adferiad gwirioneddol yr adeiladau hyn."
Rhybuddion nhw erbyn i arian parod atgyweirio fod ar gael o'r diwedd "bydd llawer ohonom eisoes wedi colli ein cartrefi".
"Mae'n golygu na all lesddeiliaid hyd yn oed wneud cais am arian i adfer yr adeiladau anniogel hyn tan wanwyn 2022, sydd, os caiff ei gymeradwyo wedyn, yn annhebygol o gael ei dderbyn cyn 2023, ac erbyn hynny bydd llawer ohonom eisoes wedi colli ein cartrefi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i greu cronfa diogelwch adeiladau, sy'n mynd tu hwnt i ddatrys problemau gyda chladin allanol.
"Rydyn ni'n cydymdeimlo â thrigolion sy'n cael eu dal yn yr amgylchiadau ofnadwy hyn heb unrhyw fai arnyn nhw," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019