Pryder am effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
iechyd meddwl

Mae elusen iechyd meddwl amlwg wedi galw am weithredu brys gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gwaethygu oherwydd y pandemig.

Roedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn "cael eu disgrifio fel bod mewn creisis er gwaethaf ymdrechion y gweithlu" yn ôl Mind Cymru, ac mae ymchwil newydd gan yr elusen yn awgrymu y bydd mwy o straen eto ar y gwasanaethau hynny o ganlyniad i'r pandemig.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y math cywir o gymorth ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl wedi bod yn flaenoriaeth yn ystod y pandemig.

Ddydd Iau, cyhoeddodd Mind Cymru adroddiad yn cynnwys ystadegau pryderus am effaith y pandemig a'r cyfnodau clo ar iechyd meddwl plant a phobl ifainc.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod y rheiny wedi cael effaith anghyfartal ar bobl ifanc," medd Nia Evans

Holwyd 106 person ifanc 13-24 oed gan Mind Cymru ar gyfer yr adroddiad. Nododd 68% ohonyn nhw bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.

Erbyn diwedd y trydydd cyfnod clo ddechrau eleni, dywedodd 53% o'r bobl ifanc a holwyd bod eu hiechyd meddwl yn "wael" neu'n "wael iawn", gyda 45% yn dweud iddyn nhw hunan-niweidio yn ystod y pandemig.

Dywedodd Nia Evans, rheolwr plant a phobl ifanc Mind Cymru, wrth raglen Newyddion S4C BBC Cymru: "Ry'n ni'n ymwybodol iawn y bydd y pandemig ag effeithiau pellgyrhaeddol i iechyd meddwl pobl ifanc.

"Dyddiau cynnar yw hi o hyd o ran effaith y cyfnodau clo, ond mae mwy a mwy o dystiolaeth bod y rheiny wedi cael effaith anghyfartal ar bobl ifanc.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gyhoeddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond mae hwnna i weld yn eithaf araf.

"Ry'n ni'n ymgyrchu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn clywed lleisiau'r bobl ifanc yma ac yn deall bod angen buddsoddi'n gyflym a sicrhau bod effeithiau'r buddsoddiad wir yn cael eu teimlo gan y bobl ifanc yma."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Iwan Caudy yn 20 oed y llynedd

'Y boen fwyaf'

Ond mae'r buddsoddiad a'r ymgyrchu yn rhy hwyr i rai.

20 oed oedd Iwan Caudy o Ben-y-bont pan fu farw ym mis Mai'r llynedd. Roedd wedi cael problemau iechyd meddwl ers blynyddoedd, ond bu farw ar ôl cymryd gor-ddos o heroin.

"Ma' di bod yn uffernol o anodd - colli plentyn yw'r boen fwyaf ma' unrhyw un yn gallu mynd trwyddo," meddai ei fam Tania Wear.

"Ma' eithaf tipyn o euogrwydd hefyd, ma' fe'n anodd dod drosto hwnna a trio ffeindio rheswm i gario mlaen."

Fe geisiodd Iwan ladd ei hun fis cyn iddo fe farw. Er iddo fynd i'r ysbyty, cafodd ei anfon nôl i'w gartref oherwydd y risg o ddal Covid-19. Cafodd un apwyntiad gyda seiciatrydd hefyd ei ganslo oherwydd y pandemig.

Ond mae ei deulu yn mynnu bod angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tania Wear, mam Iwan, bod angen mwy o arian mewn gwasanaethau iechyd meddwl

"Hyd yn oed heb Covid chi'n aros chwe mis, hyd yn oed 12 mis, cyn cael apwyntiad gyda seiciatrydd a ma' hwnna'n problem fawr i'r NHS.

"Ond fi ddim yn beio'r NHS, sdim digon o arian gyda nhw."

Yn ddisgybl disglair, bu Iwan yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Ond wedi symud o gartref, fe ddirywiodd ei iechyd meddwl, a'i deulu yn credu iddo droi at gyffuriau anghyfreithlon mewn rhwystredigaeth wrth geisio delio â'i deimladau.

"Os oedd ei broblemau wedi cael eu hystyried yn fwy difrifol o'r dechrau mwy na thebyg y byddai dal yma heddiw," meddai ei frawd Iolo.

"Y broblem yw bod yr NHS, yr adran iechyd meddwl, yn dodi plaster ar y problemau.

"Does dim digon o adnoddau ganddyn nhw i helpu, nes bod y broblem mor ddifrifol mae'n anodd helpu."

Dyw'r teulu ddim yn gweld bai ar unrhyw un am farwolaeth Iwan, ond maen nhw yn galw am ariannu teg i wasanaethau iechyd meddwl a gwella ymwybyddiaeth o effeithiau problemau iechyd meddwl yn ein cymdeithas.

'Mwy i'w wneud'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydymdeimlo â theulu Iwan a bod sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y math cywir o gymorth ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl wedi bod yn flaenoriaeth iddynt yn ystod y pandemig.

"Ond rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi'n glir y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn buddsoddi £42 miliwn o arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i wella cymorth iechyd meddwl.

"Er mwyn ymateb i effaith y pandemig ar iechyd meddwl bydd angen dull gweithredu amlochrog gan sawl asiantaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Mind Cymru, i wneud hyn."

Pynciau cysylltiedig