Clybiau ieuenctid: Ofnau bod plant yn troi at droseddu

  • Cyhoeddwyd
Knife crimeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae clybiau ieuenctid yn cynnig lle diogel i bobl ifanc a allai gael eu denu gan gangiau a throseddu

Mae pryder fod cyfyngiadau Covid ar glybiau ieuenctid wedi ysgogi rhai pobl ifanc i ddefnyddio cyffuriau a niweidio'u hunain yn ystod y pandemig.

Dywedodd gweithwyr ieuenctid wrth y BBC fod plant mor ifanc ag 11 oed wedi siarad am hunan-niweidio a defnyddio alcohol a chyffuriau yn ystod y cyfnod clo.

Nawr maen nhw'n poeni y gallai pobl ifanc droi at droseddu a datblygu problemau iechyd meddwl os na fydd help ar gael i'w denu'n ôl at y clybiau ieuenctid.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi gweithio gyda'r sector ers dechrau'r pandemig.

'Amddifadu pobl ifanc'

Cyn i coronafeirws daro roedd nifer o glybiau ieuenctid wedi gorfod cau oherwydd toriadau neu ailstrwythuro, gyda 163 o glybiau cynghorau sir yng Nghymru yn cau rhwng 2014-2019.

Ond yn ystod y cyfnodau clo, bu'n rhaid cau pob un o'r clybiau, gan olygu nad oedd aelodau'n gallu cwrdd wyneb yn wyneb â'u gweithwyr ieuenctid.

Tra bod y rheolau yn Lloegr wedi newid i ganiatáu i bobl ifanc gwrdd dan do mewn clybiau, mae plant a phobl ifanc Cymru yn dal i orfod cadw pellter cymdeithasol ac mae cyfyngiadau ar y nifer sy'n gallu mynd i glybiau ieuenctid yn dibynnu ar faint yr ystafell neu'r adeilad.

Dywed gweithwyr ieuenctid fod y cyfyngiadau'n amddifadu pobl ifanc rhag cael lle diogel i gyfarfod tu allan i'w cartrefi ac oddi ar y strydoedd.

Paula a phlentyn yn gwneud gweithgareddau yn yr awyr iachFfynhonnell y llun, Canolfan Gymunedol Twyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithgareddau tu allan wedi bod yn boblogaidd yn ôl Paula Mohoney (chwith) , er nad oes modd cynnal sesiynau arferol dan do o hyd

Ym Merthyr Tudful - un o'r ardaloedd gafodd ei tharo waethaf gan Covid-19 - dywedodd y gweithiwr ieuenctid, Paula Mohoney, bod y cyfnodau clo, un ar ôl y llall, wedi gorfodi nifer o blant "i dyfu i fyny'n rhy gyflym".

Cyn y cyfnod clo roedd 30-40 o blant a phobl ifanc yn mynd i glwb ieuenctid canolfan gymdeithasol Twyn yn Nhwynyrodyn, Merthyr Tudful bob wythnos.

Dywedodd Paula Mohoney fod y clwb wedi bod yn darparu gweithgareddau rhithiol ac anfon pecynnau gweithgaredd allan, ond bod nifer o'r aelodau wedi cael eu colli "i'r strydoedd".

I rai, y clwb oedd eu hunig le diogel, meddai, a bod rhai wedi dechrau dilyn gangiau neu wedi dechrau yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau.

'Rhedeg reiat o gwmpas y dref'

"Mae 'na rai 11 oed yn mynd o gwmpas gyda dynion yn eu hoed a'u hamser nawr, ac maen nhw'n rhedeg reiat o gwmpas y dref, yn dwyn o siopau, ac yn taflu wyau at siopau," meddai.

"Rwy' wedi'u gweld nhw yn eistedd mewn cae gyferbyn â ni yn cymryd cyffuriau yn 15 oed. Fyddwn i erioed wedi breuddwydio'r fath beth."

Cyn y cyfnod clo roedd plant mor ifanc ag 11 oed wedi sôn wrthi am hunan-niweidio, ac er ei bod wedi ceisio cadw golwg ar eu llesiant trwy alwadau ffôn, roedd methu eu gweld wyneb yn wyneb yn ddychrynllyd, meddai Paula Mohoney.

Fel yr unig weithiwr ieuenctid yn y ganolfan, ac yn gweithio 12 awr yr wythnos, mae hi'n pryderu y bydd nifer yn mynd i drwbl os na fydd arian ar gael i'w galluogi hi i wneud gwaith allanol.

"Mae'r gwyliau'n dod yn fuan, ac mae'n mynd i fod yn rhemp," meddai.

"Y boen fwyaf nawr yw'r plant sydd ar y strydoedd, yn gwneud pob math o bethau - ymladd, gangiau - mae angen i ni ganfod ffordd o'u hannog yn ôl neu i ailadeiladu perthynas gyda nhw."

Presentational grey line
Bailey yn gwirfoddoli yn y clwbFfynhonnell y llun, Canolfan Gymunedol Twyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddoli yn y clwb wedi helpu Bailey i fagu hyder

Dechreuodd Bailey fynd i'r clwb i gymdeithasu gyda'i ffrindiau pan oedd yn 12 oed, ond yna fe darodd Covid-19.

"Oll ro'n i'n gwneud oedd eistedd gartre'n gwylio'r teledu - doedd dim byd arall i'w wneud," meddai.

Nawr, mae'r bachgen 15 oed yn gwirfoddoli yn y ganolfan bob dydd, yn helpu yn yr ardd a gyda phlant ifanc, ac mae'n dweud bod y profiad wedi'i helpu.

"Roeddwn i'n arfer bod yn swil iawn, ond gobeithio mai fi yw'r person mwyaf bywiog yn yr ystafell nawr," meddai.

'Rhoi ein gwaith yn ôl 10 mlynedd'

I aelodau clwb ieuenctid Senghennydd (SYDIC) yng Nghaerffili, roedd treulio amser yn y clwb cyn y cyfnod clo fel treulio amser gyda'r teulu.

Ond yn ôl Dave Brenton, sy'n rheoli'r clwb di-elw, mae'r holl gyfnodau clo wedi taflu gwaith y clwb yn ôl 10 mlynedd.

"Mae dwy flynedd yn amharu arnom ni [fel oedolion], ond i blant mae hynny'n oes," meddai.

Mae materion iechyd meddwl wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig, meddai, a thra bod y clwb yn gwneud popeth yn ei allu, mae'r rheolau'n ei gwneud hi'n "amhosibl" i gynnal sesiynau dan do, er bod plant yn gallu cymdeithasu gyda'i gilydd yn yr ysgol.

'Dydyn ni ddim yna i'w helpu nhw'

"Roedden ni'n deulu, ac mae'n rhaid i ni ailadeiladu hynna rhywsut, mae'n rhaid i ni adeiladu'r berthynas yna eto," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n cael rhai ohonyn nhw'n ôl, ac mae hynny'n drychineb oherwydd maen nhw'n mynd i gael eu colli i gyffuriau a throseddu a phob math o bethau.

"Hyd yn oed os ydyn nhw'n dewis peidio dod i mewn, rydym isio gadael iddyn nhw wybod bod lle diogel yn dal ar gael iddyn nhw yma, ond ar y foment fedran ni ddim gwneud hynny."

Dywedodd Ali, sy'n weithiwr ieuenctid, fod pobl ifanc wastad wedi cwrdd ar y stryd, ond eu bod hefyd yn galw i mewn i'r clwb ieuenctid i gymdeithasu a chael bwyd a sgwrs.

"Rydym wedi colli'r cysylltiad yna. Maen nhw'n dal allan yna, ond dydyn ni ddim, felly dydyn ni ddim yna i'w helpu nhw mewn unrhyw ffordd," meddai.

Esme-Jade Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esme-Jade Davies yn pryderu na fydd rhai yn dod ôl i'r clwb fyth eto

Yn ôl Esme-Jade Davies, 19, sy'n fyfyrwraig ac yn gwirfoddoli yn y clwb, mae methu mynd yno wedi bod yn rhwystredig.

Mae hi'n pryderu na fydd rhai aelodau'n dod yn ôl ac y byddan nhw'n dal i fod wedi'u hynysu.

Mae adroddiad diweddar yn dangos bod materion emosiynol ac iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd wedi cynyddu'n sylweddol ers i ysgolion ailagor wedi cyfnod clo dros y Nadolig.

Dywedodd swyddogion o gyngor y ddinas bod nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi cynyddu 253 i 458, 81%, yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r cyngor yn bwriadu darparu nosweithiau ychwanegol i glybiau ieuenctid dros yr haf mewn ymgais i ailgysylltu gyda phobl ifanc.

Sally HollandFfynhonnell y llun, Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n bwysig fod y llywodraeth yn gwrando ar y pryderon" - Y Comisiynydd Plant, Sally Holland

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland, bod gweithwyr ieuenctid wedi gweithio'n galed i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac wedi wynebu "heriau sylweddol" yn ystod y pandemig.

"Mae'n pryderu rhywun i glywed gweithwyr ieuenctid yn siarad am golli cysylltiad efo pobl ifanc yn ystod y pandemig, a'u hofnau am fethu darparu cefnogaeth," meddai.

"Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn gwrando ar y pryderon hyn wrth i ni symud ymlaen, fel bod eu hymateb tymor hir i effeithiau'r pandemig yn gallu bod mor effeithiol â phosib."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi gweithio gyda'r sector ieuenctid drwy gydol y pandemig, ac wedi helpu gwasanaethu i sicrhau £21m mewn grantiau, ynghyd ag arian ychwanegol er mwyn hwyluso'r ymateb i "anghenion brys y bobl ifanc y maent yn eu cefnogi".