Nifer damweiniau fferm angheuol wedi dyblu y llynedd
- Cyhoeddwyd
Fe ddyblodd nifer y bobl gafodd eu lladd mewn damweiniau fferm yng Nghymru y llynedd, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mae'r adroddiad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, dolen allanol yn dangos bod saith marwolaeth yn 2020/21, o'i gymharu â thair yn 2019/20.
Roedd y cynnydd yma'n adlewyrchu cynnydd tebyg ar draws Prydain, ble roedd 41 digwyddiad angheuol yn 2020/21, o'i gymharu â 23 yn 2019/20.
Roedd y ffigwr ar draws Prydain hefyd yn uwch na'r cyfartaledd dros bum mlynedd sef 33 marwolaeth y flwyddyn rhwng 2016-2021.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dweud fod y cynnydd yn "siomedig" ac "annerbyniol".
Roedd dros hanner y marwolaethau ar draws Prydain ymysg pobl dros 60 oed.
Roedd naid fawr yn y grŵp 45-54 oed hefyd.
Ymysg y prif achosion roedd cerbydau'n symud, anifail, dod i gysylltiad â pheirianwaith neu wrthrych yn symud.
Meddwl bod y 'diwedd wedi dod'
Ym mis Chwefror, fe gafodd Alun Hopkins, 80, ei daro gan fuwch ar fferm Cennant, ger Pisga, Ceredigion.
"Es i dago llo bach. O'n i'n gweld y fuwch yn dawel a thagies i'r llo. Ond fel o'n i'n troi i fynd mas, bwriodd y fuwch fi yn fy nghoes."
"Mi gwmpes a meddwl wrth yn hunan, 'Shwt fi'n dod mas o fan hyn?'"
"O'n i'n meddwl, 'Mae'r diwedd wedi dod'. O'n i'n ffili dod mas o'r gornel."
Fe gafodd Mr Hopkins ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ble treuliodd ddwy noson wedi torri ei ffêr.
"Bydd rhaid bod mwy parchus nawr. Bydd rhaid cael rhywun i helpu fi nawr. Rhaid cael dau nawr. Un i dago'r llo ac un i gadw'r fuwch off."
Camau 'rhwydd' i osgoi anafiadau
Mae gan amaeth gyfradd waeth o farwolaethau, fesul 100,000, na'r un diwydiant arall - 20 gwaith yn fwy na'r gyfradd ar draws yr holl ddiwydiannau.
Dywedodd pennaeth dros dro amaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Adrian Hodkinson: "Mae'n annerbyniol bod amaeth yn parhau i fethu rheoli diogelwch yn y gweithle.
"Rydym angen i bawb chwarae eu rhan i wella ymddygiad, gwneud y pethau iawn a dweud pan mae nhw'n gweld arferion gwael.
"Mae'n siomedig gorfod tynnu sylw at gyfradd flynyddol uchel o farwolaethau unwaith eto pan mae'r achosion yn gyfarwydd a'r camau i osgoi anafiadau yn rhwydd."
Ychwanegodd Mr Hodkinson fod "mesurau diogelwch syml i bobl eu dilyn i osgoi anafiadau", gan gynnwys:
Cofio codi'r brêc llaw;
Gwisgo gwregys diogelwch y cab;
Mynd am hyfforddiant a gwisgo helmed cyn mynd ar feic cwad;
Peidio rhoi gwartheg a lloi mewn cae gyda llwybr cyhoeddus; a
Diffodd cerbyd neu beiriannau cyn ceisio eu trwsio.
'Mwy o waith, mwy o straen'
Dywed elusen sy'n cynnig cymorth i ffermwyr dan bwysau bod y straen a'r unigrwydd ychwanegol gafodd ei achosi gan y pandemig yn debygol o fod wedi cyfrannu at y cynnydd mewn marwolaethau.
Yn ôl Wyn Thomas o sefydliad Tir Dewi, dydy cynnydd mewn damweiniau yn ystod blwyddyn o gyfnodau clo ddim yn gyd-ddigwyddiad.
"Mae meddyliau ffermwyr wedi bod yn brysur iawn," meddai. "Mae'r straen, mae'r gofid wedi bod yn brysur - ac felly mae hwnna'n arwain at nifer o broblemau ac un o'r rheini wrth gwrs yw damweiniau.
"Pan mae ffermwr yn brysur, yn gofidio, pan mae e wrth ei hunan, mae damweiniau yn fwy tebygol o ddigwydd ac mae e'n ofnadwy bod y damweiniau yma wedi cynyddu.
"Mae ffermwyr wedi bod yn gwneud hyd yn oed mwy o waith o dan hyd yn oed fwy o straen."
Mae Glyn Davies yn Llysgennad i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ac yn erfyn ar bobl i gymryd diogelwch o ddifri.
"Y peryg yw os nad y'n ni'n mynd ati o ddifri ein hunan i'w wneud e, bydd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dod lawr arnom ni fel tunnell o frics," meddai. "Mae nhw'n cadw golwg arnom ni."
Ei neges yw: "Gwnewch yn siŵr bo' chi'n gwybod be' chi'n 'neud. Paratowch ymlaen llaw, yr offer cywir gyda chi, wedi meddwl shwt y'ch chi'n mynd i wneud y gwaith, cymerwch gwpl o eiliadau, cwpl o funudau i baratoi."
"Hyfforddiant hefyd yn beth pwysig. Mae 'na wybodaeth i gael mas 'na. Defnyddiwch e plîs i ni gael tynnu'r ffigyrau 'ma lawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020