Ych yr afon wedi lladd tad a mab ar eu fferm yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
Gwehelog
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ych ymosod ar y tad a'r mab ar eu fferm ym mhentref Gwehelog ym mis Mai 2020

Mae cwest wedi clywed y bu farw tad a mab ar ôl i ych yr afon (water buffalo) ymosod ar y ddau ar fferm y teulu yn Sir Fynwy.

Fe wnaeth yr anifail ymosod ar dri aelod o'r un teulu, gan ladd Ralph Jump, 57, a Peter Jump, 19, yn ardal Gwehelog ger Brynbuga ar 5 Mai 2020.

Clywodd y cwest yng Nghasnewydd bod yr anifail wedi ceisio ymosod ar feddyg a pharafeddyg hefyd tra'r oedden nhw'n ceisio trin y teulu.

Daeth rheithgor i gasgliad naratif am farwolaeth Ralph Jump, a chofnodi bod Peter Jump wedi marw drwy anffawd.

'Rowlio i lawr y cae'

Roedd Ralph Jump wedi mynd i mewn i'r cae ble roedd yr anifail yn cael ei gadw oherwydd bod gwellt wedi cael ei wthio yn erbyn ffens drydan.

Dywedodd ei wraig, a mam Peter, Josephine Jump bod ei merch wedi gweiddi arni fod yr ych gwrywaidd, o'r enw Yolo, yn "gwthio" ei gŵr i lawr y cae.

"Roeddwn i'n gallu ei weld yn cael ei rowlio i lawr y cae ganddo," meddai.

Dywedodd ei bod hi wedi mynd i mewn i'r cae ond bod yr anifail ddim yn rhoi'r gorau iddi, a bod ei gŵr yn amlwg mewn poen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ych yr afon yn fwy cyffredin yng ngwledydd Asia

Ychwanegodd bod ei mab, Peter wedi cyrraedd a tharo'r anifail gyda pholyn metel i'w gael i ffordd o'i dad, ond bod yr ych yna wedi ymosod ar Peter.

Clywodd y cwest bod yr ych "ddim yn hoffi Peter", ac wedi i'r anifail ymosod arno fe aeth yn ôl i ymosod ar Ralph.

Dywedodd Josephine Jump wrth y cwest ei bod wedi sylweddoli yn dilyn y digwyddiad bod ei gŵr wedi marw.

Fe wnaeth Peter geisio llusgo ei hun i ffwrdd ar ôl i'r anifail ymosod arno, ond fe wnaeth yr ych sylweddoli ac ymosod arno eto.

Bu farw Peter yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Atal cymorth feddygol

Clywodd y cwest hefyd bod meddyg a pharafeddygon wedi cyrraedd y fferm ond bod yr ych wedi eu hatal rhag gallu rhoi cymorth i'r tad a'r mab i ddechrau, a bu'n rhaid i un parafeddyg guddio mewn clawdd.

Fe wnaeth yr anifail yna ymosod ar chwaer Peter, Isabel Jump, a'i llusgo i'r llawr.

Bu'n rhaid i weithiwr iechyd daflu carreg at yr ych er mwyn i Isabel ddianc.

Wedi i'r heddlu gyrraedd fe wnaeth swyddog arfog saethu'r anifail yn ei ben, ond ni wnaeth hynny ei ladd yn syth.

Dywedodd y Sarjant Robert Gunney, wnaeth fynychu'r digwyddiad, nad oedd y gynnau oedd gan y swyddogion yn ddigon pwerus i ladd "bwystfil o'r maint yna".

Ychwanegodd y bu'n rhaid cael reiffl o orsaf heddlu 15 munud i ffwrdd er mwyn ei ladd.

'Anafiadau catastroffig'

Clywodd y cwest bod gan Ralph Jump anafiadau catastroffig i'w frest gan gorn yr anifail, a bod yr ych wedi sathru arno hefyd.

Cafodd Peter Jump ei gymryd i'r ysbyty ble cafodd lawdriniaeth, ond fe gafodd ataliad ar y galon ac nid oedd modd ei adfer.

Ddydd Iau, daeth rheithgor i gasgliad naratif wrth edrych ar farwolaeth Ralph Jump.

Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Ralph Jump "wedi'i ymosod arno gan darw a bu farw yn y fan a'r lle", a bod "peidio â chael ail berson yn bresennol pan aeth i mewn i'r cae, a pheidio â chael lloches na man diogelwch pan aeth i mewn i'r cae" wedi cyfrannu at y farwolaeth.

Dychwelodd y rheithgor gasgliad o anffawd am farwolaeth Peter Jump.

Pynciau cysylltiedig