Bardd y Mis: Pum munud gyda Derec Llwyd Morgan
- Cyhoeddwyd
Mae'n awdur, yn academydd ac yn gyn is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac am y mis nesaf yr Athro Derec Llwyd Morgan ydy Bardd y Mis Radio Cymru.
Rydych chi'n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe a thîm criced Morgannwg ers eich plentyndod, sut un oeddech chi fel chwaraewr yn y ddwy gamp?
Gan taw ychydig o fechgyn oedd ar Gefn-bryn-brain, lle'm maged, yr oedd lle i bawb mewn tîm, a chan hynny, tan fy mod tuag 11 oed, tybiwn fy mod cystal chwaraewr â'r un. Buan y daeth y dybiaeth honno i ben.
Ond gan fod gennyf ddiddordeb mor ysol yn y campau, a chryn wybodaeth amdanynt, er nad oeddwn yn yr un cae â Keri Evans ac Alan Allcock, er enghraifft, cawn fy lle yn nhîm pêl-droed y Cefen Crows, a chwaraeai mewn cynghrair i fechgyn o dan 16 yng Nghwm Tawe a Chwm Aman, yn rhannol am fod gennyf ddawn i drefnu.
At hynny, am nad oedd neb arall yn barod i fod yn gefnwr, cefais chwarae rygbi i dîm llwyddiannus Dyffryn Aman yn y Dewar Shield tua diwedd y pumdegau, ac ennill rhai medalau gyda thîm rygbi ieuenctid Cwmllynfell (pan oedd y tîm 1af yn bencampwyr Cynghrair Gorllewin Cymru).
Er taw criced a garwn fwyaf nid oeddwn - o bell ffordd - yn ddigon da i chwarae i dîm Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, ond chwaraewn dennis drosti.
Ni ddeuthum yn chwaraewr criced o werth tan inni sefydlu tîm Yr Adran Gymraeg a'i Chyfeillion yng Ngholeg Bangor yn y saithdegau, a chwaraeais tan fy mod yng nghanol fy mhedwardegau, yn bennaf i dîm Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn Cynghrair Noson Waith yng Ngheredigion, gan unwaith wneud penawdau dalen-ôl y Cambrian News am gael 5 wiced am 11. Bragan, os bu bragan erioed!
Chi oedd cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Kyffin Williams. Petai Cymru Fyw yn talu, pa lun gan ba artist fyddech chi'n hoffi ei gael?
Euthum yn gadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams am i'r arlunydd ei hun ofyn imi, ychydig cyn ei farw, a awn yn gyfrifol am godi oriel er cof amdano. Ac fe lwyddwyd.
Yr wyf wedi prynu darnau celf yn ysbeidiol er hanner can mlynedd. A chofio eto am fy niddordeb mewn chwaraeon, euthum i arddangosfa gan Nick Holly yn Abertawe, a chyrraedd yn rhy hwyr i brynu llun o'r Vetch, lle chwaraeai Abertawe gynt. Ond fel gwobr gysur comisiynais lun bach ganddo o'r Stand Dwyreiniol a godwyd yn nyddiau John Toshack.
Ar ôl imi ymddeol i Fôn prynais lun mwy o lawer o'r hen Vetch gan Holly a ddarganfûm yn un o ystafelloedd cefn Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy, ac o'r holl luniau sy'n y tŷ 'ma hwnnw yw un o fy ffefrynnau. Petai'n rhaid imi ddewis llun i'w brynu, am resymau sentimental hollol prynwn ddarlun Josef Herman o lowyr yn canu o dan ddaear (daethai Herman i fyw i Ystradgynlais lle maged fy nhad).
Ond am resymau ceinach, dewiswn unrhyw beth gan John Piper, arlunydd yr wyf yn ei edmygu'n fawr (y mae gennyf gopi bychan bach a'r Coleg ar y Lli a phrom Aberystwyth gan Edward Piper, ei fab).
Pan oeddwn yn canfasio yn Sir Aberteifi un tro, euthum i Allt Fadog, hen gartref Lewis Morris o Fôn, gyda 'gwên fêl yn gofyn fôt', glanio yn y gegin yno, a gweld y lluniau rhyfeddaf, eithriadol liwgar, a welais ar bared unrhyw dŷ preifat: erbyn gweld, lluniau gan Piper oeddynt: merch John Piper a drigai yno.
Fel llenor sydd hefyd wedi gwneud sawl swydd wahanol gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor a Llywydd y Llys, a ddylai prif artistiaid y Brifwyl gael seremoni lawn yn y pafiliwn, tebyg i'r bedair i'r prif lenorion er mwyn codi statws celf weledol yng Nghymru?
Na ddylent. Ond gadewch imi amodi'r ateb. Y mae seremonïau yn mynd â llawer o amser ac adnoddau i'w trefnu a'u cynnal. At hynny, credaf y dylid gwneud mwy o'r Babell Gelf. Yng Nglyn Ebwy, er enghraifft, cafwyd Pabell danddaearol bron a oedd yn denu sylw enfawr. Mewn lle fel'ny y mae anrhydeddu'r arlunydd neu'r cerflunydd, &c.
Fel awdur amryw i lyfr hanes llên, i ba gyfnod fyddech chi'n hoffi teithio yn nhardis Cymru Fyw, a pham?
Ni ddymunaf fynd yn ôl i unrhyw gyfnod. Hyd yn oed petawn yn gallu mynd yn ôl i'r gorffennol, rhan yn unig o'r gorffennol hwnnw a brofwn. Rhan o'n presennol a brofwn hefyd. Er darllen heddiw yn esmwythdra fy myd cyfoethog fy hun am broblemau dieithr bob dydd cyfandir Affrica neu'r Dwyrain Canol, ni phrofaf mohonynt.
At hynny, pan feddylia pobl am ddychwelyd i ryw oes o'r blaen, i Gymru'r Tywysogion dyweder, breuddwydio y maent am fynd i'w gogoniant castellog, ond, fel y dywedodd yr hanesydd synhwyrgall R. T. Jenkins un tro, petai'r rhan fwyaf ohonom yn llwyddo i ddychwelyd i'r Oesoedd Canol, mynd yno'n weision ac yn forynion tlawd iawn iawn a wnaem!
Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Heb os, Williams Pantycelyn. Ym mlynyddoedd canol y ddeunawfed ganrif achosodd Williams chwyldro llenyddol yng Nghymru, a hynny wrth roi llais i chwyldro ysbrydol. Ef oedd genau'r Diwygiad Methodistaidd.
Gyda'i arddull ddeniadol a oedd yn amalgam o iaith y Beibl Cymraeg a thafodiaith gyfoethog Sir Gaerfyrddin, lluniodd gannoedd ar gannoedd o emynau a roddodd fynegiant i brofiadau tanllyd, eneidegol a meddyliol, degau o filoedd o'i gydwladwyr, a fyddai, heblaw amdano fe, yn ddifynegiant. Williams a barodd fod y werin Gymraeg am genedlaethau yn werin lafar.
At hynny, lluniodd epigau am natur y greadigaeth a pherthynas Duw â hi. Ac at hynny hefyd ysgrifennodd lyfrau rhyddiaith sydd yn arweiniad disglair i eneideg a chymdeithaseg y dydd. Clamp o fardd, a chlamp o lenor.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Y soned Dychwelyd gan T. H. Parry-Williams. Yr oedd Pantycelyn yn grediniwr llwyr a hollol, yn gweld ystyr ddwyfol i fywyd dyn ar y ddaear. I Parry-Williams, yn 'ehangder mawr' diderfyn y cyfanfyd anfesuradwy, nid yw dyn yn ddim, nid oes iddo ystyr.
Y soned hon yw un o'r diffiniadau disgleiriaf a ddarllenais i na neb arall mewn unrhyw iaith o ffwdandod ffôl bywyd. Wrth gwrs, os yw'n ffodus yn ei amgylchiadau, gall dyn fwynhau hynny o fyw a gaiff ar y ddaear hon, ond nid yw hynny'n newid odid ddim ar ei arwyddocâd neu'n hytrach ei ddiffyg arwyddocâd. Nodyn ofnadwy i orffen hyn o ateb arno!
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
Dim byd mawr. Nid wyf yn credu y buaswn wedi cael gwahoddiad i fod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru pe na bawn wedi llunio'r gyfrol Bardd Cwsg Arall a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch eleni, ond sydd, mewn gwirionedd, yn gynnyrch misoedd Gofid Mawr 2020. Yr oedd honno megis ar y gweill heb imi sylweddoli hynny.
Lluniais y rhan fwyaf o'r cerddi a geir yn y gyfrol mewn rhyw bedwar neu bum mis yn ystod cloeon Covid. Yr oedd adegau y gwanwyn a'r haf hwnnw pan drôi pob profiad megis yn gerdd. Dyna rywbeth na phrofais mohono erioed o'r blaen, ac amheuaf a brofaf ddim byd tebyg eto.
Lluniais Bachgendod Isaac, cyfrol fechan am fy magwraeth, yn 2017, ond ni luniais ddim byd hir er imi gyhoeddi Y Brenhinbren, bywgraffiad Thomas Parry, yn 2013.
Y pethau a fwynhâf eu hysgrifennu fwyaf yn awr yw fy ngholofnau chwaraeon misol yn y cylchgrawn Barn, colofnau sydd â'u gwraidd yn y campau ond sydd mewn gwirionedd yn dweud rhyw bethau mwy cyffredinol am natur bywyd.
Hefyd o ddiddordeb: