Pennaeth S4C yn cadarnhau ei fod yn gadael y sianel

  • Cyhoeddwyd
Owen EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bu Owen Evans yn brif weithredwr y sianel ers 2017

Mae prif weithredwr S4C, Owen Evans wedi cadarnhau y bydd yn gadael y sianel i fod yn bennaeth newydd ar gorff arolygu ysgolion, Estyn.

Dywedodd y byddai'n parhau yn ei swydd bresennol tan ddiwedd y flwyddyn, ond mae'n hyderus na fydd setliad ariannol y sianel gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) yn diodde' oherwydd ei ymadawiad.

Daw y newyddion wrth i adroddiad blynyddol S4C ddweud bod cynnydd wedi bod yn nifer eu gwylwyr ar draws eu platfformau wrth i bobl droi at y sianel yn ystod blwyddyn y pandemig.

Roedd 321,000 o bobl yng Nghymru'n gwylio'r sianel yn wythnosol yn ystod 2020/21, yn ôl yr adroddiad blynyddol, cynnydd o 15,000 ar y flwyddyn gynt.

Bu hefyd naid sylweddol yn nifer y gwylwyr wythnosol ar draws y DU, gan godi o 702,000 i 823,000.

Dywedodd cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, fod "amgylchiadau annisgwyl ac anodd yn aml yn dod â'r gorau allan o unigolion a sefydliadau".

Mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C gan y BBC, dywedodd Owen Evans: "Bydda i'n gadael S4C. Rydyn ni'n aros i'r Frenhines gymeradwyo'r penodiad i fod yn bennaeth Estyn ond dwi ddim yn disgwyl gadael S4C tan ddiwedd y flwyddyn achos mae mwy o waith i'w wneud.

"Yn gynta' dwi'n ffyddiog bod y ffaith dwi'n gadael ddim yn mynd i effeithio ar y setliad. Ond y drafodaeth ges i efo'r DCMS, oedden nhw'n keen iawn i fi aros i weld y setliad yna'n cael ei derfynu a dwi 'di rhoi'r addewid hynny.

"Ma' unrhyw brif weithredwr yn gadael yn ansefydlogi pethau, ond fel rydych chi'n weld yn yr adroddiad blynyddol, rydyn ni wedi bod yn adeiladu at hyn ers y pedair blynedd ddiwethaf.

"Mae digidol yn ffynnu, mae'r gronfa fasnachol yn ffynnu, rydyn ni wedi symud pencadlys ac rydyn ni hefyd yn gweithio yn y Sgwâr Canolog.

"Y rhan olaf o'r jig-so ydy sicrhau setliad teg i S4C dros y blynyddoedd nesa felly os gai hynny dwi'n ffyddiog allai handio drosodd i fy olynydd rhywbeth sy'n sefydlog a rhywbeth allai edrych 'mlaen at y dyfodol."

Covid yn y newyddion

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y gwylwyr ar S4C Clic a BBC iPlayer, ac fe gynyddodd nifer yr oriau gwylio o 2.14 miliwn i 2.7 miliwn.

Tyfodd cynulleidfa S4C ar gyfartaledd yn ystod oriau brig hefyd, gydag 20,200 o wylwyr o'i gymharu â 18,600 y flwyddyn gynt.

Cafwyd mwy o wylwyr i dudalennau Facebook a YouTube y sianel, ond bu cwymp yn nifer y sesiynau gwylio ar Hansh, y sianel ar gyfer pobl ifanc, a hynny o 8.9m yn 2019/20 i 6.7m yn 2020/21.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau yn ystod cynadleddau Covid Llywodraeth Cymru

Chwaraeon oedd yn parhau i ddod i'r brig o ran y rhaglenni mwyaf poblogaidd, gyda gornest rygbi Cwpan yr Hydref rhwng Cymru a Lloegr yn cyrraedd 690,000 o wylwyr, a gêm bêl-droed rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru a Gwlad Belg yn denu 285,000.

Yn ogystal â rhaglenni plant, roedd Cefn Gwlad, Glanaethwy yn 30, Jonathan, Iaith ar Daith a Heno hefyd ymhith y rhaglenni a chyfresi a ddenodd y nifer uchaf o wylwyr.

Gyda Covid-19 yn flaenllaw yn y newyddion, a chynadleddau dyddiol gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cael eu ffrydio ar-lein ar un adeg, gwelwyd cynnydd o 735% yn yr oriau gwylio ar gyfrifon Facebook a Twitter Newyddion S4C.

'Gwasanaeth mwy personol'

Er i'r sianel golli "gwerth dros £8m o raglenni o'r amserlen" oherwydd y pandemig, dywedodd y prif weithredwr Owen Evans fod y sianel wedi llwyddo i addasu.

Fe wnaeth S4C hefyd gomisiynu cynnwys newydd gan gynnwys sesiynau cadw'n heini o adref ac ar gyfer diddanu plant, yn ogystal â rhyddhau sawl cyfres boblogaidd o'r archif i'w gwylio eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gornest Cymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2020 oedd y rhaglen ddenodd i nifer uchaf o wylwyr

"Fe lwyddodd S4C i afael yn ei phwrpas a sicrhau gwasanaeth mwy personol nag erioed i'n cynulleidfa," meddai.

"Trwy dynhau'r berthynas â'n cynulleidfa, ein cyflenwyr a'n partneriaid, fe wnaeth S4C ail-ddiffinio'r gwasanaeth gydag anghenion y wlad wrth ei galon.

"Roedd ymateb y sector gynhyrchu i'r amgylchiadau eithriadol yn hyblyg ac yn chwim ac rydym yn diolch yn fawr iddynt am hynny."

'Amser cyffrous i gamu i'r swydd'

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Iau bod Y Frenhines wedi derbyn yr argymhelliad i benodi Owen Evans fel Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Bydd yn olynu Meilyr Rowlands, sy'n ymddeol ddiwedd Awst. Bydd cyfarwyddwr strategol Estyn, Claire Morgan yn brif arolygydd dros dro nes fydd Mr Evans yn dechrau'r swydd ym mis Ionawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Evans yn olynu Meilyr Rowlands fel Prif Arolygydd Estyn

Mae Mr Drakeford a'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wedi llongyfarch Mr Owen a diolch Mr Rowlands am ei gyfraniad i addysg yng Nghymru.

Dywedodd Mr Drakeford fod Mr Rowlands "wedi bod yn gyfaill beirniadol i'r llywodraeth a helpu codi safonau ysgolion yng Nghymru trwy broses arolygu drwyadl".

Dywedodd Mr Miles bod cyfraniad Mr Rowlands "yn un o'r rhesymau pam mae hwn yn amser cyffrous i Owen Evans gamu i'r swydd yma".

Pynciau cysylltiedig