'Pensaer S4C' Euryn Ogwen Williams wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams yn 78 oed.
Roedd yn ddarlledwr profiadol ac yn ffigwr arloesol ym myd y cyfryngau yng Nghymru.
Dechreuodd ar ei yrfa yn y maes darlledu yn syth o'r brifysgol fel cyfarwyddwr i gwmni TWW.
Pan sefydlwyd S4C yn 1982, Euryn Ogwen oedd cyfarwyddwr rhaglenni cyntaf y sianel.
Un rhaglen oedd yn fythgofiadwy oedd Superted, er mai dim ond tair rhaglen oedd wedi'u paratoi ymlaen llaw.
A'r nod, fel yr esboniodd ar Radio Cymru, oedd gwerthu S4C i genhedlaeth ifanc fyddai'n gweld rhywbeth yn gyntaf yn Gymraeg cyn dysgu Saesneg.
Cafodd ei eni ym Mhenmachno, ei fagu ym mhentref Coed-llai ger Yr Wyddgrug a'i addysgu yn Ysgol Alun Yr Wyddgrug.
Aeth i Brifysgol Bangor i astudio a graddio mewn Athroniaeth a Seicoleg, cyn mynd ymlaen i'r maes darlledu gyda TWW, BBC a HTV, ac ymgartrefu yn Y Barri.
Ar ôl cyfnod fel dirprwy brif swyddog gweithredol S4C rhwng 1988 a 1991, bu'n gweithio yn Yr Alban ac Iwerddon.
Roedd yn ymgynghorydd arbennig ar deledu Gaeleg yn Yr Alban, ar deledu yn yr iaith Wyddeleg ac yn ymgynghorydd i Bwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod yr adolygiad i'r iaith Gymraeg.
Ar ddechrau oes teledu digidol yn y 1990au daeth yn ymgynghorydd i S4C.
Yn 2018 fe arweiniodd adolygiad annibynnol o S4C ar ran Llywodraeth y DU, gan alw ar y darlledwr i greu canolfan ddigidol a rhoi cyfle i bobl yn y maes ddatblygu syniadau.
Daeth yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth a derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes ynghyd â'r OBE am ei gyfraniad i'r byd darlledu.
Roedd hefyd yn enillydd ac yn feirniad yn Adran Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd ddwy gyfrol o farddoniaeth - Pelydrau Pell a Tywod a Sglodion.
Roedd yn Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012, pan roedd hefyd yn gadeirydd ar Bwyllgor Llenyddiaeth yr ŵyl.
Mae'n gadael gwraig, y cyflwynydd Jenny Ogwen, a'u plant Rhodri Ogwen a Sara Ogwen, sydd hefyd wedi dod i amlygrwydd fel cyflwynwyr.
Wrth ysgrifennu ar wefan gymdeithasol, dywedodd ei fab, Rhodri, ei fod o a'i chwaer wedi colli "ein Arwr, ein Mentor, ein Ysbrydoliaeth, ein Ffrind, ein Tad".
Ychwanegodd: "Ni fydd bywyd byth yr un peth.
"Diolch am dy gariad a dy gefnogaeth bob dydd o'n bywydau. Cysga'n dawel dad. Caru ti."
'Pensaer S4C'
Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, bod Euryn Ogwen yn "un o hoelion wyth y diwydiant teledu yng Nghymru a fu'n allweddol wrth i osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant S4C ym mlynyddoedd cynnar y sianel".
"Roedd ei gyfraniad yn aruthrol", meddai, ac mae'r "cyfryngau yng Nghymru yn dlotach hebddo".
"Byddaf yn cofio Euryn yn bennaf am ei waith gydag arolwg S4C yn 2018. Fe osododd ei waith sylfaeni cadarn ariannol y gall S4C ei mwynhau heddiw. Roedd ei arolwg yn deg, yn heriol ond bob amser gyda dyfodol S4C fel ei brif ffocws.
"Byddai'n colli ein sgyrsiau yn y Barri, ei gyngor doeth a'i egni ac arloesedd digidol."
Euryn Ogwen oedd "pensaer S4C" meddai cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, a'i "egni a'i ddyfeisgarwch" oedd wrth wraidd sector gynhyrchu annibynnol y wlad.
"Doedd Euryn byth yn un i orffwys ar ei rwyfau a phan gychwynnodd y we fyd-eang drawsnewid ein bywydau i gyd, roedd e' ymhlith y cyntaf i weld y cyfleoedd ac i ddychmygu sut y byddai hyn yn ail-ddiffinio byd y cyfryngau yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Bydd byd y cyfryngau yng Nghymru yn dlotach o lawer heb ei athrylith unigryw.
"Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda Jenny, Rhodri, Sara a'r wyrion."
'Ffigwr allweddol'
Yn ôl Huw Jones, cyn-brif weithredwr a chadeirydd awdurdod S4C roedd Euryn Ogwen yn "ffigwr allweddol yn hanes teledu Cymraeg".
Dywedodd wrth y Post Prynhawn fod ganddo "weledigaeth gref o sut y gallai S4C fod yn wahanol".
"Roedd yn gweld yn bell a fo welodd potensial y cynhyrchwyr annibynnol. Roedd o yn rhoi ffydd mewn pobl."
Dywedodd fod gan Euryn Ogwen y "gallu i ysbrydoli pobl i wneud y gorau o'r' cyfleodd roedd o'n rhoi iddyn nhw".
Dywed y Fonesig Elan Closs Stephens, Aelod Anweithredol o Fwrdd y BBC: "Roedd Euryn yn un o arloeswyr mwyaf y byd darlledu Cymraeg ac yn ysbrydoliaeth i ddegau lawer.
"Roedd yn flaengar, yn alluog ac yn llawn dychymyg creadigol. Bydd bwlch anferth ar ei ôl.
"Mae ein meddyliau gyda Jen, Rhodri a Sara yn eu colled a gyda phawb ohonom sydd wedi colli ffrind annwyl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2017