Y Cymry fydd yn mynd am aur yn Tokyo
- Cyhoeddwyd
Wedi iddo gael ei ohirio am flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19, mae Gemau Olympaidd Tokyo 2020 yn dechrau ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf.
Ymysg y miloedd fydd yn cystadlu mae carfan o athletwyr o Gymru fydd yn gobeithio dod â medalau nôl adref efo nhw.
Y gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd sy'n asesu gobeithion y Cymry fydd yn cystadlu yn Japan.
Wedi blwyddyn o oedi, mae'r Gemau Olympaidd o'r diwedd yma. Mae Covid yn anffodus yn dal i fod yn gysgod ar y cyfan. Fydd 'na ddim torf - dim teulu i greu twrw yn Tokyo.
Blwyddyn rwystredig
Mae'r tymheredd uchel a'r gwres yn ofid ychwanegol i'r trefnwyr ond i'r 26 o Gymry sydd yn rhan o dîm Prydain Fawr yr un yw'r uchelgais er pob her. Wedi blynyddoedd o aberth bersonol bod ar y brig - ar ben y podiwm yw'r nod.
Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi arwain at rwystrau ychwanegol - cystadlaethau wedi'u canslo, pyllau ynghau, garej yn gorfod troi'n gampfa - dros nos. Rhaid oedd addasu i gadw'r freuddwyd yn fyw. Mae gan bob un ei stori i rannu.
Bum mlynedd yn ôl yn Rio roedd na record newydd i'r Cymry - 10 o fedalau Olympaidd yn dychwelyd - pedair ohonyn nhw yn rhai aur. Efelychu os nad gwella ar hynny yw'r dyhead y tro hyn.
Lauren i ennill aur?
Ymysg y ffefrynnau i fod ar frig y podiwm mae Lauren Price o Ystrad Mynach fydd yn camu i'r sgwâr bocsio. Dydy Cymru erioed wedi cael pencampwr Olympaidd yn y maes hwn o'r blaen.
A hithau'n bencampwr byd, Ewropeaidd a Gemau'r Gymanwlad mae pethau'n edrych yn addawol i'r ferch 27 oed.
Fe allai Jade Jones o'r Fflint hoelio ei lle yn y llyfrau hanes. Ar ôl ennill aur yn y Taekwando yn Llundain yn 2012 ac yna yn Rio yn 2016 mae'n mynd am ei thrydedd medal aur yn Tokyo.
Does 'na'r un fenyw o Gymru na Phrydain wedi ennill aur dair gwaith yn olynol mewn unrhyw gamp - all Jade fod y gyntaf? Yn gystadleuaeth iddi - Cymraes arall Lauren Williams o'r Coed Duon.
Fe allai Hannah Mills yn ei chwch hwylio greu hanes hefyd. Pe bai hi'n cipio aur hi fyddai y fenyw fwyaf llwyddiannus erioed yn ei champ o ran y Gemau Olympaidd ar ôl cipio aur ac arian yn barod. Fe fydd Chris Grube hefyd nôl yn ei gwch hwylio.
Geraint yn mynd am aur eto
Dyma fydd y pedwerydd Gemau Olympaidd i Geraint Thomas ar ei feic. Mae ganddo ddwy fedal aur eisoes yn ei gasgliad ond ar y trac y daeth rheini. Ar y ffordd y bydd yn cystadlu y tro hyn gan geisio rhoi Tour siomedig eleni y tu ôl iddo.
Ar ei beic yn y felodrôm fydd Elinor Barker. Yn bencampwraig yn Rio yn 2016 yn y ras gwrso i dimau - amddiffyn y teitl yw'r nod. Yn yr un ras i ddynion mae Ethan Vernon yn cystadlu.
Mae yna bedwar fydd wedi mynd â'u ffyn hoci yn gwmni gyda nhw ar y daith i ben draw'r byd. Rupert Shipperley a Jacob Draper i gynrychioli tîm y dynion, Sarah Jones a Leah Wilkinson y merched.
Mae gan Natalie Powell fedal aur yn y Judo o Gemau'r Gymanwlad Glasgow yn 2014.
Roedd hi a'i bryd ar gipio medal yn Rio bum mlynedd yn ôl ond gorffen yn seithfed oedd ei hanes. A fydd modd gwella ar hynny y tro hyn?
Ar ddŵr yn rhwyfo fe fydd pedwar o Gymry wrthi. Victoria Thornley gafodd fedal arian yn Rio, ynghyd â Oliver Wynne-Griffith, Joshua Bugajski a Tom Barras,
Joyce y gwibiwr
Mae 'na gynrychiolaeth yn y timau pêl-droed a rygbi hefyd. Capten Cymru Sophie Ingle yw'r unig un i gael ei chynnwys yn nhîm y bêl gron tra bod yr asgellwraig chwim Jaz Joyce yn y tîm rygbi saith bob ochr.
Yn y dŵr mae na gynrychiolaeth gref eto gydag chwech o Gymry wedi eu dewis i'r tîm - y nifer fwyaf erioed. Mae nhw'n cynnwys Alys Thomas gipiodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur - dyma fydd ei phrofiad Olympaidd cyntaf hi. Harriet Jones, Daniel Jervis, Matt Richards, Kieran Bird a Callum Jarvis yw'r pump arall fydd yn y pwll.
Ac i gloi - un Cymro fydd yn cystadlu yn y stadiwm athletau. Jake Heyward yw hwnnw o Gaerdydd a'r ras 1500m yw ei arbenigedd.
17 diwrnod o gystadlu, 26 o Gymry, ond sawl medal 'sgwn i?
Hefyd o ddiddordeb: