Cymro yw prif hyfforddwr athletau'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-wibiwr Olympaidd Christian Malcolm wedi cael ei enwi'n brif hyfforddwr athletau'r DU.
Ar hyn o bryd mae Malcolm, 41 oed o Gasnewydd, yn bennaeth perfformiad gydag Australia Athletics, ond daeth cadarnhad fore Iau ei fod wedi ei benodi i'r swydd newydd.
Mae Malcolm wedi ennill medalau Ewropeaidd a Chymanwlad, ac wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd bedair gwaith rhwng 2000 a 2012.
Deellir ei fod wedi cael ei ddewis i'r swydd newydd o flaen Stephen Maguire a Peter Eriksson, a bydd ganddo lai na blwyddyn i baratoi am Gemau Olympaidd Tokyo a gafodd eu gohirio am flwyddyn yn 2021.
Ers ymddeol o fod yn athletwr yn 2014, mae Malcolm wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr gyda charfannau ras gyfnewid Prydain, ac hefyd gyda thîm Paralympaidd y DU ac Anabledd Cymru.
Enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn BBC Cymru yn 2017, ac mae hefyd wedi gweithio fel hyfforddwr cyflymder gyda thîm criced Lloegr a thîm rygbi Cymru.
Symudodd i Awstralia y llynedd gyda'r nod o wneud athletwyr Awstralia yn fwy cystadleuol ar lefel elît.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017