Gorddos laddodd y dioddefwr Covid cyntaf o Brydain

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Connor Reed
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Connor Reed, o Landudno yn wreiddiol, yn dysgu Saesneg yn Wuhan

Clywodd cwest fod dyn o Landudno - y credir iddo fod y person cyntaf o Brydain i gael ei heintio gyda Covid-19 - wedi marw o orddos cyffuriau.

Cafodd Connor Ellis Reed ei heintio gyda coronafeirws ar ddiwedd 2019 pan oedd yn dysgu Saesneg mewn ysgol yn Wuhan, China.

Fe wellodd yn llwyr a dychwelyd i'r gogledd, gan fynd i astudio ym Mhrifysgol Bangor, ond cafodd ei ddarganfod yn ei ystafell gan ei gyd-fyfyrwyr ym mis Tachwedd 2020.

Clywodd cwest yng Nghaernarfon ddydd Iau ei fod wedi cymryd y cyffuriau Fentanyl, MDMA ac MDA.

Mewn adroddiad i'r cwest, dywedodd y patholegydd Dr Muhammad Aslam fod y lefel o Fentanyl yn ddigon i fod yn wenwynig ac y byddai'r tri chyffur wedi lluosi effeithiau ei gilydd gan atal ei anadlu.

Cofnododd y crwner Kate Sutherland y canlyniad bod ei farwolaeth yn ymwneud â chyffuriau.

Dywedodd: "Roedd Connor Ellis Reed yn ddefnyddiwr o gyffuriau anghyfreithlon, ac ar y noson cyn ei farwolaeth bu'n yfed alcohol a smocio marijuana gyda'i ffrindiau.

"Awgrymodd fod ganddo iselder y noson honno, ond does dim tystiolaeth ei fod wedi bwriadu lladd ei hun.

"Rwy'n cydymdeimlo'n ddifuant gyda'i deulu a'i ffrindiau."