Staff yn ynysu: 'Cynyddol anodd cadw silffoedd yn llawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Asda
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig iawn o ddŵr oedd ar gael yn archfarchnadoedd Caerdydd fore Iau

Mae archfarchnad wedi rhybuddio ei bod yn "gynyddol anodd" i gadw silffoedd yn llawn oherwydd nifer y staff sy'n gorfod hunan-ynysu.

Daw'r rhybudd gan gwmni Lidl wedi iddi ddod i'r amlwg bod 618,903 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi cael cais i hunan-ynysu trwy ap Covid y gwasanaeth iechyd yn yr wythnos hyd at 14 Gorffennaf.

Yn ôl adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol, ychydig iawn o ddŵr mewn poteli a rhai bwydydd ffres sydd ar gael mewn nifer o archfarchnadoedd ledled Cymru.

Mae Co-op wedi dweud mai "ychydig iawn o rai eitemau" sydd ar gael yn ei harchfarchnadoedd, tra bod Iceland wedi rhybuddio ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i rai o'i siopau gau yn llwyr.

Ond mae'r diwydiant wedi annog pobl i beidio â phrynu eitemau mewn panig, gan ddweud nad oes angen gwneud hynny.

Tywydd yn cael effaith?

"Fel siopau eraill, mae'r sefyllfa yn mynd yn gynyddol anodd wrth i fwy a mwy o weithwyr orfod hunan-ynysu ar ôl cael cais i wneud hynny trwy'r system olrhain," meddai llefarydd ar ran Lidl.

"Mae'n dechrau cael effaith ar ein gwaith, ond mae ein timau yn gweithio'n galed i leihau unrhyw amharu ar gwsmeriaid."

Ychwanegodd Andrew Opie o Gonsortiwm Masnach Prydain ei bod yn arferol i weld cynnydd yng ngwerthiant eitemau fel dŵr, hufen iâ ac offer picnic yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.

"Mae'r tywydd twym sy'n effeithio ar rannau helaeth o'r DU wedi arwain at gynnydd yn y galw, ac felly diffyg argaeledd o rai eitemau," meddai.

"Mae siopau yn gweithio'n galed i stocio silffoedd cyn gynted â phosib ar gyfer yr eitemau hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Consortiwm Masnach Prydain mae'n arferol i weld cynnydd yng ngwerthiant eitemau hufen iâ yn ystod tywydd poeth

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod "ap Covid-19 y GIG yn parhau i fod yn adnodd atodol pwysig i'n gwasanaeth TTP a dylai defnyddwyr yr ap barhau i ddilyn y cyngor hunan-ynysu os byddant yn cael hysbysiad".

Ond ychwanegodd nad yw'n ofyniad cyfreithiol i ddefnyddwyr yr ap ynysu - dim ond os ddaw'r cais gan y system Profi, Olrhain, Diogelu y mae'n ddyletswydd gyfreithiol.

Dywedodd hefyd mai gobaith Llywodraeth Cymru ydy newid y rheolau ar hunan-ynysu fel rhan o'r adolygiad diweddaraf i'r canllawiau coronafeirws ddechrau Awst.

Y nod bryd hynny ydy na fyddai'n rhaid i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn i ynysu os ydyn nhw'n gysylltiad agos i rywun sydd wedi cael prawf positif.

"Hyd nes y cyflwynir unrhyw newidiadau, mae'n hanfodol bod unrhyw un sy'n cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu yn gwneud hynny," meddai.