Cleifion 'yn gaeth' yn ysbytai Gwynedd achos diffyg gofalwyr

  • Cyhoeddwyd
gofal yn y cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pobl yn sownd yn yr ysbyty yn ddiangen am nad oes digon o ofalwyr i edrych ar eu holau yn eu cartrefi.

Dyna ydy honiad Mabon ap Gwynedd, aelod Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd.

Mae'n dweud bod dros 20 o bobl yng ngogledd Meirionnydd ac Eifionydd yn Ysbyty Alltwen Tremadog ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac yn methu mynd adref oherwydd nad oes gofalwyr i edrych ar eu holau yn eu cartrefi.

Yr ateb, meddai, ydy recriwtio mwy o ofalwyr a nyrsys yn y gymuned.

Ond mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod bod recriwtio digon o ofalwyr yn broblem.

Disgrifiad o’r llun,

Mabon ap Gwynfor ydy'r Aelod o'r Senedd ar ran Dwyfor Meirionnydd

Dywedodd Mabon ap Gwynedd wrth Cymru Fyw: "Cwyn nifer o'r etholwyr ydy bod nhw'n pryderu bod anwyliaid iddyn nhw yn gaeth yn yr ysbyty ac yn methu dod adref [er] eu bod nhw'n ddigon da i ddod adref.

"Yn ôl be' dwi'n weld mae o'n broblem recriwtio… recriwtio ar gyfer staff cymunedol… gofalwyr yn y gymuned a nyrsys cymunedol."

Mae un person wedi siarad hefo ni yn ddi-enw am y pwysau sydd ar y teulu gan fod aelod yn methu dod adref o'r ysbyty.

Dywedodd: "'Da ni'n aros i aelod o'r teulu ddod adref ers mis rŵan… mae o'n OK yn feddygol i ddod adref ers mis ond bod 'na ddiffyg gofalwyr ar gael ac felly ar hyn o bryd mae o'n stuck yn yr ysbyty yn methu dod adref…

"'Da ni'n gwneud bob dim i drio gael o i ddod adref.

"Mae'n straen ofnadwy ar deulu rhywun heb sôn am weld o'n mynd yn isel ei ysbryd - base fo'n straen ar unrhyw un."

'Trio popeth i lenwi'r bylchau'

Aled Davies ydy pennaeth adran oedolion, iechyd a llesiant Cyngor Gwynedd a dywedodd eu bod angen recriwtio hyd at 40 o ofalwyr i lenwi'r bylchau.

"Mae'n rhaid i mi fod yn onest a chydnabod bod hi yn broblem," meddai.

"Mae canfod capasiti digonol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cartref yng Ngwynedd... mae hi yn broblem yma ac yn waeth mewn rhai ardaloedd na'i gilydd.

"Mae hi'n anodd iawn cael atebion sydd yn sicrhau bod ni yn cyrraedd y nod.

"Felly mae hi'n broblem ond fedra'i hefyd rhoi gwarant bod ni yn trio popeth y gallwn ni i drio sicrhau bod ni'n llenwi'r bylchau."

Dywedodd Chris Lynes, Cyfarwyddwr Nyrsio ar gyfer Ardal y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod "nifer o resymau" dros bobl yn methu mynd adref o'r ysbyty.

"Mae'r rhain yn cynnwys cleifion sy'n aros am leoliadau mewn cartrefi gofal arbenigol, yn aros am becynnau gofal a chleifion sy'n aros am ofal yn y lleoliad o'u dewis.

"Rydym yn cydnabod bod heriau ar hyn o bryd o ran argaeledd pecynnau gofal yn ein cymuned. I gynorthwyo o ran trosglwyddo cleifion yn brydlon o'n hysbytai, rydym wedi rhoi ein gwasanaeth ein hunain ar waith i gynorthwyo ac i wella'r ddarpariaeth.

"Mae gennym dîm o weithwyr cefnogi gofal iechyd ar gael ar draws ein hysbytai cymunedol ac Ysbyty Gwynedd sy'n cael eu lleoli fel bod modd rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac i wella gartref.

"Mae'r gweithwyr cefnogi gofal iechyd yn cefnogi cleifion o ran dychwelyd at eu cartrefi yn cynnwys cymorth gyda thasgau o ddydd i ddydd hyd nes y byddant yn gallu byw'n annibynnol heb yr angen am gymorth pellach."

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol