Terwyn Tomos yw enillydd Stôl Farddoniaeth Gŵyl AmGen
- Cyhoeddwyd
Terwyn Tomos yw enillydd cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth yng Ngŵyl AmGen 2020.
Yr her oedd ysgrifennu darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen.
Mae'r cywydd buddugol yn trafod milltir sgwâr a chymuned y bardd yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi yr hyn sydd o dan ei drwyn.
Dywedodd y beirniaid bod y gwaith buddugol yn " lleol a chenedlaethol yr un pryd ac yn deilwng o'r Stôl Farddoniaeth".
Mae Terwyn yn gyn-athro sy'n dod o ardal Clydau, Sir Benfro, ac sydd wedi ymgartrefu yn Llandudoch.
Mae'n fardd a ddechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau tua 15 mlynedd yn ôl, ac sydd wedi ennill 23 o gadeiriau, gan gynnwys Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Mae hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa yn 2016 a 2018.
Yn hytrach na chadair, coron neu fedal, mae Gŵyl AmGen yn cynnig stôl am ysgrifennu barddoniaeth a rhyddiaith.
Yr Archdderwydd a'r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood - Priflenor a Phrifardd - oedd yn feirniaid.
Dywedodd Myrddin ap Dafydd: "Dyfnder y filltir sgwâr yw gweledigaeth y gerdd fuddugol gan Pererin.
"Mae'n mynegi canfyddiad llawer mewn awdl fer.
"Mae rhyddid ar lwybrau'r cwm; mae heddiw'n ymestyniad o orffennol hardd; mae pobl yn gymuned.
"Mae'n lleol a chenedlaethol yr un pryd ac yn deilwng o'r Stôl Farddoniaeth."
Dywedodd Mererid Hopwood bod "elfennau canmoladwy" ym mhob ymgais, ond bod y gwaith buddugol yn "crisialu" yr hyn sydd wedi dod yn amlwg i lawer yn ddiweddar, bod y "cwbl o dan ein trwynau ni, ond i ni edrych a gweld, gwrando a chlywed".
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Morgan Owen, gydag Elan Grug Muse a Llŷr Gwyn Lewis yn gydradd drydydd.
Mae Gŵyl AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Cymru, ac yn rhan o'r Eisteddfod AmGen, sy'n cael ei threfnu yn absenoldeb y Brifwyl, oedd fod i ddigwydd yn Nhregaron o 1-8 Awst.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal trwy benwythnos hir o raglenni a chynnwys ar draws Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2020