Dathlu 50 mlynedd o wyddoniaeth yn y Brifwyl
- Cyhoeddwyd

Y Babell Wyddoniaeth yn Eisteddfod Abergwaun 1986
"Mae'n siŵr bod cael pabell wyddoniaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf hanner can mlynedd yn ôl wedi bod yn sbardun i ddysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg," medd Dr Iolo ap Gwynn, un o'r sylfaenwyr.
"Yn 1971 Saesneg oedd iaith gwyddoniaeth bron yn gyfan gwbl - hyd yn oed mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar wahân i gylchgrawn Y Gwyddonydd ac ambell lyfr doedd yna fawr ddim deunyddiau ac roedd hi'n bwysig gweithredu.
"Roedd yna eisoes gymdeithas wyddonol Gymraeg ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971 dyma fynd ati i logi dwy uned ac arddangos rhai o'r pethau a oedd gennym yn bennaf o adrannau gwyddoniaeth prifysgolion Aberystwyth a Bangor.
"Ro'dd y diddordeb yn fawr - a dyna ddechrau cyflwyno gwyddoniaeth i'r genhedlaeth iau yn Gymraeg. Yn y man fe ddaeth cystadleuaeth Gwyddonydd Ifanc yr Urdd - hynny yn annog athrawon i gyflwyno gwyddoniaeth yn Gymraeg.
"Cyn hir dechreuodd ysgolion fynd ati o ddifri i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg, crëwyd adnoddau digidol ac roedd modd gwneud modiwl gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedyn ym Mangor a mannau eraill - y cyfan wedi arwain at y sefyllfa bresennol a chreu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol," medd Dr ap Gwynn wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae safon yr hyn roedd mae rhywun yn gallu ei gynnig yn ddibynnol ar nawdd," medd Dr Guto Roberts
Un arall a fu'n gyfrifol am sefydlu'r babell wyddonol yn 1971 oedd Dr Guto Roberts.
Yn 2002 cafodd ei benodi yn drefnydd gwyddoniaeth y Brifwyl ac yna'n gadeirydd cenedlaethol pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod - a sefydlwyd yn fuan wedi 1971.

Yr ymennydd yn cael ei arddangos yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007 a'r planedau yng Nghaerdydd yn 2008
"Mae'r elfen weledol mor bwysig wrth gyflwyno gwyddoniaeth i'r to ifanc," meddai, "ac mae'r babell wyddonol yn gyfle gwbl wych i wneud hynny.
"Heb os mae plant y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma wedi colli mas yn sgil Covid - 'dyw cyflwyno gwyddoniaeth ar y we ddim yr un fath.
"Dwi'n cofio fi'n cyfleu byd gwactod yn yr eisteddfod gyntaf yna yn 1971 - roedd y cyfan yn gyffrous iawn. Ymhen dwy neu dair blynedd fe wnaeth yr Eisteddfod gymryd drosodd a dyma ddechrau denu cwmnïau i noddi'r babell.
"Mae nawdd wastad wedi bod mor bwysig - ac mae safon yr hyn sy'n cael ei arddangos yn ddibynnol ar hynny.
"Yn Eisteddfod Caerdydd 1978 roedd yr arddangosfa fawr wyddonol gynta'. Yn ystod y blynyddoedd cynnar 'ma hefyd fe ddaeth cystadleuaeth wyddonol 'Cael Wil i'w Wely' yn hynod boblogaidd ac mae hi dal yn boblogaidd gyda phlant a phobl ifanc."

Y plant wrth eu bodd yn Eisteddfod Aberystwyth 1992 yn arbrofi ar gyfrifiaduron
Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992 cafwyd nawdd hael gan Awdurdod Datblygu Cymru a chafodd heidiau o blant y wefr o ddefnyddio cyfrifiaduron yn y babell wyddoniaeth - nifer am y tro cyntaf.
"Yr hyn a roddodd foddhad mawr i mi oedd adeiladu model mawr o blanedau cysawd yr haul ar gyfer Eisteddfod Meifod 2003 - a dwi hefyd yn cofio cael blas mawr yn creu gwrthdrawiad dau drên er mwyn addysgu am gynhyrchu gronynnau," ychwanegodd Dr Roberts.
"Roedd hi'n cymryd amser mawr i wneud y cyfan ond roeddwn wrth fy modd yn cynllunio ac adeiladu'r cyfan yn fy nghartref yn Llantrisant.
"Roedd yna dîm yn dod i'm helpu am rai wythnosau a dwi'n falch o ddweud bod nifer o ferched wedi ymddiddori yn y maes ar hyd y blynyddoedd.

Yr Athro Glyn O Phillips (dde) yn derbyn y Fedal Wyddoniaeth gan Lywydd y llys R Alun Evans - ef oedd yr enillydd cyntaf
"Mae'r Eisteddfod heb os wedi bod yn le da i hybu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac ry'n yn falch bod Medal Wyddoniaeth yn cael ei rhoi i gydnabod y rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg i hybu gwyddoniaeth ac wrth gwrs mae'r Brifwyl hefyd yn rhoi lle teilwng i'r ddarlith wyddoniaeth flynyddol."

Mwy o weithgareddau gwyddonol yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1992
Ddydd Iau bydd cyflwyniad rhithiol arbennig, dolen allanol yn rhan o weithgareddau yr Eisteddfod AmGen er mwyn nodi cyfraniad y babell wyddoniaeth ers 1971.
"Ydy, mae'n garreg filltir bwysig ac ry'n yn falch iawn o gyfraniad y Brifwyl i fyd gwyddoniaeth gydol yr hanner canrif," medd dau o sylfaenwyr cyntaf y babell wyddoniaeth - Dr Iolo ap Gwynn a Dr Guto Roberts.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020