Tu ôl i ddrysau siopau recordiau Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kelly's Records, Marchnad Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Kelly's Records, Marchnad Caerdydd

Siopau recordiau ydi amgueddfeydd y byd cerddoriaeth. Maen nhw i'w darganfod ym mhob dinas ac maen nhw'n cynnwys amrywiaeth llethol o gerddoriaeth o bob math ac o bob degawd.

Tu fewn i waliau'r siopau sanctaidd yma mae ffans cerddoriaeth o bob oedran yn pori drwy vinyls am oriau. Tu ôl i'r cownter mae unigolion sydd yn ymroi eu holl fywydau i wybod pob manylyn pob albwm.

Mae'r siop record yn amrywio yn ei ffurf - o siopau ail-law llychlyd a'u tyrrau o focsys i rai twt a'u cloriau sgleiniog sy'n cynnig y record ddiweddaraf.

Mae'r amrywiaeth yma i'w gael yng Nghaerdydd ac os ewch i Spillers neu Kelly's nghanol Gŵyl BBC 6 Music wythnos yma mae siawns go lew y dewch ar draws artist neu fand enwog, a'u ffans, sydd wedi mynd i gael cipolwg ar be sydd gan amgueddfeydd y ddinas i'w gynnig.

Bydd rhai o bosib wedi ymlwybro ymhellach i ymweld â D'Vinyl, The Record Shop neu The Record Exchange ar gyrion y ddinas - lle mae'r trysorau go iawn i'w darganfod.

Dyma gipolwg ar siopau recordiau Caerdydd, eu perchnogion a'u straeon.

Kelly's Records

Ar ail lawr Marchnad Caerdydd cewch ddarganfod siop recordiau vintage mwyaf Caerdydd, Kelly's Records. Ers 1991 mae Alan Parkins wedi bod yn rhedeg y siop ar ôl iddo brynu hi oddi ar ei fodryb ac ewythr, Eddie a Phyllis Kelly, wnaeth ei sefydlu yn 1969.

Ffynhonnell y llun, Kellys Records
Disgrifiad o’r llun,

Alan Parkins, perchennog Kelly's yn dal un o 50 o recordiau John Lennon gafodd eu hail-ryddhau gan Yoko Ono a Julian Lennon y llynedd. "Dwi'n hogyn o Gaerdydd a dwi'n caru'r ddinas. Dwi'n Gymro balch a dwi'n meddwl mai Caerdydd ydi'r lle gorau yn y byd"

Mae'n fusnes teuluol ac mae teimlad cymunedol iawn i Kelly's sy'n deillio o gariad Alan at ei ddinas a'i bobl. Mae'n 72 oed erbyn hyn ac mae ganddo atgofion melys o ddigwyddiadau cerddoriaeth yn y ddinas ers ei ddyddiau Mod yn y 60au.

"Roeddwn yn lwcus iawn. Daeth The Motown Review i Gaerdydd yn 1963. Wnaeth Dusty Springfield wneud Ready Steady Go special hefyd.

"Yn 1967 wnaeth y Stack Roadshow ddod i Gaerdydd - y gig orau i mi fod iddi. Roedd yn cynnwys Otis Redding, Sam and Dave, Booker T and the MG's. Roedd o yn y Top Rank ac roedd o'n brilliant. Roedd Otis Redding yn phenomenal."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alan, Kelly's Records oedd y siop recordiau cyntaf yng Nghaerdydd i werthu recordiau vintage yn unig, yn hytrach na rhai newydd

Mae Kelly's yn ffefryn ymhlith nifer o enwogion. Mae'r actor Martin Freeman a'r chwaraewr snwcer Steve Davis yn ymwelwyr cyson. Mae Alan hefyd yn cofio Gary Barlow yn dod yno pan roedd Take That yn eu hanterth ac yn rhoi ticed i'w wraig a'i ferch.

Wyneb cyfarwydd arall ydi Gruff Rhys ac mae Alan yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi gallu fod o gymorth iddo o flaen creu un o albymau mwyaf Super Furry Animals.

"Ddaeth o mewn jest cyn iddo greu ei albym Rings Around the World a phrynu tua 10 albym The Beach Boys. Mae'r albym yna wedi ei ddylanwadu mor drwm gan The Beach Boys," meddai Alan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kelly's Records i'w ddarganfod ar ail lawr Marchnad Caerdydd ac mae ganddyn nhw ddewis anferthol o recordiau

"Daeth Gruff yma tro arall yn 1999 a deud 'fydd yr hogiau yma mewn munud'. Pwy gerddodd lawr y deck oedd Noel a Liam Gallagher. Roedd yna lot o ffraeo gan fy mod i yn cefnogi Manchester United. Roedd rhaid fi wrthod ticed i'w gig gan fod fy nhîm yn chwarae'r noson honno!

"Rydan ni'n dal yn cael bandiau yn dod mewn yma hyd heddiw. Ond dwi mewn oed rŵan lle dydw i ddim yn siŵr pwy ydyn nhw!"

Spillers Records

Wedi ei sefydlu yn 1894 mae Spillers Records yn cael ei adnabod fel y siop recordiau hynaf yn y byd. Ashli Todd sydd yn rhedeg y lle erbyn hyn ac mae hi wedi bod yn gwneud hynny am 25 mlynedd ers ei gymryd drosodd yn 2010.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd Spillers gan Henry Spillers yn 1894 yn ei leoliad gwreiddiol yn Arcêd y Frenhines. Symudodd i'r Ais yn y 40au ac ar ôl ymgyrch i'w achub yn 2006 symudodd mewn i'r Morgan Arcade lle mae hi rŵan

Y 90au oedd cyfnod Ashli ac mae'n hi cofio mynychu gigs mewn lleoliadau fel Grassroots a Sam's Bar ac yng ngŵyl The World Port Festival sydd wedi hen ddiflannu.

"Roedd y gigs rhad ac am ddim oedd yn cael eu rhedeg gan y cyngor y tu allan i'r amgueddfa yn yr Haf yn anrheg o'u hamser hefyd - mae gormod o legends i'w crybwyll, rhai lleol ac o bellach i ffwrdd," meddai Ashli.

Mae atgofion arbennig fwy diweddar yn cynnwys mynd a'i thad i weld Bruce Springsteen a mynd a'i mam i weld Kae Tempest jest cyn y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn i Spillers

Gyda'i enwogrwydd a'i gasgliad eang o'r hen i'r newydd mae Spillers yn denu enwogion o hyd. Daeth Robert Plant o Led Zeppelin a'i "bresenoldeb tyner" i mewn rhai blynyddoedd yn ôl, cofia Ashli.

"Roedd ei frwdfrydedd dros gerddoriaeth a siopau recordiau yn amlwg ac ni allai beidio plymio i mewn i focs o stoc ar y cownter gan godi albwm yr oedd yn ei adnabod ond nad oedd wedi ei weld ers ei ieuenctid."

Ymwelydd arall cyson ydi'r comedïwr Stewart Lee, sy'n treulio hydoedd yn mynd trwy bob bocs. "Dydi o byth yn methu yn ei ymgais i ddarganfod y trysorau cudd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Spillers yn cynnig casgliadau o recordiau gan nifer o labeli a bandiau Cymraeg yn ogystal â recordiau diweddaraf i gael eu rhyddhau

D'Vinyl

Mae'n ymddangos fod y pandemig wedi bod yn fendith ar D'Vinyl mewn un ystyr oherwydd os gerddoch chi mewn yno rhyw dair blynedd yn ôl ni fyddai'n bosib gweld y lloriau na'r waliau. Mae'r perchennog Steven Collins wedi cael cyfle i gael trefn ar ei gasgliad diddiwedd o recordiau.

Disgrifiad o’r llun,

D'Vinyl. Ymhlith atgofion melysaf Steven Collins mae gweld Pink Floyd a The Who ym Mhafiliwn Gerddi Soffia

Yr awyrgylch cartrefol yna o gael y rhyddid i symud y bocsys a chwilota drwy'r blerwch ydi un o'r pleserau i nifer o brynwyr recordiau ac yn D'Vinyl nid yn unig rydych a chaniatâd i wneud hynny, ond does gennych chi ddim dewis.

"Dwi wastad wedi casglu, ers i mi gael pres poced beth bynnag! Dwi wedi bod yma bron i 30 blynedd felly dwi wedi gweld yr up and downs i gyd - o CD's, fideos a DVD's.

Mae Steven, wnaeth agor y lle 28 mlynedd yn ôl yn 1994 yn gweld cynnydd yn y galw am vinyl ers COVID-19. Mae ganddo sêl hanner pris yno o hyd gan ei fod "yn trio cael gwared ar yr holl recordiau sydd gen i yn eistedd mewn warws!"

Disgrifiad o’r llun,

Gallwch ddarganfod D'Vinyl ym Mackintosh Place yn Y Rhath

"Mae lot o fandiau sydd ar daith yn dod i mewn yma - o Brydain, yr Unol Daleithiau, Sweden a Japan," meddai Steven.

"Roedd Catatonia yn arfer dod mewn ac mae Huw Stephens yn dal i wneud. Roedd y rapwyr gwirion 'na... Goldie Lookin Chain, yn arfer dod mewn trwy'r amser i chwilota i waelod y bocsys am oriau!

"Ond y thrill fwyaf oedd cael Ian Gillan o fand The Deep Purple yn dod i mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Steven Collins (dde) gasgliad difyr o hen recordiau Cymraeg prin gan gynnwys Tynal Tywyll, Ceffyl Pren ac Arfer Anfad

The Record Shop

Wedi cuddio ar stryd ddistaw oddi ar Albany Road yn Y Rhath mae modd darganfod The Record Shop mewn stafell fach glud a chroesawgar. Tu ôl i'r cownter gallwch ddarganfod Paul Brown sydd yn rhedeg y siop dros ei wraig wnaeth ddechrau ei busnes 33 blynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Steven Collins. Fel gweddill y siopau mae The Record Shop wedi gweld cynnydd yn y galw am recordiau ers y pandemig

Be' sy'n ddifyr am weithio mewn siop recordiau, meddai Paul, ydi'r addysg mae rhywun yn cael. "Ti jest yma yn siarad gyda phobl, pobl sydd fel arfer yn gwybod mwy na ti."

"Mae'n ddiddorol iawn. Ti'n cael cymaint o wahanol bobl yn dod mewn - myfyrwyr, twristiaid, cefnogwyr pêl-droed sydd wedi dod i wylio eu tîm yn chwarae Caerdydd. Pobl yn dod o'r Cymoedd, Abertawe, Bryste."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o enwogion wedi gerdded mewn drwy drws The Record Shop gan gynnwys Captain Sensible o The Dammed, Mike Peters o The Alarm ("oherwydd roeddwn yn nabod ei wallt o"), Andy Fairweather Lowe a Brian Hibbard o The Flying Pickets.

The Record Exchange

Yr olaf oll a'r siop ddiweddaraf i gyrraedd Caerdydd ydi The Record Exchange, sy'n cynnig tystiolaeth fod y record yn dal yn fyw.

Ar ôl blynyddoedd maith o gasglu a gwerthu ar lein ac mewn ffeiriau penderfyniad dewr iawn oedd hi i Ed Door agor siop recordiau yng nghanol y pandemig.

Disgrifiad o’r llun,

Ed Door yn llnau'r record ddiweddaraf i gyrraedd ei siop sydd wedi leoli ar Whitchurch Road yn Y Mynydd Bychan (Heath)

"Dwi'n caru cerddoriaeth a dwi'n caru hel pethau," meddai Ed Door. "Mae recordiau yn bethau mor brydferth, mae rhai wedi eu dylunio mor arbennig ac mae'r estheteg yn grêt. Mae'r syniad a'r broses o eistedd a gwrando ar record yn sbesial hefyd."

"Mae agor y siop wedi agor y drws i mi wrando ar bethau byddwn i fyth yn dychmygu gwrando arnynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan The Record Exchange drysorau gwerthfawrg Cymraeg gan gynnwys record gwreiddiol o albym Gog gan Meic Stevens sydd ar werth am £200

Er mai recordiau ail-law sydd yn The Record Exchange mae cyflwr sgleiniog y cloriau a chyflwr anhygoel y recordiau yn dangos obsesiwn a chariad y perchennog at ei recordiau.

"Dwi'n benodol iawn ac yn fastidious. Mae popeth wedyn yn cael eu glanhau a'u pwyso yn y ffordd gywir a dydi'r pethau sydd ddim mewn cyflwr ddigon da ddim yn cael eu gwerthu," meddai Ed Door.

"Fy swydd i raddau ydi glanhau recordiau. Dwi'n treulio wyth awr y diwrnod yn glanhau ac yn mynd drwyddyn nhw. Maen lot o waith rhwng popeth. Ond dwi'n ei garu o."

Disgrifiad o’r llun,

The Record Exchange

Hefyd o ddiddordeb: