Eisteddfod AmGen 2021: Gorsedd Cymru yn dychwelyd i'r prif seremonïau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Gwyliwch Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio am sut bydd yr orsedd yn addasu i seremonïau Eisteddfod AmGen 2021

Bydd Gorsedd Cymru yn ymgynnull am y tro cyntaf ers Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019 ar gyfer Eisteddfod AmGen 2021 rhwng 2-6 o Awst.

Cynhelir y prif seremonïau sef y Fedal Ddrama, Gwobr Goffa Daniel Owen, y Goron, y Fedal Ryddiaith a'r Gadair yng nghyntedd adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Yma mae'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio am y paratoadau, y seremonïau a sut mae'r orsedd wedi addasu i ofynion pandemig.

Be fu gwaith Gorsedd Cymru yn ystod y pandemig?

Mae amodau 2020 a 2021 wedi golygu nad oes Eisteddfod gyda maes wedi ei chynnal ers dwy flynedd. Ond bu rhaid i Myrddin ap Dafydd a'r orsedd fwrw ymlaen â'r gwaith, ond doedd yr amodau ddim yn ddrwg i gyd wrth i gyfarfodydd zoom agor drysau newydd i'r gwaith trefnu.

Meddai Myrddin: "Y gwaith swyddogol olaf i mi ei wneud i'r orsedd ac i'r Eisteddfod oedd y cadeirio yn Llanrwst ddwy flynedd yn ôl.

"Ers hynny mi oedd gynnon ni gyfarfodydd yn ystod yr hydref yn paratoi at Eisteddfod Tregaron, y 'Steddfod sydd wedi cael ei gohirio ddwy waith. Felly roedd popeth yn mynd fel y drefn arferol tan mis Mawrth 2020. Ar ôl hynny mae pob cyfarfod yr orsedd wedi bod yn zoom ac wedi bod yn addysg i ni gyd, ond rydan ni wedi llwyddo i weithredu yn dda iawn."

Wrth i 2020 fynd rhagddi a'r tebygolrwydd y byddai Eisteddfod Tregaron yn cael ei gohirio am yr eildro, cychwynnwyd y gwaith o lunio rhestr testunau i Eisteddfod Amgen 2021.

Eglura Myrddin: "Roedd yna deimlad cryf iawn bod angen rhywbeth i lenwi'r bwlch. Felly nôl ym mis Rhagfyr llynedd mi oeddan ni fel gorsedd yn cyfarfod gwahanol is-bwyllgorau testunau i greu rhestr testunau i'r Eisteddfod ddigidol yn 2021.

"Mi fysa cael dau aeaf gwag wedi bod yn llethol i'r rhai sydd wedi mynd drwy'r broses eisteddfodol ac wedi dod o fewn cyrraedd cystadlu am rai o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol. Mi fydda cael bwlch o ddwy flynedd falla yn lladd diddordeb i gystadlu. O leiaf y bu cyfle i gystadlu am y prif wobrau eleni.

"Roedd dyddiad cau cystadlaethau prif seremonïau Eisteddfod Amgen 2021 ym mis Mai. Mi oedd yr amser oedd ganddyn nhw i daclo'r testunau a chyflwyno'r gwaith yn fyr, llawer byrrach nac arfer ond doedd dim modd osgoi hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Gorsedd Cymru

Codi llais am faterion pwysig

Yn ystod y flwyddyn aeth heibio mae Myrddin wedi defnyddio ei gyfrifoldeb fel Archdderwydd i godi llais a mynegi barn am faterion sydd angen eu taclo. Meddai Myrddin:

"Roedd 'na ddau achlysur lle ro'n i'n teimlo roedd rhaid i mi, oherwydd y swyddogaeth a'r cyfrifoldeb sydd gen i, godi llais a mynegi barn.

"Y cyntaf oedd y bygythiad gan Brifysgol Bangor i gau Canolfan Bedwyr, rhywbeth cwbl warthus. Mae y ganolfan yna wedi cyflwyno bob math o offer sydd yn galluogi'r Gymraeg gael ei defnyddio yn helaethach gan fyfyrwyr a gan sefydliadau drwy Gymru.

"Rydan ni yn teimlo bod y brotest a'r nifer wnaeth godi lleisiau yn gry' adeg yna wedi cael effaith, a bod y ganolfan yn ddiogel at y dyfodol.

"Wedyn ychydig fisoedd yn ôl mi fuodd 'na graffiti. Cafodd swastika ei chwistrellu ar adeilad y Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth. Mi wnes i ddatganiad ar ran yr orsedd adeg hynny.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n wynebu y math o fygythiad sydd yna gan leiafrifoedd eithafol asgell dde.

"Mae'n rhaid i ni godi llais, peidio cadw'n dawel am y petha yma a rhoi ar ddallt i'r cyhoedd be ydi arwyddocâd y math yna o weithred."

Ffynhonnell y llun, Aled Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Gweledigaeth Myrddin

Er bod rhai o ddyletswyddau'r orsedd wedi'u rhewi yn ystod y deunaw mis diwethaf gan gynnwys derbyn aelodau newydd i'r orsedd, mae gweledigaeth Myrddin "o groesi ffiniau" dal i sefyll.

Meddai: "Dwi'n meddwl bod gynnon ni rywbeth yn yr Eisteddfod all groesi ffiniau. Mae gwledydd eraill, yn enwedig gwledydd sydd efo mwy nag un iaith, mae gynnon nhw ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn yr Eisteddfod.

"Mae gynnon ni'r AmGen rwan, a falla fydd modd cadw rhywfaint o hynny, a chadw rhyw fath o borth rhyngwladol i'r Eisteddfod lle gall Cymru a phobl sy'n perthyn i ddiwylliannau eraill ar draws y byd weld be' sy'n digwydd, mwynhau, a falla mynychu Eisteddfodau yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019