Yr Archdderwydd yn amddiffyn enw newydd 'Gorsedd Cymru'

  • Cyhoeddwyd
jim parc nest a myrddin ap dafyddFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Myrddin ap Dafydd fod croesawu T James Jones, neu Jim Parc Nest, i'r llwyfan wedi iddo ennill y Gadair yn "brofiad bythgofiadwy"

Mae Myrddin ap Dafydd wedi amddiffyn y penderfyniad i newid enw cyhoeddus yr Orsedd i 'Gorsedd Cymru', gan fynnu nad yw'n "troi cefn ar draddodiad".

Cafodd y cyhoeddiad am y newid i'r enw ei wneud gan yr Archdderwydd yn ystod Seremoni'r Cadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener.

Tan hynny, yr enw swyddogol oedd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y sefydliad oedd 'Gorsedd y Beirdd' neu 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain'.

Ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei feirniadu gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda'r academydd Simon Brooks yn un o'r rheiny oedd yn honni bod "227 o flynyddoedd o hanes yn y fantol".

'Angen cyfiawnhad'

Cafodd yr Orsedd ei sefydlu'n wreiddiol gan Iolo Morganwg, a bellach mae'n rhan annatod o brif seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae dwsinau o bobl yn cael eu hurddo fel aelodau newydd bob blwyddyn, gan gynnwys cyn-enillwyr prif wobrau'r Brifwyl yn ogystal â phobl sydd wedi cyfrannu i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Wrth iddo ddod at ddiwedd ei Eisteddfod gyntaf fel Archdderwydd, dywedodd Myrddin ap Dafydd mai dim ond yn "raddol" yr oedd eisiau cyflwyno newidiadau i'r Orsedd yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Ond fe wnaeth y cyhoeddiad brynhawn Gwener am newid yr enw i Orsedd Cymru ddod fel syndod i lawer - a chorddi ambell un.

Wrth ymateb ar Twitter dywedodd Dr Simon Brooks: "Fedrwch chi ddim dileu cysyniad sydd wedi cynnal cenedl y Cymry dros fileniwm a mwy, sef mai hwy yw brodorion Ynys Prydain, a'r holl radicaliaeth (e.e. Iolo-aidd, a ffurfiant cenedlaetholdeb Cymreig ei hun!) sy'n tarddu o hyn yn ddi-drafodaeth. Gorsedd Ynys Prydain y Cymry yw hi."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019 oedd un gyntaf Myrddin ap Dafydd fel Archdderwydd

Mewn negeseuon pellach awgrymodd fod newid yr enw yn arwydd o droi oddi wrth "dreftadaeth gyffredin cymuned Gymraeg Cymru a Lloegr" - llefydd fel Yr Hen Ogledd a chymunedau fel Cymry Llundain - a galw am "gyfarfod brys o'r Orsedd er mwyn i'r penderfyniad "gael ei wyrdroi".

Un arall wnaeth ymateb i'r newid ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yr academydd Dylan Foster Evans, a ddisgrifiodd y penderfyniad fel un "brawychus o sydyn".

"Yr hyn na allaf ei weld ar hyn o bryd yw pam newid enw'r Orsedd yn y lle cyntaf," meddai Dr Evans.

"Pa broblem y mae'r newid yn ceisio ei datrys? Mae angen cyfiawnhad clir iawn er mwyn newid enw ein sefydliad hynaf, am wn i."

Ychwanegodd: "Nid ar chwarae bach mae newid enw ar ôl 227 o flynyddoedd, ac o'r tu allan mae peryg bod hyn yn edrych fel chwarae bach."

Enw mwy 'addas'

Wrth ymateb ddydd Mawrth i'r feirniadaeth gan rai ar y cyfryngau cymdeithasol, mynnodd Myrddin ap Dafydd nad oedd y newid enw yn "ymgais i ddileu hanes na dadwneud gwaith Iolo".

"Mae'r Cyfansoddiad yn dal i gyfeirio at Orsedd Beirdd Ynys Prydain, a does dim ymgais wedi'i wneud i ddileu hynny," meddai.

"Mae'r byd wedi newid dros y 227 o flynyddoedd diwethaf. Nid ein Gorsedd ni yw'r unig un erbyn heddiw, ac mae Gorsedd Cymru'n adlewyrchu hynny."

Fe gafodd y newid ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd, aelodaeth yr Orsedd a Llys yr Eisteddfod, a dywedodd yr Archdderwydd fod yr enw newydd yn fwy "addas" ar gyfer y Gymru fodern.

Ychwanegodd bod y gair 'Beirdd' hefyd yn "gamarweiniol" bellach gan fod pobl o bob math o gefndiroedd a meysydd gwahanol yn cael eu hurddo i'r Orsedd bellach.

"Dyma ein Gorsedd ni'r Cymry, ar ein mwyaf cynhwysol, croesawgar a chan edrych allan ar draws y byd i ddathlu llwyddiannau ein cenedl fechan," meddai.

"Radicaliaeth heddiw, does bosib, ydi hawlio'n lle fel gwlad annibynnol y tu allan i wladwriaeth Prydain, fel cenedl fodern Ewropeaidd sy'n rhan o'r byd ehangach. Mi fyddai Iolo o blaid hynny."