Arestio dyn wedi marwolaeth merch 15 oed mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr brynhawn Sadwrn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod merch 15 oed wedi marw yn dilyn "digwyddiad difrifol" mewn parc gwyliau ger Abergele ddydd Sadwrn.

Cafodd y llu eu galw i barc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad domestig.

Daeth cadarnhad bod merch 15 oed wedi marw, ac mae'r teulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae dyn 19 oed wedi ei arestio a bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad mai digwyddiad unigol oedd hwn, ac nad oedd unrhyw beryg i'r cyhoedd.

Mae'r llu yn cydymdeimlo â'r teulu, ac yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.