Cyhuddo tri o bobl yn dilyn marwolaeth bachgen mewn afon
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi cael eu cyhuddo wedi i fachgen pump oed gael ei ganfod yn farw mewn afon ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, ei ganfod yn Afon Ogwr ym mhentref Abercynffig am tua 05:45 fore Sadwrn.
Mae llystad Logan - John Cole, 39 oed o ardal Sarn - wedi cael ei gyhuddo o'i lofruddio.
Mae Mr Cole, Angharad Williamson, 30 - mam Logan - a bachgen 13 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, hefyd wedi cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe wnaeth y tri ymddangos yn y llys yng Nghaerdydd ddydd Iau, ac fe gafodd y tri eu cadw yn y ddalfa nes eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn.
Fe gafodd Logan ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi marw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad i Heddlu De Cymru, bod yr achos yn "ofnadwy" a'i fod yn cydymdeimlo â ffrindiau a theulu Logan.
Ond ychwanegodd na ddylai'r cyhoedd ddyfalu am yr hyn ddigwyddodd am y gallai hynny achosi trafferthion i'r ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2021