Safon Albwm y Flwyddyn yn 'arbennig o uchel'
- Cyhoeddwyd
Mae safon cystadleuaeth Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni "yn arbennig o uchel" mewn blwyddyn "anodd iawn i'r diwydiannau creadigol", meddai'r trefnwyr.
Nod y gystadleuaeth, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd â BBC Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd".
Roedd y gystadleuaeth yn agored i albymau a gafodd eu rhyddhau rhwng 31 Mai 2020 a diwedd Mai eleni.
Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Radio Cymru nos Wener.
Y 10 albwm ar restr fer 2021 yw:
Carw - Maske
Carwyn Ellis & Rio 18 - Mas
Cwtsh - Gyda'n Gilydd
Datblygu - Cwm Gwagle
Elfed Saunders Jones - Gadewaist
Jac Da Trippa - Kim Hong Chon
Mared - Y Drefn
Mr - Feiral
Mr Phormula - Tiwns
Tomos Williams - Cwmwl Tystion
Cafodd y rhestr ei llunio gan banel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth. Y cam cyntaf oedd dewis eu hoff gynnyrch yn ystod y 12 mis, cyn pleidleisio dros eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.
Y beirniaid eleni yw Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.
Nos Iau cyhoeddwyd mai Skylrk - sef Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle - oedd enillydd Brwydr y Bandiau eleni.
Ddydd Iau dywedodd Osian Williams ei bod "yn wych gweld cymaint o fandiau yn rhyddhau cerddoriaeth er gwaethaf effeithiau'r pandemig sydd wedi atal gigs am gyfnodau helaeth dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Awst 2020