Skylrk o Ddyffryn Nantlle yn ennill Brwydr y Bandiau
- Cyhoeddwyd
Skylrk, sef prosiect cerddoriaeth Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi ennill Brwydr y Bandiau 2021.
Mae Hedydd yn ffan mawr o gerddoriaeth a dweud straeon, a'i fwriad gyda'r prosiect hwn yw cyfuno'r ddau beth.
Ar hyn o bryd mae'n brentis gyda chwmni y Frân Wen ac fel cynhyrchydd dywed ei fod yn hoff iawn "o greu pethau".
Yn Nhachwedd 2020 fe enillodd Hedydd Ioan wobr Gwneuthurwr Ffilm Ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau'r Cinemagic 2020 Young Filmmaker yn Belffast.
Dywed bod nifer o ddylanwadau cerddorol ar ei waith - yn eu plith gweithiau gan Datblygu, Kanye West, Y Cyrff a MF Doom.
Mae'n gobeithio bod y cyffro mae'n ei deimlo pan mae'n clywed cerddoriaeth o'r fath yn trosi i brosiect Skylrk.
Cafodd enw'r enillydd ei gyhoeddi ar raglen Huw Stephens nos Iau.
Dywed trefnwyr y gystadleuaeth - yr Eisteddfod a Maes B - bod nifer o fandiau wedi cystadlu ac i ddechrau cafodd rhestr fer o ddeg band ei ffurfio.
Mae modd gwylio perfformiadau'r deg hynny ar sianel YouTube Maes B, dolen allanol.
Nos Fercher fe wnaeth rhaglen Lisa Gwilym gyhoeddi pa bedwar band oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol - y beirniaid eleni oedd Ifan Davies ac Elan Evans.
Y tri arall a wnaeth gyrraedd rhestr y pedwar olaf oedd Tiger Bay - band indie-roc o Gaerdydd, Cai, a Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan - sy'n ddisgyblion yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020