Brwydr y Bandiau: Pwy yw'r pedwar olaf?

  • Cyhoeddwyd
Brwydr y Bandiau

Er gwaethaf blwyddyn heb gigs byw bu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni yn un gyffrous iawn.

O'r bandiau niferus a gystadlodd, cyhoeddodd yr Eisteddfod a Maes B restr fer o ddeg band ac artist. Gallwch wylio perfformiadau'r deg hynny ar sianel YouTube Maes B, dolen allanol.

Ond, rhaid oedd cwtogi'r rhestr fer yn restr fyrrach! Nos Fercher ar ei rhaglen ar Radio Cymru cyhoeddodd Lisa Gwilym pa bedwar band oedd y beirniaid, Ifan Davies ac Elan Evans, wedi'u dewis ar gyfer y ffeinal.

Felly pwy yw'r pedwar sydd yn y rownd derfynol?

Tiger Bay

Disgrifiad,

Tiger Bay yn perfformio Dyddiau Fel Hyn

Band indie-roc o Gaerdydd yw Tiger Bay. Dechreuon nhw chwarae fel band oherwydd eu magwraeth yn y sîn roc Gymraeg a'u bod nhw "jest yn hoffi cerddoriaeth" ac ailgreu y sbri maen nhw'n ei gael o wylio a pherfformio cerddoriaeth.

Fel band maen nhw'n dweud eu bod nhw'n cael eu hysbrydoli gan artistiaid a genres gwahanol er mwyn creu cerddoriaeth maen nhw'n ei mwynhau. Does dim un artist na genre gerddorol benodol sy'n dylanwadu ar yr unigolion yn y band.

Yr aelodau yw Jackson (drymiau), Cai (gitâr rythm), Bobo (gitâr flaen), Joe (gitâr fas) a Connor yn canu.

Cai

Disgrifiad,

Cai yn perfformio Anghofio Am Chdi

Mae Osian, frontman Cai, yn disgrifio'r gerddoriaeth fel 'bedroom pop-esque' sy'n cymryd dylanwadau gan artistiaid fel Boy Pablo, K.Flay, Still Woozy, a Los Blancos.

Ac yntau newydd orffen astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Menai, Bangor, mae'n dweud ei fod yn gallu rhoi mwy o sylw i greu a rhyddhau ei cerddoriaeth ei hun. Dywedodd y byddai'n hoff o allu gwneud bywoliaeth o gynhyrchu a chyfansoddi cerddoriaeth.

Skylrk

Disgrifiad,

Skylrk yn perfformio Dall

Prosiect cerddoriaeth Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle yw Skylrk. Mae'n brentis gyda Frân Wen, a hefyd yn gynhyrchydd sydd yn ei eiriau ei hun "yn hoffi creu pethau". Mae'n ffan mawr o gerddoriaeth a dweud straeon a'i fwriad gyda'r prosiect hwn yw cyfuno'r ddau beth.

Rhai o'i ddylanwadau cerddorol yw Datblygu, Kanye West, Y Cyrff a MF Doom. Mae'n gobeithio y bydd y cyffro mae o'n ei deimlo pan mae'n clywed cerddoriaeth fel yna yn trosi i'r prosiect hwn.

Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan

Disgrifiad,

Band Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan yn perfformio Dilyn y Drefn

Daw Mabon, Dylan, Rhys, Owen a Ieuan o Gaerdydd, ac yn ddisgyblion yn Ysgol Plasmawr. Fel mae eu henw cyfredol yn ei awgrymu, does gan y band ddim enw iawn eto.

Maent y disgrifio eu steil cerddorol yn bennaf fel roc ac indie, ond maent yn gobeithio eu bod yn gallu creu gwahanol fathau o gerddoriaeth. Ymhlith eu dylanwadau mae Oasis, Arctic Monkeys, Big Leaves a Ffa Coffi Pawb.

Felly pob hwyl i'r pedwar sydd wedi'i gwneud hi i'r rownd derfynol. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar raglen Byd Huw Stephens sydd am 18:00 nos Iau ar BBC Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig