Teyrnged teulu i fachgen tair oed fu farw ar fferm

  • Cyhoeddwyd
Ianto Siôr JenkinsFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i fachgen bach tair oed fu farw mewn digwyddiad ar fferm ger Efailwen, Sir Gaerfyrddin nos Fawrth, 4 Awst.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi mai Ianto Siôr Jenkins oedd enw'r bachgen bach.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fferm nos Fawrth, 3 Awst wedi adroddiad o wrthdrawiad rhwng y plentyn a cherbyd yno.

Bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd yr heddlu hefyd deyrnged gan fam Ianto, Chloe Picton.

'Bachgen bach Mam'

Dywedodd: "Ianto oedd bachgen gwyn ei fam... roedd yn ysbrydoliaeth i fywyd... yn fachgen bach caredig oedd wastad yn gwenu a chwerthin.

"Ei ffrind gorau oedd ei chwaer hŷn, Seren ac roedden nhw wastad gyda'i gilydd.

"Roedd Ianto wrth ei fodd yn mynd i'r feithrinfa ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei ddiwrnod cyntaf yn Ysgol Beca yn Efailwen ym mis Medi. Roedd yn caru bod ar y fferm a mynd ar y tractor gyda'i dad.

"Roedd cysylltiad cryf iawn rhwng Ianto a minnau... ef oedd 'bachgen bach Mam' ac roedd wrth f'ochr i lle bynnag oedden ni'n mynd, a nawr mae hynny wedi ei gymryd oddi wrthaf i.

"Ni ddylai'r un rhiant golli plentyn, ac rwy'n gofyn i bobl barchu ein dymuniadau a rhoi lle i ni yn y cyfnod anodd, torcalonnus yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mynedfa'r fferm ble bu farw'r bachgen

Mae cannoedd o bobl wedi cyhoeddi negeseuon o gydymdeimlad ar dudalen Facebook tad Ianto, Guto Siôr Jenkins, wedi iddo yntau gyhoeddi llun proffil newydd ohono gyda'i fab.

Atebodd un: "Fedra i ddim dychmygu y fath hunllef, ond mi fedraf dy sicrhau bod dy holl deulu, dy ffrindie, pobl Efailwen ac yn wir Cymru gyfan yn meddwl amdanat ti a'r teulu ar yr awr dywyll yma yn dy fywyd.

"Cymer gysur o'r atgofion melys sydd gennyt a ceisia gadw'n gryf."

Dywedodd neges arall: "Ceisia aros yn gryf, ma cymuned gyfan yma i'ch cynnal a'ch cefnogi drwy'r dyddie tywyll hyn."

Pynciau cysylltiedig