'Fi wedi bod mewn lockdown ers 20 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
Rhys Bowler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Bowler yn ddibynnol ar beiriant anadlu ac angen gofal parhaus

Mae dyn anabl sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Lloegr a chyflwyno cyllideb iechyd personol yn dweud ei fod yn arfer bod yn falch o ddatganoli - ond dim rhagor.

Mae Rhys Bowler o Drefforest, ger Pontypridd, yn ymgyrchu i newid y system gyllido bresennol, er mwyn rhoi mwy o ryddid i bobl fel fe sy'n byw ag anabledd ac angen gofal.

Ond mae'n dweud ei fod yn dal i ddisgwyl i glywed gan y llywodraeth, er eu bod wedi dweud rai misoedd yn ôl y bydden nhw'n cydweithio ag ef.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gweithio ar wella'r sefyllfa, ac nid dyma ddiwedd y broses.

Yn aelod o fand metal, ac yn hoff o siarad cyhoeddus er gwaetha'r ffaith ei fod yn byw gyda distroffi'r cyhyrau - mae Rhys Bowler, sy'n 34 oed, yn benderfynol o fyw bywyd.

Ond, o fod yn ddibynnol ar beiriant anadlu, a dim ond yn gallu symud ei fys bawd, mae angen gofal parhaus.

104 o oriau o ofal yr wythnos mae'n eu cael ar hyn o bryd, ac mae'n dweud bod hynny'n gadael pump awr y dydd lle mae'n methu gwneud dim.

"Mae rhaid i fi ddewis pryd i fi mo'yn mynd mas neu pryd i fi mo'yn mynd i'r tŷ bach," meddai.

Brwydro am fwy o ryddid

Mae Rhys yn brwydro am fwy o ryddid i ddewis sut mae'n cael ei ofal - a hynny drwy gyflwyno cyllidebau iechyd personol yng Nghymru, fel sy'n Lloegr.

Mae'n dweud bod y system bresennol yn ei adael yn garcharor yn ei gartref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cydweithio gyda Rhys ond yn ôl ef, nid ydyn nhw wedi bod mewn cyswllt

"Beth fi wedi dweud ers dechrau'r campaign 'ma yw bod fi wedi bod mewn lockdown ers 20 mlynedd.

"Mae'r byd yn dechrau dod nôl nawr, a mas o lockdown ond i fi dal mewn lockdown."

Nôl ym mis Mawrth, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cydweithio gyda Rhys ac eraill sy'n yr un sefyllfa, i edrych ar opsiynau gwahanol.

Ond mae Rhys yn dweud bod neb o'r llywodraeth wedi bod mewn cyswllt.

'Fi mo'yn rhyddid'

"Does neb wedi dod i fi ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi publisho'r fframwaith heb even siarad gyda fi," meddai.

"O'n i arfer bod yn ffan o ddatganoli ond dim rhagor. Fi ddim yn deall pam mae'n rhaid i ni fod yn wahanol i Loegr a'r Alban.

"Ni'n wahanol, ond ni'n waeth na nhw - fi mo'yn freedom fi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi nodi ymrwymiad... i wella'r rhyngwyneb rhwng Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a thaliadau uniongyrchol".

"Yn y tymor byr rydym wedi cyhoeddi Fframwaith GIP diwygiedig i'w weithredu ym mis Tachwedd eleni.

"Mae hyn yn cynnwys mecanweithiau penodol i gefnogi lleisiau unigolion a rhoi mwy o reolaeth iddynt, o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol.

"Rydym yn ddiolchgar am yr ymatebion defnyddiol gan Rhys Bowler ac eraill yn y gweithgor, a helpodd i lywio'r canllawiau diwygiedig.

"Fodd bynnag, nid dyma ddiwedd y broses a byddwn yn parhau i weithio gyda Rhys a rhanddeiliaid eraill i ystyried opsiynau tymor hwy."