Rheolaeth drwy orfodaeth: Dynion yn diodde' hefyd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn dioddefodd reolaeth drwy orfodaeth (coercive control) gan ei bartner benywaidd yn dweud fod peidio cael ei gymryd o ddifrif gan yr heddlu fel ffurf arall o ddibwyllo, neu gaslighting.
Daeth yr heddlu i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach yn bosibl pan ddywedodd Craig - nid ei enw iawn - wrthynt am ei gamdriniaeth.
Roedd hyn yn golygu nad oedd rhaid i'r person roedd Craig yn honni oedd wedi cyflawni'r troseddau wynebu unrhyw gyhuddiadau.
Ond mynnodd Craig na chafodd yr holl dystiolaeth ei archwilio ac ni chafodd rhai tystion eu cyfweld.
Mae'n ofni nad yw dynion yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr o'r math yma o gamdriniaeth.
"Dyw pobl ddim yn deall beth yw rheolaeth drwy orfodaeth - gall fod yn fwy niweidiol nag ymosodiad treisgar. Mae cleisiau'n gwella, ond gall y cam-drin seicolegol bara am oes," meddai Craig.
"Mae fel carcharu rhywun. Maen nhw'n cyfyngu ar bopeth. Gall hynny ddigwydd i unrhyw un.
"Cafodd hi reolaeth lwyr ar fy arian, ond os o'n i'n gwrthwynebu roedd hi'n dweud 'pam wyt ti ddim yn ymddiried ynof i ar ôl yr holl amser hyn?'"
Dywedodd Craig iddo gael cyngor i fynd â'i gwynion drwy'r llysoedd sifil, neu eu hadrodd fel twyll, gan fod sefydliadau wedi methu â'i weld fel dioddefwr o reolaeth drwy orfodaeth.
Yn y diwedd cafodd ei gefnogi gan Gymorth i Ferched Cymru.
Dywedodd Craig ei fod yn ei chael hi'n anodd gwneud synnwyr o'r hyn oedd wedi digwydd iddo a'i weld fel cam-drin, ac roedd hynny'n gwneud ysgrifennu adroddiad i'r heddlu yn arbennig o heriol.
"Fe wnaeth hi ddwyn fy annibyniaeth a thanseilio fy hyder yn araf gyda sylwadau sarhaus cyson," meddai.
Ychwanegodd y byddai hefyd yn ei ddibwyllo drwy wadu bod pethau wedi digwydd, er ei fod yn gwybod eu bod yn wir, ac wedyn yn defnyddio'r dryswch yna i'w reoli.
Mewn sefyllfaoedd cymdeithasol byddai'n sibrwd yn ei glust "rwyt ti'n swnio fel ffŵl, doedd neb yn deall be ddwedes ti" neu "doedd dy jôc ddim yn ddoniol".
Dywedodd fod popeth roedd yn ei wneud o'r ffordd roedd yn golchi, gwneud paned o de neu yrru car yn cael ei feirniadu a'i reoli, gan ei adael gyda PTSD cymhleth.
Mae llawer o fanylion perthynas Craig yn cyd-fynd â Jack - unwaith eto, rydym wedi newid ei enw i'w warchod.
"Mae ychydig fel cerdded ar sugndraeth," meddai. "Dydych chi byth yn siŵr ar unrhyw adeg lle rydych chi.
"Fe wnes i leihau'r pwysau arnaf drwy aros yn brysur - wnes i ddim rhoi'r gorau i dacluso, glanhau, hwfran.
"Ond byddwn i'n cael gwybod doeddwn i heb wneud y gwaith yn gywir, neu heb ei wneud yn ddigon da.
"Byddai gen i deimlad creulon o fod yn gwbl ddiwerth.
"Rwy'n dal i ddychryn nawr ac mae gen i hunllef sy'n dychwelyd dro ar ôl tro ohoni hi yn sefyll drosof, gan ddweud wrtha i na allaf i wneud rhywbeth."
'Ffrindiau a theulu wedi fy nghadw'n fyw'
Dywedodd fod y dibwyllo cyson yn golygu ei fod wedi colli hyder yn ei benderfyniadau yn y cartref, gan olygu bod o'n gadael pob penderfyniad i'w bartner - yn wahanol iawn i'w swydd lle'r oedd yn gwneud penderfyniadau pwysig yn gyson.
"Mae fy ffrindiau a'm teulu wedi fy nghadw'n fyw. Mae 'na ambell waith wedi bod o'n i'n meddwl o ddifri am gymryd fy mywyd fy hun."
Roedd ei brofiad yn wahanol i Craig, gan fod yr heddlu wedi ei gymryd o ddifri ac yn gefnogol pan ddywedodd wrthynt am ei brofiadau, er nad yw wedi dwyn cyhuddiadau.
Yr elusen Cymru Ddiogelach sy'n rhedeg Cynllun Dyn, sy'n cefnogi dynion sy'n dioddef cam-drin domestig yng Nghymru.
Dywedodd Simon Borja o'r elusen bod eu cleientiaid wedi ei chael hi'n anodd i gael pobl i'w credu, ond mae'r elusen yn gweithredu fel eu heiriolwr i "helpu dynion drwy'r system".
"Mae'n ergyd wirioneddol os nad yw dioddefwr yn cael ei gredu neu os nad yw ei brofiad yn cael ei ddilysu ar unwaith," meddai, gan esbonio y bydd llawer wedyn yn mewnoli'r broblem dros amser.
"Rydyn ni'n gweld llawer o iselder, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau, neu ddim yn ymwneud â gwaith, ffrindiau na'u rhwydweithiau cymdeithasol fel yr oedden nhw'n arfer.
"Mae lot o ddynion yn dweud wrthon ni ei fod yn teimlo fel bod falf bwysedd wedi cael ei ryddhau pan maen nhw'n siarad â ni.
"Mae mwy o ymwybyddiaeth nawr nag oedd yn arfer bod ac rydyn ni'n cael mwy o alwadau, ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod llawer o ddynion yn eistedd ac yn dioddef yn dawel.
"Neu yn eithaf aml mae dynion yn dod atom ni mewn argyfwng, pan mae pethau'n ddrwg iawn. Nid ydym am iddo gyrraedd y cam hwnnw, hoffem iddynt estyn allan am gymorth pan fyddant yn cydnabod nad yw rhywbeth yn iawn."
'Cymryd honiadau o ddifrif'
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod yn "gweithredu i gefnogi holl ddioddefwyr a mynd i'r afael â throseddwyr" yn ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth.
"Rydyn ni'n disgwyl i bob llu heddlu gymryd honiadau o gam-drin domestig o ddifrif," meddai llefarydd.
"Fe wnaeth y Ddeddf Cam-drin Domestig gryfhau'r gyfraith ar reolaeth drwy orfodaeth fel y gall troseddwyr gael eu herlyn hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n byw gyda'u dioddefwyr bellach, ac fe gyflwynodd amryw o fesurau ychwanegol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019