Mwy'n defnyddio Rhaglen Rhyddid yn erbyn trais yn y cartref
- Cyhoeddwyd
Gyda chynnydd diweddar yn nifer yr achosion o drais yn y cartref yng Nghymru, mae un asiantaeth sy'n helpu dioddefwyr yn dweud bod mwy a mwy o ferched yn defnyddio cynllun arbennig i'w helpu i adnabod yr arwyddion.
Cafodd y Rhaglen Rhyddid ei greu gan Pat Craven a'r syniad wedi ei ddefnyddio'n sail i gynlluniau ar draws Prydain, gan gynnwys 21 cwrs yng Nghymru.
Mae'r rhaglen yn edrych ar ymddygiad y rhai sy'n gyfrifol am drais yn y cartref, yn ogystal ag ymateb y dioddefwyr.
Y syniad ydy codi ymwybyddiaeth o'r tactegau fel bod modd i rywun adnabod yn gynt os ydyn nhw mewn perthynas dreisgar.
Un o'r asiantaethau sy'n gyfrifol am y cyrsiau 11 wythnos yng Ngwynedd a Môn ydy Gorwel.
Dywedodd Sioned Thomas o'r asiantaeth bod merched yn aml yn cyrraedd gydag ofn, a "ddim yn siŵr iawn be' sy' o'u blaena' nhw".
"Wedyn 'da ni'n cychwyn ar y cyflwyniad ac wedyn bob wythnos 'da ni'n gweithio ar wahanol dactegau mae'r dominator yn defnyddio.
"Ma' merched yn gallu gadael eu perpetrators pan ma' nhw yng nghanol y cynllun yma. Ma' nhw'n teimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth a ma' nhw'n symud ymlaen yn eu bywydau mewn ffordd bositif iawn."
Yn ôl Ms Thomas, mae 'na gynnydd amlwg yn nifer y merched sy'n defnyddio'r gwasanaeth, gyda thri cynllun yn rhedeg ar unwaith, a thua 20 o ferched ar hyn o bryd.
Er bod Gorwel yn cynnig cefnogaeth i ddynion, dydyn nhw ddim yn gallu ymuno â'r Rhaglen Rhyddid.
'Dydy hi byth rhy hwyr... Ond ma'n cymryd lot o guts'
"O'dd y berthynas o'n i ynddi yn fwy controlling a coercive, really. Pan nath o ddechrau allan o'dd o'n hollol whirlwind," meddai un ddynes sydd wedi defnyddio'r cynllun.
"Nes i symud mewn yn sydyn a wedyn buan iawn 'nath petha' ddechrau troi yn flêr - cael fy ngalw'n enwau, cael fy nghyhuddo o bob math o betha', dim cael gwisgo be o'n i isho gwisgo, make-up a petha', dim yn cael pobl - dynion especially - ar petha' fel Snapchat a Facebook.
"Wedyn o'dd o'n g'neud bob dim yn hollol wahanol iddo fo'i hun so o'dd o'n one rule i fi a rule arall iddo fo.
"Dydy hi byth rhy hwyr i 'neud y penderfyniad. Dwi'n meddwl y push i fi oedd pan es i i ddisgw'l a 'neud o er lles y plant fwy.
"Ond ma'n cymryd lot o guts, really - dim jest i ddod allan ond i gyfadda' i chi'ch hun bod o'n digwydd."
'Hyderus am y dyfodol'
"Dwi'n meddwl bod y cwrs Freedom yn rhoi'r sgiliau i chi fod yn fwy assertive so os 'da chi'n gweld y traits eto, fasa gynnoch chi'r confidence i ddeud "na, no way" a cherdded i ffwrdd.
"Ma'n rwbath i edrych 'mlaen i bob wsnos, jyst cael support pobl sy' 'di bod drwyddo fo nhw'u hunain ac sy' actually yn dallt.
"Dwi'n teimlo'n fwy hyderus am y dyfodol.
"Er bod o'n mynd i effeithio ar rywun long term, fatha methu trystio pobl yn hollol 'lly, ond ma' jyst medru mynd allan a g'neud yn union be ti isho ei 'neud, bod yn pwy bynnag tisho bod, mae o jyst yn braf."
Esboniodd Ms Thomas bod sawl math gwahanol o drais yn y cartref: "Mae 'na lot o wahanol dactegau ma' nhw'n eu defnyddio.
"Mae 'na lot o bobl yn meddwl os nad ydyn nhw'n cael eu taro, nad ydyn nhw mewn perthynas dreisgar - ond fel mae'r cynllun yn mynd yn ei flaen, ma' nhw'n dod i sylweddoli bod 'na wahanol fathau.
"Lot o ferched yn cael trais rhywiol, meddyliol, emosiynol - a hefyd, lot o bobl ddim yn sylweddoli faint ma' nhw'n ei golli efo arian, bod y dynion yn gyfrifol am eu harian nhw hefyd."
Ar ddiwedd y cyrsiau, mae modd gweld gwahaniaeth mawr yn y merched: "Ma' nhw'n cychwyn yn ofn ac yn nerfus ac ma' nhw'n gadael yn bositif, ma' nhw'n edrych 'mlaen i fywyd.
"Rhai pobl yn dal efo'u partneriaid ond ma' lot o ddynion yn medru mynd ar y rhaglen Caring Dads, a ma' nhw'n adrodd yn ôl bod nhw'n gweld gwahaniaeth mawr.
"Ma' merched eraill 'da ni'n gweld yn medru symud ymlaen a gadael y berthynas dreisgar a symud ymlaen efo'u bywydau efo nhw a'r plant."
Mae'r Rhaglen Rhyddid ar gael yn rhad ac am ddim ac mae modd gwneud cais yn uniongyrchol â'r asiantaethau lleol sy'n eu cynnal, neu gael eich cyfeirio gan yr heddlu, eich meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019