Gweithio hybrid yn hwb, ond rhybudd am orweithio

  • Cyhoeddwyd
Gweithio adrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 63% o fusnesau yn bwriadu parhau gyda gweithio hybrid yn y dyfodol, yn ôl arolwg diweddar

Gyda'r rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid wedi'u codi erbyn hyn, mae rhai o gyflogwyr mwya' Cymru yn bwriadu parhau gyda rhywfaint o weithio o adref wedi'r pandemig.

Mae'r hyblygrwydd yma wedi creu mwy o gyfleon gwaith i bobl anabl.

Ond mae undebau'n rhybuddio bod angen cyflogau cyfartal - yn ogystal â sicrwydd na fydd 'na ymyrryd ar fywydau gweithwyr y tu hwnt i oriau gwaith.

Ar gyrion Abertawe mae staff cwmni Telesgop yn cynhyrchu Ffermio - un o gyfresi fwya' poblogaidd S4C.

Fel pob cwmni yn ystod y pandemig bu'n rhaid i Telesgop addasu, gyda'r rhan fwya' o staff adref a dim ond rheiny fu'n cadw'r rhaglen ar-yr-awyr oedd yn y swyddfa.

Er bod y cyfyngiadau wedi'u codi, mi fydd gweithio hybrid - rhan o'r wythnos adre', a rhan o'r wythnos yn y gwaith - yn rhywbeth fydd yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni yswiriant Admiral ymysg y cwmnïau mawr yng Nghymru sy'n bwriadu parhau gyda gweithio hybrid

"Ni wastad wedi bod yn eitha' hyblyg," meddai Ffion Rees, un o gyfarwyddwyr Telesgop Cyf.

"Os oes rhywbeth gyda'r plant - iawn, dim problem, felly ni dal yn gweithio felly.

"Mae system 'da ni os oes yw rhywun yn teimlo bod ishe dod mewn, ni'n tecstio'r grŵp a rhoi diwrnod o rybudd.

"Ni'n trio cadw'r rhife lawr, ond os ydy rhywun yn teimlo bod angen dod mewn, mae croeso iddyn nhw 'neud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ffion Rees o Telesgop fod y cwmni "wastad wedi bod yn eitha' hyblyg"

Mae rhai o'n cyflogwyr mwya' - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Admiral a Principality - yn ystyried parhau gyda gweithio'n hyblyg ar ôl y pandemig hefyd.

"Maen nhw'n dweud wrthon ni eu bod nhw'n mwynhau bod yn hyblyg efo'u patrwm gwaith," meddai Harri Jones o Gymdeithas Adeiladu Principality.

"Yn y dyfodol y nod ydy medru gweithio o adre' fel maen nhw rŵan, lle mae hynny'n siwtio'r math o dasg sydd ganddyn nhw.

"Ond mae staff yn dweud yn glir hefyd y bysan nhw'n hoffi gallu dod mewn i'r swyddfa ambell ddiwrnod a gweithio efo'i gilydd a chael y profiad yna o gymdeithasu gyda'u cydweithwyr."

63% o blaid gweithio hybrid

Yn ôl arolwg gan gymdeithas cyflogwyr yr Institute of Directors mae 63% o fusnesau yn bwriadu parhau gyda gweithio hybrid yn y dyfodol.

Ac yn ôl arolwg arall gan Atlas Cloud mae 63% o weithwyr Cymru yn hoffi'r syniad o weithio hybrid.

Dim ond 6% sydd eisiau mynd yn ôl i'r swyddfa'n llawn amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

6% o weithwyr sydd eisiau mynd yn ôl i'r swyddfa'n llawn amser, yn ôl arolwg

"Mae pobl ag anableddau wedi bod yn gofyn ers blynyddoedd am yr hawl i weithio o adref, a dweud y byddan nhw'n medru bod yn gynhyrchiol, ond mae cyflogwyr wedi gwrthod," meddai Ceri Williams o TUC Cymru.

"Nawr mae'r cyfnod clo, dan amodau arbennig, wedi dangos bod pobl ag anabledd, a phob gweithiwr, yn gallu gweithio yn effeithiol o adref ac yn gynhyrchiol."

Serch hynny mae 'na rybudd bod cyflogau'n parhau yn anghyfartal.

"Mae gap mawr ac mae 'na wahaniaethu yn erbyn pobl sydd ag anabledd: mae 30% yn llai mewn gwaith, ac mae'u cyflog nhw tipyn yn is," meddai Mr Williams.

"Y gobaith ydy y bydd hyn yn gyfle i bobl anabl ddatblygu eu gyrfa, cael mwy o ddewis o swyddi ac felly gall hyn fod yn bositif tu hwnt yn y tymor hir."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ceri Williams mae'r pandemig wedi amlygu i gyflogwyr y gall pobl weithio yn effeithiol o adref

Tra'i bod hi'n glir bod gweithwyr eisiau'r hyblygrwydd sy'n dod law yn llaw gyda gweithio o adref, mae yna rybudd bod angen i gyflogwyr sicrhau nad ydyn nhw'n dod i ddisgwyl bod staff yn gweithio oriau ychwanegol.

"Os ydy pobl yn dewis gweithio o adref, maen nhw'n dewis falle fwy o gydbwysedd yn eu bywydau nhw," meddai Dr Robert Bowen, darlithydd mentergarwch rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

"Trwy wneud hynny maen nhw efallai yn dewis i weithio yn hwyrach yn y nos, neu i wneud fwy o oriau.

"Ond os ydy pobl yn cael eu gorfodi i weithio o adref, a dyw'r ffin rhwng bywyd gartref a bywyd gwaith ddim yn glir, gall hynny arwain at broblemau."

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o weld 30% o'r gweithlu yn aros adref er mwyn lleihau traffig a llygredd.

Yr her ydy cael y balans yn iawn rhwng gwaith a bywyd - balans sy'n plesio gweithwyr a chyflogwyr.

Pynciau cysylltiedig