Mam o flaen Llys y Goron ar gyhuddiad o ladd ei mab

  • Cyhoeddwyd
Natalie Steele
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Natalie Steele ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd dros gyswllt fideo

Mae dynes o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod o flaen llys wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab dyflwydd oed.

Fe wnaeth Natalie Steele, 31 o ardal Broadlands, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd dros gyswllt fideo.

Dim ond siarad er mwyn cadarnhau ei henw wnaeth hi yn ystod gwrandawiad barodd tua 10 munud.

Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddiwrnod ar ôl i'r heddlu fynd i dŷ yn ardal Broadlands ar 11 Awst wedi adroddiad fod bachgen ifanc mewn cyflwr difrifol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Reid Steele yn yr ysbyty ddiwrnod ar ôl cael ei gludo yno o dŷ yn ardal Broadlands

Clywodd y llys bod angen adroddiadau seiciatryddol cyn y gwrandawiad nesaf pan fydd disgwyl i Ms Steele fod yn bresennol yn y llys.

Fe gafodd hi ei chadw yn y ddalfa tan 26 Tachwedd.