Dyn yn gwadu llofruddio merch 16 oed yn Ynyswen

  • Cyhoeddwyd
Chun Xu
Disgrifiad o’r llun,

Chun Xu yn cael ei hebrwng i'r llys ar gyfer gwrandawiad ym mis Mawrth eleni

Mae dyn wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth merch 16 oed yn nhŷ bwyta Chineaidd ei theulu yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth.

Mae Chun Xu wedi'i gyhuddo o lofruddio Wenjing Lin yn ei chartref uwchben bwyty Blue Sky yn Ynyswen, Treorci.

Fe wnaeth Mr Xu hefyd wadu ceisio llofruddio Yongquan Jiang, 38, wrth iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore Gwener.

Dim ond i gadarnhau ei enw wnaeth Mr Xu siarad yn ystod y gwrandawiad, ble roedd yn derbyn cymorth cyfieithydd.

Mae disgwyl iddo wynebu achos yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Tachwedd, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad llys nesaf ar 22 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Wenjing Lin ei bod yn "berson tawel iawn"

Pynciau cysylltiedig